5 GWASANAETH GOFAL DYDD PDF 148 KB
Ystyried yr adroddiad.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
a) Derbyn
yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.
b)
Cefnogi’r bwriad i gynnal adolygiad llawn o’r
ddarpariaeth bresennol ac ystyried model amgen.
c)
Gofyn i’r swyddogion sicrhau bod y model newydd
yn darparu gwasanaeth cyson ar draws y sir gan gynnwys gwasanaeth i rai sy’n
byw mewn ardaloedd gwledig.
d)
Gofyn i’r adran gyflwyno adroddiad pellach ar yr
adolygiad a’r modelau posib pan yn amserol er mwyn rhoi cyfle i’r craffwyr roi
mewnbwn pellach.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan egluro nad yw’r
model traddodiadol o ddarparu Gofal Dydd wedi ei adolygu yng Ngwynedd ers
blynyddoedd lawer ac nad yw wedi ei addasu i gyfarch anghenion Deddf
Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a ddaeth i rym ym mis Ebrill
2016. Eglurwyd ei bod hi’n amserol i ail-ystyried y ddarpariaeth yn enwedig o
ystyried gwaith diweddar a wnaed gan Lywodraeth Cymru a’r modd y mae’r pandemig
wedi pwysleisio pwysigrwydd cyfleon cymdeithasu a bod yn rhan o gymuned i
lesiant unigolion. Nodwyd mai’r gobaith yw y bydd yr adolygiad yn gyfle i
ystyried ffyrdd gwahanol, mwy addas a hyblyg o ddarparu cefnogaeth a
gwasanaethau.
Esboniwyd bod y Cyngor wedi arfer darparu
rhaglen o weithgareddau gofal dydd traddodiadol mewn lleoliadau penodol yn y
sir ar gyfer oedolion oedd angen cefnogaeth. Roedd y canolfannau hyn yn
galluogi pobl hŷn i gymdeithasu a chymryd rhan mewn gweithgareddau penodol
gan roi cyfle i’r sawl oedd yn gofalu amdanynt o ddydd i ddydd gael ychydig o
seibiant.
Eglurwyd mai bwriad yr adran yw symud i ffwrdd
o’r model traddodiadol o ddarparu gwasanaethau ynghlwm ag adeiladau a
chanolbwyntio yn hytrach ar sut y gellid cyfarch a chefnogi llesiant unigolion
a gofalwyr mewn amryw o wahanol ffyrdd. Er mwyn cyflawni hyn, nodwyd bod yr
adran yn bwriadu cynnal adolygiad ac ymgynghori gyda phobl Gwynedd am
drefniadau darpariaeth gofal dydd.
Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a
ganlyn:-
-
Diolchwyd am yr adroddiad a chroesawyd y
datblygiadau. Mynegwyd gwerthfawrogiad am ba mor onest yw ei gynnwys a’r modd y
mae’n cyfaddef nad yw’r ddarpariaeth bresennol yn llwyddo i gyrraedd pawb.
-
Nodwyd bod Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a
Llesiant (Cymru) 2014 wedi dod i rym ers saith mlynedd bellach ac felly holwyd
pam mai rŵan y mae’r adran yn bwriadu ail-ystyried y ddarpariaeth?
o Mewn ymateb, eglurwyd bod yr adran wedi dechrau ar y gwaith cyn y
pandemig ond bod y gwaith wedi gorfod dod i ben oherwydd materion diogelwch.
Nodwyd ei bod hi’n amserol i ail-ystyried y mater bellach ond rhoddwyd
cydnabyddiaeth i’r ffaith y dylai’r gwaith fod wedi cael ei wneud flynyddoedd
yn ôl.
o Ychwanegodd yr Aelod Cabinet
Oedolion, Iechyd a Llesiant fod pwysau enfawr wedi bod ar yr adran a bod
hynny’n cyfrannu’n uniongyrchol at yr amser mae wedi cymryd i ail-ymweld â’r
gwaith.
-
Mynegwyd pryder nad yw’r ddarpariaeth yn cyrraedd
ardaloedd gwledig y sir a bod angen cymryd camau i sicrhau gwell darpariaeth ar
gyfer yr ardaloedd hyn yn y dyfodol.
o Mewn ymateb, cytunwyd bod y ddarpariaeth mewn ardaloedd gwledig yn bwysig
ond na fydd posib cael canolfan ym mhob pentref.
o Serch hyn, nodwyd bod gweithgareddau cymunedol yn digwydd yn y mwyafrif o
gymunedau a bod angen gweld beth sydd ar gael mewn gwahanol ardaloedd a’u
defnyddio er mwyn darparu’r gefnogaeth i unigolion.
o Nodwyd mai un o’r ffydd gorau o gefnogi pobl ydi parhau i adael iddyn nhw fod yn rhan o’r gymuned, yn enwedig mewn achosion ble mai cwmnïaeth yw’r broblem ac felly ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5