6 DOGFEN YMGYNGHOROL AMCANION CYDRADDOLDEB 2024-28 PDF 171 KB
Cyflwynwyd gan: Cyng. Menna Trenholme
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cytunwyd i ryddhau’r ddogfen ymgynghorol
Amcanion Cydraddoldeb 2024-28 ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus yn unol â’r
adroddiad.
Cofnod:
Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Cyng. Menna Trenholme.
PENDERFYNIAD
Cytunwyd i ryddhau’r ddogfen ymgynghorol
Amcanion Cydraddoldeb 2024-28 ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus yn unol â’r
adroddiad.
TRAFODAETH
Atgoffwyd yr aelodau
bod y ddogfen hon yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet bob pedair blynedd, yn unol â
gofynion statudol i adolygu amcanion cydraddoldeb o dan Deddf Cydraddoldeb
2010. Cadarnhawyd bod ymgysylltu gyda’r cyhoedd wedi ei gyflawni rhwng Ebrill
ac Awst 2023 ble cafwyd oddeutu 600 o ymatebion i holiadur barn. Eglurwyd mai
pwrpas yr ymgynghoriad oedd cadarnhau os oedd y cyhoedd yn credu bod angen i’r
amcanion a ddefnyddiwyd rhwng 2024-28 barhau ar gyfer 2024-28 neu a oedd angen
eu diwygio.
Nodwyd bod
swyddogion wedi bod yn ymweld â nifer o grwpiau a digwyddiadau er mwyn sicrhau
bod yr ymgynghoriad hwn yn cynnwys llais yr ifanc, pobl y gymuned LDHT+ a phobl
anabl. Eglurwyd bod swyddogion wedi cael trafodaethau gyda rheolwyr o fewn y
meysydd a oedd wedi codi, er mwyn derbyn cymorth i lunio’r amcanion.
Defnyddiwyd y wybodaeth a dderbyniwyd gan ymatebwyr â phrofiad bywyd o
nodweddion gwarchodedig er mwyn creu’r amcanion diwygiedig drafft.
Adroddwyd y
defnyddiwyd data a gasglwyd gan dîm ymchwil a gwybodaeth y Cyngor ar gyfer
dogfen a gomisiynwyd gan Rwydwaith Cydraddoldeb Sector Gyhoeddus Gogledd Cymru
i sicrhau dealltwriaeth o’r wybodaeth ar raddfa leol. Cadarnhawyd bod
ystyriaeth wedi cael ei roi i ddyletswyddau gweithredu'r Llywodraeth ym meysydd
Gwrth-hiliaeth a LHDT+ wrth lunio amcanion drafft.
Pwysleisiwyd mai
amcanion drafft sydd wedi eu nodi yn y ddogfen ac y bydd modd i’r rhain cael eu
diwygio yn dilyn ymgynghoriad pellach gyda’r cyhoedd. Sicrhawyd bod yr Asesiad
Effaith Cydraddoldeb a gyflwynwyd gyda’r ddogfen, yn un drafft, a byddai’n cael
ei ddiwygio yn ôl yr angen pan fydd adborth bellach wedi eu casglu.
Cadarnhawyd mai’r pedwar amcan drafft cyn ymgynghori’n bellach yw:
1.
Gwella
amrywiaeth ein gweithlu a lleihau bylchau tâl
2.
Gwella
ein data am bobl â nodweddion cydraddoldeb
3.
Sicrhau
fod y Cyngor yn fudiad wrth-wahaniaethol trwy wella ein systemau mewnol er mwyn
darparu gwell gwasanaethau i bawb
4.
Gwella
cydraddoldeb o fewn maes addysg
Diolchwyd i’r swyddogion
am lunio amcanion siarp gan uno rhai amcanion blaenorol. Nodwyd bod hyn yn
galluogi ystyried cydraddoldeb o fewn maes addysg fel amcan newydd. Teimlwyd
bod hyn yn hollbwysig gan ei fod yn cyd-fynd â Chwricwlwm i Gymru ac addysg
cydberthynas a rhywioldeb.
Amlygwyd nad oedd capasiti ac ymrwymiad staff
ac aelodau etholedig y Cyngor ym maes cydraddoldeb, yn ogystal â hyfforddiant
perthnasol, wedi ei gynnwys yn y ddogfen hon, er ei fod yn amcan yn y
gorffennol. Sicrhawyd yr Ymgynghorydd Cydraddoldeb bod hyfforddiant yn bwynt
gweithredu o dan addewid i wneud Cyngor gwrth-wahaniaethol. Pwysleisiwyd bod
llawer o waith wedi ei wneud ar y maes hwn yn barod ac felly mae wedi ei
gynnwys fel pwynt gweithredu yn hytrach nag amcan. Nodwyd y byddai hyn yn cael
ei amlygu o fewn y ddogfen.
Adroddwyd nad oedd materion yr iaith Gymraeg wedi ei nod i fel amcan o fewn y ddogfen. Cadarnhawyd bod hyn oherwydd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6
Awdur: Delyth Williams: Ymgynghorydd Cydraddoldeb