Codi adeilad i ddarparu gofod swyddfa a ffreutur
(Dosbarth B1) gan gynnwys storio sbwriel, mynediad, gwasanaethu, tirlunio a
gwaith cysylltiedig arall.
AELOD
LLEOL: Cynghorydd Kim Jones
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD:
Caniatáu’r cais yn
ddarostyngedig i gwblhau trafodaethau ynghylch materion priffyrdd ac archeoleg
ynghyd ag amodau cynllunio perthnasol yn ymwneud gyda:
1.
Amser
2.
Cydymffurfio gyda’r cynlluniau
3.
Rhaid gweithredu yn unol ag
argymhellion yr adroddiadau ecolegol / coed
4.
Rhaid dilyn y dulliau gweithredu a’u
hamlygir yn y CEMP / cynllun atal
llygredd
5.
Rhaid gweithredu yn unol ag
argymhellion yr Asesiad Perygl Llifogydd
6.
Caniateir defnyddio’r adeilad at
ddibenion o fewn Dosbarth Defnydd B1 yn unig
7.
Amodau Dŵr Cymru
8.
Sicrhau arwyddion Cymraeg / Dwyieithog
9.
Amodau CNC
10.
Os, yn ystod y datblygiad, y canfyddir
bod halogiad nas adnabuwyd yn flaenorol yn bresennol ar y safle yna ni fydd
unrhyw ddatblygiad pellach (oni bai y cytunir yn wahanol yn ysgrifenedig gyda'r
Awdurdod Cynllunio Lleol) hyd nes y ceir strategaeth adfer yn manylu ar sut y
bydd yr halogiad diamheuol yn cael ei weithredu wedi ei gyflwyno a’i
gymeradwyo’n ysgrifenedig gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol.
Nodiadau:
1. Dŵr Cymru
2. Uned Draenio Tir
3. CNC
Cofnod:
Codi adeilad i
ddarparu gofod swyddfa a ffreutur (Dosbarth B1) gan gynnwys storio sbwriel,
mynediad, gwasanaethu, tirlunio a gwaith cysylltiedig arall.
Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau
hwyr gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn ymateb i’r Cynllun Rheolaeth Adeiladu
Amgylcheddol a Chynllun Atal Llygredd a gyflwynwyd
·
Amlygodd
Arweinydd Tîm Rheolaeth Datblygu mai cais ydoedd
ar gyfer codi adeilad newydd
er mwyn darparu gofod swyddfa a chantîn (Dosbarth Defnydd B1) i wasanaethu
safle busnes Siemens yn Llanberis ynghyd â datblygiadau cysylltiedig; byddai'r datblygiad yn cynnwys codi
adeilad tri llawr ar dir glas
llethrog i’r gogledd o adeiladau presennol y cwmni. Ategwyd bod yr angen am y cyfleuster newydd wedi codi yn
sgil gwaith adnewyddu yn un o’r adeiladau eraill
sydd ar y safle yn ymwneud
ar angen am ragor o ofod ar
gyfer gweithgynhyrchu. Byddai’r adnewyddu yn golygu colled
o ofod gwasanaethol megis swyddfeydd a chantîn sydd bellach
wedi eu gosod
mewn adeiladau dros dro. Nodwyd
na fyddai’r bwriad yn golygu
cynyddu dwysedd defnydd y safle ond yn hytrach
ymgais ydyw i ddarparu cyfleusterau
cefnogol priodol i wasanaethu’r busnes presennol.
Adroddwyd, yn unol
ag anghenion y Gorchymyn
Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012 (fel y'i diwygiwyd) bod y datblygiad yn cael
ei ddiffinio fel “datblygiad mawr” oherwydd maint yr arwynebedd llawr a fwriedir ei ddarparu. Yn unol â’r drefn
briodol fe dderbyniwyd Adroddiad Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio fel rhan
o’r cais. Mae’r adroddiad yn dangos fod
y datblygwyr wedi hysbysebu’r bwriad i’r cyhoedd ac ymgynghorwr statudol cyn cyflwyno cais
cynllunio ffurfiol.
Yng nghyd-destun egwyddor
y datblygiad, nodwyd bod safle’r cais wedi
ei leoli y tu allan i
ffin ddatblygu Canolfan Gwasanaeth Lleol
Llanberis fel y'i diffinnir gan y CDLl, ond yn
rhan o safle mawr sydd eisoes
mewn defnydd ar gyfer diwydiant.
Cyfeiriwyd at Polisi PCYFF 1 y CDLl
sy’n annog gwrthod datblygiadau tu allan i’r
ffiniau datblygu oni bai eu bod yn unol â pholisïau
cynllunio lleol neu genedlaethol eraill neu fod y cynnig yn
dangos bod lleoliad yng nghefn gwlad
yn hanfodol. Yn yr achos yma, o ystyried
mai ymestyn y busnes presennol sydd eisoes ar
y safle yw’r bwriad, ystyriwyd ei fod yn
gwbl ddisgwyliedig i’r cyfleuster gael ei ddarparu
ar y safle ac felly bod cyfiawnhad priodol dros ganiatáu datblygiad
o'r fath yn y lleoliad hwn.
Yng nghyd-destun materion Isadeiledd a Chynaliadwyedd amlygwyd bod Dwr Cymru wedi cadarnhau bydd capasiti digonol yr y system garthffosiaeth leol i gwrdd gyda gofynion y datblygiad erbyn diwedd Mawrth 2025 ac y gellid sicrhau cysylltiad i'r cyflenwad dŵr. Nodwyd hefyd bod angen systemau draenio cynaliadwy (SDC) i reoli dŵr wyneb ar gyfer pob datblygiad newydd o fwy na 100m2 o arwynebedd llawr a darparu cais i’r Corff Cymeradwy SDS i’w gymeradwyo cyn dechrau’r gwaith adeiladu. Wrth ystyried materion bioamrywiaeth, nodwyd bod Arolwg Coed ac Asesiad Effaith Coedyddiaeth ynghyd ag Asesiad Effaith Ecolegol ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6