10 ADRODDIAD HERIO PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS BLANT A CHEFNOGI TEULUOEDD PDF 193 KB
Cyflwynwyd gan: Cyng. Elin Walker Jones
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.
Cofnod:
Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Cyng. Elin Walker Jones
PENDERFYNIAD
Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.
TRAFODAETH
Atgoffwyd yr Aelodau bod yr adran yn rhoi pobl
Gwynedd yn ganolog i’w gwasanaethau a bod eu llwyddiant i wneud hyn yn cael ei
fesur drwy gyfarfodydd Herio Perfformiad rheolaidd.
Adroddwyd bod yr adran yn arwain ar ddau o brosiectau Cynllun y Cyngor.
Nodwyd mai un ohonynt yw’r ‘Cynllun Cartrefi Grŵp Bychan’. Eglurwyd bod yr
adran yn datblygu cartrefi preswyl cofrestredig ar gyfer grwpiau bychan o hyd
at ddau o blant fydd yn caniatáu iddynt gael gofal yng Ngwynedd, mynychu
ysgolion lleol, a chymryd rhan gyflawn ym mywyd eu cymunedau. Cadarnhawyd bod
ymweliadau eiddo wedi cymryd lle er mwyn symud y prosiect yn ei flaen a
thŷ wedi cael ei ystyried. Manylwyd bod darn o dir mewn ardal arall o
Wynedd yn cael ei ystyried i adeiladu tŷ ar gyfer y pwrpas y cynllun hwn.
Esboniwyd bydd grŵp prosiect yn cael ei sefydlu yn 2024 yn cynnwys
swyddogion yr adran Blant, Tai ac Eiddo, Addysg a’r Gwasanaeth Iechyd i
oruchwylio’r cynllun. Sicrhawyd bod £50,000 yn ychwanegol wedi ei ddyrannu i’r
prosiect yn ddiweddar o danwariant cronfa RIF.
Adroddwyd mai’r ail brosiect Cynllun y Cyngor
sydd o dan arweiniad yr Adran yw’r ‘Cynllun Awtistiaeth’. Eglurwyd bod plant,
pobl ifanc ac oedolion awtistig yn wynebu heriau i dderbyn cefnogaeth arbenigol
angenrheidiol. Ymrwymwyd i wella’r gwasanaeth gan ei wneud yn haws i unigolion
dderbyn gwasanaethau. Cadarnhawyd bod fforwm wedi ei sefydlu ar gyfer edrych ar
y cyfeiriadau sydd yn cyrraedd y Cyngor. Darparwyd gwybodaeth am lansiad y
Gwasanaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni ac roedd hyn wedi bod yn
llwyddiannus iawn. Nodwyd bod nifer o staff y Cyngor bellach wedi cael cyfle i
fynd ar y Bws Profiad Realiti Awtistiaeth sy’n rhoi profiad tebyg i sut mae
unigolyn gydag Awtistiaeth yn gweld y byd o’u cwmpas. Manylwyd ei fod yn
ofynnol i staff Cyngor Gwynedd gwblhau hyfforddiant lefel 1 a 2 yn y maes
awtistiaeth. Sicrhawyd bod yr adran yn cydweithio’n gyson gyda’r Tîm Niwroddatblygiadol a Thîm Derwen gyda’r cynllun.
Cydnabuwyd bod sefyllfa gweithlu'r adran yn
parhau i fod yn fater o bryder difrifol. Er hyn, cadarnhawyd bod yr adran yn
ymdrechu i sefydlogi’r sefyllfa at y dyfodol drwy gydweithio gyda Grŵp
Llandrillo Menai ac ymweliadau gyda myfyrwyr Iechyd a Gofal i’w hysbysu o’r
cyfleoedd cyflogaeth sydd ar gael.
Cadarnhawyd bod yr adran yn parhau i weld natur
ddwys a chymhleth yn dod i sylw’r Cyngor a bod y niferoedd yr achosion agored
yn cynyddu. Manylwyd bod niferoedd yr achosion sydd yn agored i’r Tîm Ôl-16 ar
ei uchaf erioed, gydag 210 o achosion yn cael eu hymdrin â hwy. Ystyriwyd bod
hyn yn mynd law yn llaw gyda chynnydd mewn cyfraniadau digartrefedd ac felly
mae’r adran yn cydweithio gyda’r Tîm
Digartrefedd i geisio canfod lloches addas. Cydnabuwyd bod hon yn her enfawr.
Nodwyd bod effeithiau’r pandemig, argyfwng costau a straen yn arwain at niferoedd uwch o bobl cysylltu gyda’r adran am ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10
Awdur: Marian Parry Hughes: Pennaeth Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd