Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Caniatáu’r
cais yn ddarostyngedig i’r amodau isod: -
1. 5 mlynedd.
2. Yn unol â’r dogfennau a’r cynlluniau a gyflwynwyd fel rhan
o’r cais.
3. Cyflwyno manylion edrychiadau allanol.
4. Cyflwyno manylion asbestos cyn dymchwel
5. Cydymffurfio gyda
Rhan 5 (Dehongli a Chyngor) o’r ddogfen Asesiad Effaith Ecolegol ynghyd ag
Asesiad Rheoliadau Rhywogaethau Cysgodol a sylwadau’r uned Bioamrywiaeth.
6. Cwblhau’r cynllun tirlunio o fewn cyfnod penodol.
7. Cydymffurfio gyda chynnwys yr Asesiadau Coedyddiaeth.
8. Amodau safonol
Gwasanaeth Cynllunio Archeolegol Gwynedd parthed cyflwyno manylion rhaglen
waith cofnodi archeolegol yn gyntaf ac, yn dilyn hyn, cyflwyno adroddiad manwl
o’r gwaith archeolegol o fewn 6 mis o gwblhau’r gwaith archeolegol ar y safle.
Cofnod:
Dymchwel adeilad
fferm laeth a sied gwartheg, symud dau danc slyri presennol, codi sied da byw
newydd a pharlwr godro, adeiladu clamp silwair a storfa dail sych, ffordd
fynedfa fewnol ynghyd a gwaith cysylltiedig.
Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau
hwyr oedd yn amlygu cynllun lleoliad diwygiedig yn dangos bod terfyn safle’r cais wedi
ymestyn i gynnwys tir ar gyfer mesurau lliniaru Bioamrywiaeth.
a)
Amlygodd
y Swyddog Rheolaeth Datblygu bod nifer o elfennau i’r cais:
·
Dymchwel
yr adeiladwaith is-safonol presennol sy’n cynnwys y parlwr godro, sied da byw,
a dau dwr slyri.
·
Codi
adeilad ar gyfer parlwr godro gwartheg sy’n cylchdroi
·
Codi
adeilad da byw ar gyfer cadw 224 o wartheg godro
·
Codi
storfa tail sych dan do yn gyfochrog i’r ardal storfa bresennol.
·
Codi
seilo porthiant newydd.
·
Gosod
tanc dal dŵr newydd i ddal dŵr o’r parlwr godro a’r gwastraff
dŵr oddi wrth y pentyrrau o silwair
·
Creu
buarth o lain caled
·
Creu
dau bwll dŵr aflan.
·
Creu
rhwydwaith ffordd fewnol
·
Creu
clawdd/bwnd 1m o uchder a phlannu gwrych cynhenid arno
·
Ynghyd
â Gwelliannau bioamrywiaeth
Yng nghyd-destun
egwyddor y datblygiad, adroddwyd bod yr egwyddor o godi strwythurau amaethyddol
yng nghefn gwlad yn dderbyniol yn ddarostyngedig i gydymffurfiaeth gyda
materion cynllunio eraill.
Ategwyd byddai’r
prosiect arloesol yma yn hyrwyddo effeithiolrwydd, cynaliadwyedd a safonau
rhagorol o ran lles anifeiliaid, gan ddangos arferion da o ran rheoli dŵr
a gwastraff (sy’n cynnwys slyri fferm), yn gynaliadwy o fewn y diwydiant llaeth
yng Nghymru. Cyflwynwyd y cais er mwyn ehangu a diwallu anghenion y Coleg
Amaethyddol i bwrpas addysg a’i gyfraniad pwysig i’r economi leol. Ystyriwyd
bod ei leoliad yng nghefn gwlad yn hanfodol a bod y bwriad yn cydymffurfio
gydag amcanion a nodau polisïau cenedlaethol Nodyn Cyngor technegol 6 a
gofynion Polisi ISA 3 o’r CDLl.
Yng nghyd-destun
mwynderau gweledol, nodwyd y bydd edrychiadau allanol y siediau newydd o
ddeunyddiau traddodiadol ar gyfer y math yma o adeiladwaith ac o ystyried
gosodiad yr adeiladwaith o fewn ac yn gyfochrog ag adeiladau fferm bresennol ac
o ymgymryd â chynllun tirweddu ar hyd ffin orllewinol y safle ni chredir
byddai’r bwriad yn cael ardrawiad sylweddol arwyddocaol o fewn y tirlun lleol a
chredir bod y bwriad yn dderbyniol ar sail gofynion Polisïau o’r CDLl. O ystyried bod y bwriad yn disodli adeiladwaith
amaethyddol presennol, a’r ffaith mai gweithwyr y fferm sy’n byw gerllaw'r
fferm odro, ni ystyriwyd y byddai’r cais yn tanseilio mwynderau preswyl na
chyffredinol deiliaid lleol.
Yng nghyd-destun
materion bioamrywiaeth, eglurwyd bod y safle wedi amgylchynu gan Ardal
Cadwraeth Arbennig Glynllifon (ACA), Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig
Glynllifon (SoDDGA) a Safle Bywyd Gwyllt Afon Llifon
(SBG) sydd oddeutu 400m i’r de-orllewin o’r safle. Cyflwynwyd nifer o
adroddiadau ac asesiadau ecolegol fel rhan o’r cais.
Yn unol â gofynion y Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau, 2017, mae'n ofynnol i'r Cyngor gynnal Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (HRA) ac Asesiad Priodol. Wedi cwblhau’r asesiad, nododd yr Uned Bioamrywiaeth na fyddai’r bwriad yn effeithio’n andwyol ar gyfanrwydd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8