Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 20/11/2023 - Pwyllgor Cynllunio (eitem 6)

6 Cais Rhif C22/0969/45/LL Tir ar Ffordd Caernarfon, Pwllheli, LL53 5LF pdf eicon PDF 611 KB

Adeiladu siop fwyd Aldi newydd (dosbarth defnydd A1), maes parcio, mynedfa, gwasanaethu a tirlunio

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Elin Hywel

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu'r cais yn ddarostyngedig i'r amodau isod:

 

1.         Amserlenni

2.         Yn unol â'r cynlluniau a gymeradwywyd.

3.         Deunyddiau yn unol gyda’r cynlluniau oni bai y cytunir yn wahanol ymlaen llaw gyda’r Awdurdod Cynllunio Lleol.

4.         Amodau manwerthu i gyfyngu arwynebedd gofod llawr, dim rhannu'n unedau llai

5.         Amser agor y siop

6.         Rheoli amser o ran danfoniadau.

7.         Amodau priffyrdd o ran cwblhau’r fynedfa, gwaith lôn, llefydd parcio ac atal dŵr wyneb.

8.         Amodau gwarchod y cyhoedd o ran system awyru/ uned adfer gwres, lefelau sŵn o offer mecanyddol, rhwystr ar y bae derbyn nwyddau

9.         Cynllun Rheoli Adeiladu

10.       Cadw at mesurau lliniaru yn yr Asesiad Ansawdd Aer

11.       Ymgymryd gyda’r gwaith yn unol gyda’r cynllun tirlunio a’r Cynllun Cynnal a Rheoli Tirlunio Meddal, angen ail blannu o fewn cyfnod o 5 mlynedd.

12.       Mesurau gwella/lliniaru y Gymraeg / arwyddion dwyieithog

13.       Unol gyda cynllun goleuo

14.       Unol gyda’r Adroddiad Arolwg Ecolegol.

15.       Unol gyda’r Cynllun Rheolaeth Amgylcheddol

 

Nodiadau:-

1.         Datblygiad Mawr

2.         SUDS

3.         Priffyrdd – hawl adran 171/184 o’r Ddeddf Priffyrdd 1980

4.         Sylwadau Dŵr Cymru

5.         Sylwadau Gwarchod y Cyhoedd

6.         Sylwadau CNC

 

Cofnod:

Adeiladu siop fwyd Aldi newydd (dosbarth defnydd A1), maes parcio, mynedfa,

gwasanaethu a tirlunio

 

Roedd rhai o’r Aelodau wedi ymweld â’r safle 10-11-23

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr oedd yn nodi gwybodaeth pellach ynglŷn a chaniatâd System Draenio Cynaliadwy, copi o lythyr gan JLL yn cynnig sylwadau ar eiriad rhannau o’r adroddiad, ymateb yr Uned Bolisi i’r llythyr hwnnw, a nodyn eglurdeb o ran mynediad.

 

a)    Amlygodd Arweinydd Tîm Rheoli Datblygu, mai cais llawn ydoedd i adeiladu siop fwyd newydd oddi ar yr A499 Ffordd Caernarfon, sef un o'r prif ffyrdd i mewn ac allan o Bwllheli. Roedd y bwriad hefyd yn cynnwys

·         Creu mynedfa newydd i Ffordd Caernarfon ynghyd a 114 o fannau parcio, i gynnwys lle i'r anabl, rhiant a phlentyn, lle gwefru cerbydau trydan, lle ar gyfer beiciau modur a lle diogel i feiciau.

·         Darparu llwybr cerdded/beicio gerllaw Ffordd Caernarfon ynghyd a chroesfan sebra.

·         Darparu lloches bws gyferbyn ar safle ar Ffordd Caernarfon

·         Cyflwyno cyfyngiad cyflymder is ar Ffordd Caernarfon o 30 milltir yr awr.

·         Darparu is-orsaf drydan

·         Gwaith tirlunio meddal.

 

Eglurwyd bod y safle wedi ei leoli o fewn ffin ddatblygu’r dref – yn ffurfio rhan o safle ehangach sydd wedi ei ddynodi ar gyfer tai (T28) yn y Cynllun Datblygu lleol (CDLl). Gorweddai o fewn Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Llŷn ac Ynys Enlli a rhan o’r safle yn ffurfio safle bywyd gwyllt ymgeisiol Penlon Caernarfon.

 

Cyfeiriwyd at yr asesiad a wnaed o’r prif faterion megis effaith y datblygiad ar y dynodiad tai a’r canol dref o ran manwerthu.

 

Er bod y safle wedi ei ddynodi ar gyfer tai yn y CDLl, derbyniwyd Asesiad Hyfywedd oedd yn nodi, ar sail y farchnad dai presennol, nad oedd datblygu’r safle ar gyfer tai yn hyfyw a  bod yr ymgeisydd yn datgan fod y bwriad yn hanfodol i hwyluso’r ddarpariaeth breswyl ar y safle – ni fyddai’n  realistig y byddai unrhyw ddefnydd preswyl yn digwydd i’r dyfodol onibai am y datblygiad yma. O ganlyniad, drwy gyflwyno’r defnydd amgen o archfarchnad byddai’r safle’n cael ei ddatgloi gan alluogi rhywfaint o ddatblygiad preswyl yn hytrach na dim o gwbl. Yn ogystal, amlygwyd fod y safle wedi cael ei farchnata ar gyfer defnydd preswyl ers 2020 ac nad oedd unrhyw gynnig wedi ei dderbyn arno. Cytunwyd bod datblygu rhan o’r safle ar gyfer y defnydd manwerthu arfaethedig yn hwyluso’r cyfle i weddill y ddynodiad ddod ymlaen ar gyfer defnydd preswyl disgwyliedig ac a’r sail tystiolaeth a gyflwynwyd gyda’r cais, bod modd mynd yn groes i bolisïau tai perthnasol y CDLl yn yr achos yma.

 

Yng nghyd-destun effaith y bwriad ar siopau presennol a chanol tref Pwllheli, amlygwyd bod  Polisi Cynllunio Cymru (PCC) yn nodi y gallai'r angen am siop fod yn feintiol neu'n ansoddol, ond dylid rhoi blaenoriaeth i sefydlu angen meintiol cyn ystyried yr angen ansoddol. Wrth gyfiawnhau’r angen ansoddol, eglurwyd y dylid ystyried agweddau cadarnhaol a negyddol gyda NCT4 yn cyfeirio at ganlyniadau anfwriadol ac effaith andwyol ar ganol trefi. Nodwyd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6