7 RHEOLAETH TRAETHAU GWYNEDD PDF 286 KB
Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Nia Jeffreys
Cyflwyno adroddiad ar yr uchod.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.
Cofnod:
Croesawyd
y Pennaeth
Cynorthwyol Economi a Chymuned a’r Rheolwr Gwasanaeth Morwrol i’r cyfarfod.
Cyflwynwyd
adroddiad y Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Dros Faterion Gweithredol
Economi yn gwahodd y pwyllgor i graffu’r trefniadau ar gyfer rheoli traethau
yng Ngwynedd.
Gosododd yr
Aelod Cabinet y cyd-destun ac ymhelaethodd y Pennaeth Cynorthwyol Economi a
Chymuned ar gynnwys yr adroddiad. Yna rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn
cwestiynau a chynnig sylwadau.
Gan gyfeirio at Dabl 1 ym mharagraff 5.2 o’r
adroddiad, holwyd a oedd y cynnydd mewn costau gweithwyr o ganlyniad i gynnydd
mewn tâl goramser. Mewn ymateb, nodwyd:-
·
Bod
y patrymau gwariant yn amlygu’r pwysau aruthrol ar yr arfordir dros y 2-3
blynedd ddiwethaf sydd wedi arwain at orfod ymestyn cyfnod y wardeiniaid traeth
ynghyd â thalu goramser.
·
Bod
y strwythur parhaol ar hyn o bryd yn cynnwys un Uwch Swyddog Traeth ac un
Swyddog Traeth arall yn unig, ac fel rhan o’r cynnydd yn yr incwm, bod bwriad i
sefydlu dwy swydd arall er mwyn cyfarch y bwlch, sef Swyddog Traeth ar gyfer
Meirionnydd a Swyddog Traeth ar gyfer Morfa Bychan.
·
Bod
llawer o’r gwaith paratoi yn digwydd dros gyfnod y gaeaf ac adnabuwyd bod angen
cryfhau’r strwythur yn hynny o beth.
Holwyd a oedd posibilrwydd o gael is-ddeddf
i roi pwerau i’r swyddogion traeth ddirwyo pobl sy’n camymddwyn gyda cheir, ac
ati, ar y traeth. Mewn ymateb, nodwyd:-
·
Bod
y Gwasanaeth yn gweithio’n agos gyda’r Heddlu, ac yn benodol felly ym Morfa
Bychan, sef yr unig draeth yng Ngwynedd lle caniateir gyrru a pharcio ar y
traeth.
·
Bod
yna reolau caeth mewn lle a bod yna arwyddion ar y traeth gyda logo’r Heddlu
a’r Cyngor arnynt. Roedd y staff sy’n
cerdded y traeth yn defnyddio camerâu corff ac roedd gan y staff gamerâu yn y
cerbydau hefyd, fel bod modd pasio tystiolaeth ymlaen i’r Heddlu.
·
Y
byddai’n fuddiol petai gan y swyddogion traeth, yn enwedig y prif swyddogion,
bwerau i gyflwyno dirwyon cosb i’r sawl sy’n troseddu ar y traethau, a chredid
bod angen arweiniad gan yr Adran Gyfreithiol ar hyn.
Holwyd a oedd rheolaeth traethau yn ddiogel
rhag toriadau, ayb, o ystyried ei fod yn wasanaeth anstatudol i lywodraeth
leol. Mewn ymateb, nodwyd:-
·
Er
bod y gwasanaeth yn anstatudol, bod y maes yn cyffwrdd â nifer o gyfrifoldebau
sy’n statudol, ac er bod yna ansicrwydd o ran y fframwaith cyfreithiol, na
chredid y byddai’r Adran na’r Gwasanaeth yn argymell nad oes yna unrhyw
gyfrifoldeb o gwbl, boed hynny’n gyfrifoldeb moesol bron iawn, fwy na
chyfrifoldeb cyfreithiol.
·
Y
bu achosion yn y gorffennol o dorri ar wasanaethau oherwydd yr angen i sicrhau
arbedion, ond yn anffodus, gwelwyd bod peidio rhoi gwasanaeth yn gallu esgor ar
broblemau.
·
Mai
mater i’r holl aelodau fyddai adnabod sut y bydd y Cyngor yn ymateb i’r heriau
ariannol, ond bod yr Adran yn ymwybodol o ba mor bwysig yw rhoi’r ddarpariaeth
ar ein traethau.
·
Efallai
bod yna opsiynau i wneud arbedion heb dorri gwasanaethau rheng flaen, ac roedd
cynyddu incwm yn un o’r opsiynau hynny.
Holwyd a ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7