7 Cais Rhif C23/0614/16/LL Penrala, Tregarth, Bangor, Gwynedd, LL57 4AU PDF 257 KB
Cais llawn i godi 7
tŷ ynghyd â gwaith cysylltiedig i gynnwys gwelliant i'r fynedfa bresennol,
ffordd fynediad fewnol gysylltiedig a thirlunio.
AELOD
LLEOL: Cynghorydd Beca Roberts
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENFERFYNIAD: Dirprwyo’r
hawl i'r cais gael ei ganiatáu yn ddarostyngedig ar dderbyn prisiad llyfr coch
o'r tai i allu pennu disgownt ar y tai fforddiadwy, cytundeb 106 tai
fforddiadwy ac amodau'n ymwneud a’r canlynol :
1.
Dechrau o
fewn 5 mlynedd
2.
Datblygiad yn
cydymffurfio gyda chynlluniau a gymeradwywyd
3.
Defnyddio llechi to
Cymreig neu lechi cyffelyb
4.
Cytuno’r deunyddiau
allanol
5.
Tynnu’r Hawliau Datblygu
a Ganiateir o’r unedau fforddiadwy er sicrhau eu fforddiadwyedd
6.
Amod Dŵr Cymru
7.
Amodau Priffyrdd
8.
Rhaid dilyn argymhellion yr Asesiad Ecolegol Rhagarweiniol
9.
Rhaid dilyn argymhellion yr Asesiad Coedyddiaeth
10.
Amodau Tirlunio
11.
Rhaid dilyn argymhellion yr Asesiad Risg Halogiad Tir
12.
Rhaid rhoi enw Cymraeg
i’r stad a’r tai unigol.
13.
Cyfyngu’r defnydd i
ddosbarth defnydd C3 yn unig
Nodyn – Dŵr Cymru
System
Draenio Gynaliadwy
Uned Trafnidiaeth
Uned
Goed
Cofnod:
Cais
llawn i godi 7 tŷ ynghyd â gwaith cysylltiedig i gynnwys gwelliant i'r
fynedfa bresennol, ffordd fynediad mewnol cysylltiedig a thirlunio.
Roedd rhai o’r
Aelodau wedi ymweld a’r safle 10-11-23
Tynnwyd sylw at y
ffurflen sylwadau hwyr oedd yn nodi bod Uned Gwarchod y Cyhoedd wedi cadarnhau y
gallai fod risg o sŵn ac arogleuon o ganlyniad i agosatrwydd tai i
adeiladau amaethyddol ond nad oedd yr Uned yn ymwybodol o unrhyw ganllawiau na rheoliadau
sy’n nodi pellteroedd rhwng adeiladau o’r fath. Nodwyd hefyd y derbyniwyd
cynllun diwygiedig ar y 27.10.2023 yn dangos storfa biniau ger y fynedfa.
Cadarnhaodd yr Uned Drafnidiaeth a Gwasanaeth Gwastraff ac Ailgylchu bod y
trefniant yn dderbyniol ar y sail na fydd y Cyngor yn gyfrifol am y storfa -
bod hyn yn cael ei sicrhau drwy osod nodyn ar y cais.
a)
Amlygodd Arweinydd Tîm Rheoli Datblygu, mai cais llawn ydoedd i
godi saith annedd gyda gwaith cysylltiedig i wella’r fynedfa bresennol, creu
ardaloedd wedi'u tirlunio a ffordd fynediad mewnol ar ddarn o dir a’i defnyddir
ar hyn o bryd gan fusnes contractwyr trydan. Mae bwriad cadw'r adeilad swyddfa
bresennol sydd ar y safle, sy'n gysylltiedig â’r busnes, ond bydd yn golygu
datblygu’r tir o’i amgylch gan gynnwys dymchwel gweithdy presennol i hwyluso
codi'r tai newydd a'r ffordd fynediad. Bwriedir i ddau o'r tai newydd fod yn
dai fforddiadwy canolraddol.
Cyflwynwyd y cais
i Bwyllgor 23 Hydref 2023 pryd gwnaed penderfyniad i gynnal ymweliad safle.
Saif y safle ar
safle tir llwyd o fewn ffin datblygu Pentref Lleol Tregarth fel y’i diffinnir
gan y CDLl, ond nid yw’r safle wedi ei ddynodi ar
gyfer unrhyw ddefnydd penodol. Saif o fewn Ardal Tirwedd Arbennig ddynodedig a
Thirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Dyffryn Ogwen ac o fewn parth
clustogi dau Henebyn Cofrestredig megis, CN202 Cytiau Parc Gelli a CN417,
Rheilffordd Chwarel Penrhyn, sydd hefyd yn ffurfio rhan o Safle Treftadaeth y
Byd UNESCO.
O ran egwyddor y
datblygiad, nodwyd bod Tregarth wedi ei adnabod fel Pentref Lleol dan bolisi
TAI 4 sy’n caniatáu datblygiadau tai er mwyn cwrdd â strategaeth y Cynllun
trwy’r defnydd o safleoedd ar hap addas o fewn y ffin datblygu. Ategwyd bod
tystiolaeth briodol wedi ei dderbyn yn nodi y bydd y cynllun yn helpu cwrdd
gydag anghenion tai cydnabyddedig y gymuned leol. Ystyriwyd felly bod y cynnig
yn gyson gydag amcanion polisïau TAI 4, PCYFF 8 a PS 17 a bod egwyddor y
datblygiad yn gyson gyda pholisïau tai'r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl).
Yng nghyd-destun
lleoliad, dyluniad ac effaith gweledol y bwriad, adroddwyd bod gosodiad,
dyluniad a deunyddiau'r datblygiad arfaethedig yn gweddu’r lleoliad mewn modd
priodol. Ystyriwyd bod y tai wedi eu dylunio i ansawdd safonol a bod y cynigion
tirweddu’n gweddu naws y pentref. Er yn cydnabod sylwadau a dderbyniwyd, ni
ystyriwyd y byddai’r tai yn achosi niwed arwyddocaol i ansawdd adeiledig y
safle na’r gymdogaeth leol.
Yng nghyd-destun y dirwedd hanesyddol, nodwyd bod CADW yn cadarnhau na fyddai niwed arwyddocaol i’r dirwedd hanesyddol ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7