Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 18/03/2024 - Pwyllgor Cynllunio (eitem 6)

6 Cais Rhif C23/0995/15/LL Glyn Rhonwy Store, Siemens Healthcare Diagnostics Product Ltd, Glyn Rhonwy Estate, Llanberis, LL55 4EL pdf eicon PDF 199 KB

Codi adeilad i ddarparu gofod swyddfa a ffreutur (Dosbarth B1) gan gynnwys storio sbwriel, mynediad, gwasanaethu, tirlunio a gwaith cysylltiedig arall.  

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Kim Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i gwblhau trafodaethau ynghylch materion priffyrdd ac archeoleg ynghyd ag amodau cynllunio perthnasol yn ymwneud gyda:

1.               Amser

2.               Cydymffurfio gyda’r cynlluniau

3.               Rhaid gweithredu yn unol ag argymhellion yr adroddiadau ecolegol / coed

4.               Rhaid dilyn y dulliau gweithredu a’u hamlygir yn y CEMP / cynllun atal  llygredd

5.               Rhaid gweithredu yn unol ag argymhellion yr Asesiad Perygl Llifogydd

6.               Caniateir defnyddio’r adeilad at ddibenion o fewn Dosbarth Defnydd B1 yn unig

7.               Amodau Dŵr Cymru

8.               Sicrhau arwyddion Cymraeg / Dwyieithog

9.               Amodau CNC

10.    Os, yn ystod y datblygiad, y canfyddir bod halogiad nas adnabuwyd yn flaenorol yn bresennol ar y safle yna ni fydd unrhyw ddatblygiad pellach (oni bai y cytunir yn wahanol yn ysgrifenedig gyda'r Awdurdod Cynllunio Lleol) hyd nes y ceir strategaeth adfer yn manylu ar sut y bydd yr halogiad diamheuol yn cael ei weithredu wedi ei gyflwyno a’i gymeradwyo’n ysgrifenedig gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol.

 

Nodiadau:

1.  Dŵr Cymru

2.  Uned Draenio Tir

3.  CNC

 

Cofnod:

Codi adeilad i ddarparu gofod swyddfa a ffreutur (Dosbarth B1) gan gynnwys storio sbwriel, mynediad, gwasanaethu, tirlunio a gwaith cysylltiedig arall.

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn ymateb i’r Cynllun Rheolaeth Adeiladu Amgylcheddol a Chynllun Atal Llygredd a gyflwynwyd

 

·         Amlygodd Arweinydd Tîm Rheolaeth Datblygu mai cais ydoedd ar gyfer codi adeilad newydd er mwyn darparu gofod swyddfa a chantîn (Dosbarth Defnydd B1) i wasanaethu safle busnes Siemens yn Llanberis ynghyd â datblygiadau cysylltiedig; byddai'r datblygiad yn cynnwys codi adeilad tri llawr ar dir glas llethrog i’r gogledd o adeiladau presennol y cwmni. Ategwyd bod yr angen am y cyfleuster newydd wedi codi yn sgil gwaith adnewyddu yn un o’r adeiladau eraill sydd ar y safle yn ymwneud ar angen am ragor o ofod ar gyfer gweithgynhyrchu. Byddai’r adnewyddu yn golygu colled o ofod gwasanaethol megis swyddfeydd a chantîn sydd bellach wedi eu gosod mewn  adeiladau dros dro. Nodwyd na fyddai’r bwriad yn golygu cynyddu dwysedd defnydd y safle ond yn hytrach ymgais ydyw i ddarparu cyfleusterau cefnogol priodol i wasanaethu’r busnes presennol.

 

Adroddwyd, yn unol ag anghenion y Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012 (fel y'i diwygiwyd) bod y datblygiad yn cael ei ddiffinio feldatblygiad mawroherwydd maint yr arwynebedd llawr a fwriedir ei ddarparu. Yn unol â’r drefn briodol fe dderbyniwyd Adroddiad Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio fel rhan o’r cais. Mae’r adroddiad yn dangos fod y datblygwyr wedi hysbysebu’r bwriad i’r cyhoedd ac ymgynghorwr statudol cyn cyflwyno cais cynllunio ffurfiol.

 

Yng nghyd-destun egwyddor y datblygiad, nodwyd bod safle’r cais wedi ei leoli y tu allan i ffin ddatblygu Canolfan Gwasanaeth Lleol Llanberis fel y'i diffinnir gan y CDLl, ond yn rhan o safle mawr sydd eisoes mewn defnydd ar gyfer diwydiant. Cyfeiriwyd at Polisi PCYFF 1 y CDLl sy’n annog gwrthod datblygiadau tu allan i’r ffiniau datblygu oni bai eu bod yn unol â pholisïau cynllunio lleol neu genedlaethol eraill neu fod y cynnig yn dangos bod lleoliad yng nghefn gwlad yn hanfodol. Yn yr achos yma, o ystyried mai ymestyn y busnes presennol sydd eisoes ar y safle yw’r bwriad, ystyriwyd ei fod yn gwbl ddisgwyliedig i’r cyfleuster gael ei ddarparu ar y safle ac felly bod cyfiawnhad priodol dros ganiatáu datblygiad o'r fath yn y lleoliad hwn.

 

Yng nghyd-destun materion Isadeiledd a Chynaliadwyedd amlygwyd bod Dwr Cymru wedi cadarnhau bydd capasiti digonol yr y system garthffosiaeth leol i gwrdd gyda gofynion y datblygiad erbyn diwedd Mawrth 2025 ac y gellid sicrhau cysylltiad i'r cyflenwad dŵr. Nodwyd hefyd bod angen systemau draenio cynaliadwy (SDC) i reoli dŵr wyneb ar gyfer pob datblygiad newydd o fwy na 100m2 o arwynebedd llawr a darparu cais i’r Corff Cymeradwy SDS i’w gymeradwyo cyn dechrau’r gwaith adeiladu. Wrth ystyried materion bioamrywiaeth, nodwyd bod Arolwg Coed ac Asesiad Effaith Coedyddiaeth ynghyd ag Asesiad Effaith Ecolegol  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6