6 Cais Rhif C22/0969/45/LL Tir ar Ffordd Caernarfon, Pwllheli, LL53 5LF PDF 611 KB
Adeiladu siop fwyd Aldi newydd (dosbarth defnydd A1), maes parcio,
mynedfa, gwasanaethu a tirlunio
AELOD LLEOL:
Cynghorydd Elin Hywel
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Caniatáu'r cais yn ddarostyngedig i'r amodau isod:
1. Amserlenni
2. Yn
unol â'r cynlluniau a gymeradwywyd.
3. Deunyddiau
yn unol gyda’r cynlluniau oni bai y cytunir yn wahanol ymlaen llaw gyda’r
Awdurdod Cynllunio Lleol.
4. Amodau
manwerthu i gyfyngu arwynebedd gofod llawr, dim rhannu'n unedau llai
5. Amser
agor y siop
6. Rheoli
amser o ran danfoniadau.
7. Amodau
priffyrdd o ran cwblhau’r fynedfa, gwaith lôn, llefydd parcio ac atal dŵr
wyneb.
8. Amodau
gwarchod y cyhoedd o ran system awyru/ uned adfer gwres, lefelau sŵn o
offer mecanyddol, rhwystr ar y bae derbyn nwyddau
9. Cynllun
Rheoli Adeiladu
10. Cadw
at mesurau lliniaru yn yr Asesiad Ansawdd Aer
11. Ymgymryd
gyda’r gwaith yn unol gyda’r cynllun tirlunio a’r Cynllun Cynnal a Rheoli
Tirlunio Meddal, angen ail blannu o fewn cyfnod o 5 mlynedd.
12. Mesurau
gwella/lliniaru y Gymraeg / arwyddion dwyieithog
13. Unol
gyda cynllun goleuo
14. Unol
gyda’r Adroddiad Arolwg Ecolegol.
15. Unol
gyda’r Cynllun Rheolaeth Amgylcheddol
Nodiadau:-
1. Datblygiad
Mawr
2. SUDS
3. Priffyrdd
– hawl adran 171/184 o’r Ddeddf Priffyrdd 1980
4. Sylwadau
Dŵr Cymru
5. Sylwadau
Gwarchod y Cyhoedd
6. Sylwadau
CNC
Cofnod:
Adeiladu siop fwyd Aldi newydd (dosbarth defnydd A1), maes parcio, mynedfa,
gwasanaethu a tirlunio
Roedd rhai o’r Aelodau wedi ymweld â’r safle 10-11-23
Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr oedd yn nodi gwybodaeth pellach
ynglŷn a chaniatâd System Draenio Cynaliadwy, copi o lythyr gan JLL yn
cynnig sylwadau ar eiriad rhannau o’r adroddiad, ymateb yr Uned Bolisi i’r
llythyr hwnnw, a nodyn eglurdeb o ran mynediad.
a)
Amlygodd Arweinydd Tîm Rheoli Datblygu, mai cais llawn ydoedd i adeiladu siop fwyd newydd
oddi ar yr A499 Ffordd Caernarfon, sef un o'r prif ffyrdd i mewn ac allan o
Bwllheli. Roedd y bwriad hefyd yn cynnwys
·
Creu
mynedfa newydd i Ffordd Caernarfon ynghyd a 114 o fannau parcio, i gynnwys lle
i'r anabl, rhiant a phlentyn, lle gwefru cerbydau trydan, lle ar gyfer beiciau
modur a lle diogel i feiciau.
·
Darparu llwybr
cerdded/beicio gerllaw Ffordd Caernarfon ynghyd a chroesfan sebra.
·
Darparu lloches bws gyferbyn
ar safle ar Ffordd Caernarfon
·
Cyflwyno cyfyngiad cyflymder
is ar Ffordd Caernarfon o 30 milltir yr awr.
·
Darparu is-orsaf drydan
·
Gwaith tirlunio meddal.
Eglurwyd bod y safle wedi ei leoli o fewn ffin
ddatblygu’r dref – yn ffurfio rhan o safle ehangach sydd wedi ei ddynodi ar
gyfer tai (T28) yn y Cynllun Datblygu lleol (CDLl).
Gorweddai o fewn Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Llŷn ac Ynys
Enlli a rhan o’r safle yn ffurfio safle bywyd gwyllt ymgeisiol
Penlon Caernarfon.
Cyfeiriwyd at yr asesiad a wnaed o’r prif faterion megis effaith y
datblygiad ar y dynodiad tai a’r canol dref o ran manwerthu.
Er bod y safle wedi ei ddynodi ar gyfer tai yn y CDLl, derbyniwyd Asesiad Hyfywedd oedd yn nodi, ar sail y
farchnad dai presennol, nad oedd datblygu’r safle ar gyfer tai yn hyfyw a bod yr ymgeisydd yn datgan fod y bwriad yn
hanfodol i hwyluso’r ddarpariaeth breswyl ar y safle – ni fyddai’n realistig y byddai unrhyw ddefnydd preswyl yn
digwydd i’r dyfodol onibai am y datblygiad yma. O
ganlyniad, drwy gyflwyno’r defnydd amgen o archfarchnad byddai’r safle’n cael
ei ddatgloi gan alluogi rhywfaint o ddatblygiad preswyl yn hytrach na dim o
gwbl. Yn ogystal, amlygwyd fod y safle wedi cael ei farchnata ar gyfer defnydd
preswyl ers 2020 ac nad oedd unrhyw gynnig wedi ei dderbyn arno. Cytunwyd bod
datblygu rhan o’r safle ar gyfer y defnydd manwerthu arfaethedig yn hwyluso’r
cyfle i weddill y ddynodiad ddod ymlaen ar gyfer defnydd preswyl disgwyliedig
ac a’r sail tystiolaeth a gyflwynwyd gyda’r cais, bod modd mynd yn groes i bolisïau
tai perthnasol y CDLl yn yr achos yma.
Yng nghyd-destun effaith y bwriad ar siopau presennol a chanol tref Pwllheli, amlygwyd bod Polisi Cynllunio Cymru (PCC) yn nodi y gallai'r angen am siop fod yn feintiol neu'n ansoddol, ond dylid rhoi blaenoriaeth i sefydlu angen meintiol cyn ystyried yr angen ansoddol. Wrth gyfiawnhau’r angen ansoddol, eglurwyd y dylid ystyried agweddau cadarnhaol a negyddol gyda NCT4 yn cyfeirio at ganlyniadau anfwriadol ac effaith andwyol ar ganol trefi. Nodwyd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6