7 Cais Rhif C23/0772/20/LL Tir ger Y Wern, Y Felinheli, LL56 4TZ PDF 244 KB
Datblygiad anheddol a gwaith isadeiledd
cysylltiedig
AELODAU LLEOL: Cynghorydd Iwan Huws a’r
Cynghorydd Sasha Williams
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl
i’r Pennaeth Cynllunio ganiatáu’r cais yn sgil asesiad pellach o’r angen am
gyfraniad addysgol ac i Gytundeb 106 priodol os oes angen. Bydd caniatâd yn
ddarostyngedig i’r amodau isod :
-
amod rhag-feddiannaeth ar gyfer cyflwyno a chymeradwyo manylion mewn perthynas â blychau adar ac ystlumod.
- amod
cyn-feddiannaeth ar gyfer cyflwyno a chymeradwyo Cynllun Sefydlu a Chynnal a
Chadw 5 Mlynedd fel y'i dogfennir yn y Datganiad Seilwaith Gwyrdd
Nodyn
– Dŵr
Cymru, Uned Draenio Tir, Uned Trafnidiaeth, Gwasanaeth Tân a Cyfoeth
Naturiol Cymru
Cofnod:
Residential
development and associated infrastructure works
Attention was drawn to the late observations form
regarding educational Datblygiad anheddol a gwaith isadeiledd cysylltiedig
Tynnwyd sylw at y ffurflen
sylwadau hwyr ynglŷn â chyfraniad addysgol, sylwadau pellach oddi wrth y
Cyngor Cymuned yn datgan pryder ynghylch llifogydd, draenio a pharcio, materion bioamrywiaeth ynghyd ag ymateb
asiant yr ymgeisydd i’r sylwadau / pryderon hynny.
a) Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais llawn
ydoedd am ddatblygiad anheddol gyda gwaith
isadeiledd cysylltiedig ar ddarn o dir
sydd tu allan,
ond yn union gerllaw, ffin ddatblygu
Pentref Arfordirol / Gwledig y Felinheli fel y’i diffinnir
yn y CDLl. Y cynnig yn cynnwys :
·
23 annedd fforddiadwy
·
Gwaith tirweddu gan gynnwys plannu coed a gwrychoedd newydd
·
0.14 ha o dir agored cyhoeddus ynghyd a man chwarae penodol
·
Mynedfa gerbydol newydd i’r de o stad y Wern trwy
fan parcio anffurfiol presennol (fydd y mannau parcio presennol
yn cael eu
hadleoli)
·
Creu ffordd stad newydd i gwrdd
â gofynion mynediad cerbydau gwasanaethol
·
Mesurau draenio fydd
yn golygu creu dau bwll
cadw dŵr wyneb ac arallgyfeirio’r garthffos gyhoeddus bresennol.
Eglurwyd bod safle’r cais yn rhannol
ar dir llwyd
ger y stad dai presennol, yn rhannol
ar safle coediog sydd wedi
gordyfu gyda’r gweddill ar dir
amaethyddol. Saif yn rhannol o fewn parth clustogi Heneb Gofrestredig Gwersyll Dinas (CN 047) a rhan fechan o’r safle
o fewn Parth Llifogydd B fel y’i diffinnir
gan y mapiau sy’n cyd-fynd â Nodyn Cyngor Technegol 15 “Datblygu a’r Perygl
o Lifogydd”.
Yng nghyd-destun egwyddor y datblygiad, cyfeiriwyd at Polisi TAI16 sy’n galluogi datblygu tai ar safleoedd sydd
y tu allan, ond yn ffinio
â ffiniau datblygu ond bod rhaid sicrhau
fod y bwriad yn cydymffurfio yn effeithiol â gofyniad y Polisi. Fel eithriad i’r polisïau
tai arferol, gallai cynigion ar gyfer
datblygiadau o 100% tai fforddiadwy
fod yn addas ar safle o’r
math hwn sy’n ffinio’n uniongyrchol gyda ffin ddatblygu.
Nodai’r polisi bod rhaid i’r safle
ffurfio estyniad rhesymegol i’r anheddle; yma fe
nodwyd bod safle’r cais yn llenwi
bwlch o fewn patrwm datblygu’r pentref gyda datblygiad
presennol yn amgylchynu tair ochr.
Ategwyd
bod Polisi TAI16 hefyd yn gofyn
dangos na ellir cyfarch yr angen cydnabyddedig o fewn amserlen resymol
ar safle marchnad y tu mewn
i’r ffin datblygu sy’n cynnwys
gofyniad am dai fforddiadwy. Adroddwyd nad oedd unrhyw
safleoedd tai wedi eu clustnodi o fewn ffin datblygu’r
Felinheli ac wrth ystyried cyfyngiadau ffisegol y tir o fewn ffiniau’r pentref o safbwynt materion megis serthedd a pherygl llifogydd, ni ystyriwyd
bod tebygrwydd i safle addas ar gyfer datblygiad o’r maint hwn
fod ar gael
o fewn y pentref mewn amser rhesymol.
Nodwyd hefyd bod yn rhaid i gynigion ar safle o’r fath fod ar gyfer datblygiad ar raddfa fach sy’n gymesur â maint yr anheddle oni bai y gellid dangos yn glir bod angen amlwg am safle mwy. Noder fod 1,177 ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7