Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 20/11/2023 - Pwyllgor Cynllunio (eitem 8)

8 Cais Rhif C23/0500/00/AC Fflat 2il a 3ydd Llawr, 17 Rhodfa'r Môr, Abermaw, Gwynedd, LL42 1NA pdf eicon PDF 217 KB

Diwygio amod 5 ar ganiatâd cynllunio C21/0575/00/LL fel fod 3 o'r anheddau i'w defnyddio ar gyfer defnydd preswyl o fewn dosbarth defnydd C3 a 3 o'r anheddau i'w defnyddio unai o fewn dosbarth defnydd C3 neu C6

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Rob Triggs

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Gwrthod

 

Mae’r bwriad i ddiwygio’r amod er defnyddio 3 o’r unedau ar gyfer llety gwyliau dosbarth defnydd C6 yn annerbyniol ar sail fod y nifer cyfunol o ail gartrefi a llety gwyliau ardal Cyngor Tref Abermaw yn 18.40% sydd dros y rhiniog o 15% a ystyrir yn orddarpariaeth yn y Canllaw Cynllunio Atodol: Cyfleusterau a Llety i Dwristiaid.  Yn sgil hyn nid yw’r Awdurdod Cynllunio Lleol wedi ei argyhoeddi na fyddai’r datblygiad yn arwain at ormodedd o lety o’r fath yn yr ardal fel y nodir yn maen prawf v o bolisi TWR 2 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn. 

 

 

Cofnod:

Vary condition 5 of planning permission C21/0575/00//LL so that three of the dwellings must be used for residential use within the C3 use class, and three of the dwellings to be used either within C3 or C6 use class.

 

Attention was drawn to the late/additional observations form - a letter dated 16 November 2023 had been sent to the Members and the Planning Unit responding to the report.

 

Diwygio amod 5 ar ganiatâd cynllunio C21/0575/00/LL fel bod 3 o'r anheddau i'w defnyddio ar gyfer defnydd preswyl o fewn dosbarth defnydd C3 a 3 o'r anheddau i'w defnyddio un ai o fewn dosbarth defnydd C3 neu C6

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr / ychwanegol – llythyr dyddiedig 16 Tachwedd 2023 wedi ei anfon at yr Aelodau a'r Uned Cynllunio yn ymateb i’r adroddiad

 

a)    Amlygodd yr Uwch Swyddog Cynllunio mai cais ydoedd i ddiwygio amod 5 ar ganiatâd cynllunio C21/0575/00/LL fel bod 3 o’r anheddau i’w defnyddio ar gyfer defnydd preswyl o fewn dosbarth defnydd C3 a 3 o’r anheddau i’w defnyddio un ai o fewn dosbarth defnydd C3 neu C6.  Caniatawyd cais C21/0575/00/LL ar 6 Rhagfyr 2022 ar gyfer trosi a newid defnydd un annedd yn 6 fflat 1 ystafell wely.  Ymddengys nad yw’r caniatâd blaenorol wedi ei weithredu eto ac ei fod yn parhau fel un tŷ). Mae amod 5 o ganiatâd C21/0575/00/LL yn datgan:-

 

“Rhaid defnyddio’r uned/au byw a ganiateir drwy hyn at ddefnydd anheddol o fewn Dosbarth Defnydd C3 fel y'i diffinnir gan y Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Dosbarthiadau Defnydd) 1987 (fel y'i diwygiwyd) yn unig ac nid at unrhyw ddefnydd arall gan gynnwys unrhyw ddefnydd arall o fewn Dosbarthau Defnydd C.”

 

Gyda’r cais yn ymwneud â diwygio neu ddiddymu amod, eglurwyd bod rhaid edrych os yw’r amod yn parhau’n berthnasol dan y canllawiau cenedlaethol ac yn cwrdd â 6 maen prawf gofynion Cylchlythyr Llywodraeth Cymru: Defnyddio Amodau Cynllunio i Reoli Datblygu. Yn ychwanegol, atgoffwyd yr Aelodau  o’r newidiadau sydd wedi bod i’r Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Dosbarthiadau Defnydd) llynedd, o ran dosbarthiadau defnydd unedau preswyl gyda defnydd C3 yn parhau ar gyfer unig neu brif breswylfa. Cyflwynwyd dau ddosbarth defnydd ychwanegol (dosbarth C5 ail gartref a ddefnyddir mewn modd gwahanol i brif neu unig breswylfa a dosbarth C6 ar gyfer llety gwyliau tymor byr). Yn ychwanegol, cyflwynwyd adroddiad i’r Cabinet ar 13 Mehefin 2023 yn amlinellu’r materion a’r cyfiawnhad dros gyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4 er mwyn gallu rheoli’r trosglwyddiad mewn defnydd o dai preswyl i ddefnydd gwyliau (ail gartrefi a llety gwyliau).

 

Yn y cyd-destun yma, gosodwyd yr amod ar ganiatâd C21/0575/00/LL, yn cyfyngu meddiannaeth yr unedau i dai preswyl parhaol (C3), a rhoddwyd ystyriaeth i’r polisïau tai perthnasol ar y pryd.

 

Ystyriwyd Polisi TWR2 ac er bod y bwriad yn cydymffurfio a’r mwyafrif o’r meini prawf, bod y cais yn methu ar faen prawf 5 o Bolisi TWR 2 y CDL sy’n nodi na ddylai’r datblygiad arwain at ormodedd o lety o’r fath yn yr ardal. Er bod Cynllun  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8