8 Cais Rhif C23/0793/40/DT Ty'n Llwyn, Llannor, Pwllheli, Gwynedd, LL53 5UG PDF 177 KB
Newidiadau allannol i gynllun a ganiatawyd yn flaenorol dan gynllun rhif
C08D/0205/40/LL yn cynnwys estyniad llawr cyntaf, edrychiad a deunyddiau
allannol..
AELOD LLEOL: Cynghorydd Anwen J Davies
Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Gwrthod.
1.
Ni fyddai maint, swmp, dyluniad na gorffeniad y
datblygiad arfaethedig yn cyfleu na pharchu'r safle gan y byddai'n creu nodwedd
anghydweddol annerbyniol ar ffurf a chymeriad y tirlun a'r ardal leol ac,
felly, ar fwynderau gweledol yr ardal leol. Mae'r bwriad, felly, yn groes i
ofynion meini prawf 1, 2 a 3 o Bolisi PCYFF 3 o'r Cynllun Datblygu Lleol ar y
Cyd Gwynedd a Môn, 2017 ynghyd â'r cyngor a gynhwysir yn y ddogfen Nodyn Cyngor
Technegol 12: Dylunio.
COFNODION:
Newidiadau allanol i
gynllun a ganiatawyd yn flaenorol dan gynllun rhif C08D/0205/40/LL yn cynnwys
estyniad llawr cyntaf, edrychiad a deunyddiau allanol
a)
Amlygodd
Arweinydd Tîm Rheolaeth Datblygu mai cais llawn
ydoedd ar gyfer codi estyniadau
i dŷ deulawr. Eglurwyd bod y Cyngor wedi rhoi hawl
am estyniadau unllawr a rhannol ddeulawr o dan gyfeirnod C08D/0205/40/LL yn 2008
gyda rhan o'r estyniadau ar lefel unllawr
wedi eu codi
yn rhannol, a bod y cais yma yn
golygu newid y cynllun a ganiatawyd yn 2008. Ategwyd
bod yr estyniadau wedi eu lleoli ar edrychiad
blaen, ochr a chefn y tŷ ac o ddyluniad modern ac yn sylweddol fwy na'r
adeilad presennol.
Nodwyd bod y safle wedi
ei leoli yng nghefn gwlad agored a thu allan i unrhyw ffin datblygu fel y
diffinnir yn y CDLl. Yr eiddo presennol yn dŷ
deulawr traddodiadol wedi ei orffen gyda chwipiad cerrig gyda’r eiddo preswyl
agosaf oddeutu 120m i ffwrdd.
Cyflwynwyd y cais i'r
pwyllgor ar gais yr aelod lleol.
Cyfeiriwyd at Bolisi
PCYFF3 sy’n datgan y caniateir cynigion, gan gynnwys estyniadau a newidiadau i
adeiladau a strwythurau presennol os ydynt yn cydymffurfio a nifer o feini
prawf. Roed yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn ystyried fod y bwriad, oherwydd ei
faint, swmp, dyluniad a gorffeniad yn creu nodwedd estronol yng nghefn gwlad
agored a chael effaith negyddol sylweddol ar fwynderau gweledol yr ardal
oherwydd na fyddai yn gweddu gyda chymeriad ac edrychiad y tŷ presennol a
thai ardal cefn gwlad. O ganlyniad, ni
fyddai’r bwriad yn cyfarfod meini prawf 1, 2 a 3 o bolisi PCYFF3 o fewn y CDLl sy'n sicrhau fod cynigion yn ychwanegu at ac yn gwella
cymeriad ac ymddangosiad y safle a'r adeilad o ran gosodiad, ymddangosiad,
graddfa, uchder, mas a thriniaeth edrychiadau; yn parchu cyd-destun y safle a'i
le yn y dirwedd leol; ac yn defnyddio deunyddiau sy'n briodol i'r hyn sydd o'u
hamgylch, na gofynion Nodyn Cyngor Technegol 12: Dylunio sy'n cefnogi cynigion
o ddyluniad o safon uchel.
Nid oedd unrhyw
wrthwynebiadau yng nghyd-destun priffyrdd, mynediad ac iaith ac roedd yr Uned
Bioamrywiaeth wedi cadarnhau bod yr arolwg ystlumod a dderbyniwyd ynghyd a
chynlluniau yn cynnig gwelliannau bioamrywiaeth yn dderbyniol.
Wedi ystyried yr holl
faterion cynllunio perthnasol ni ystyriwyd y gellid cefnogi’r cais ar sail ei
faint, swmp, dyluniad a gorffeniad a fyddai’n creu nodwedd estronol yng nghefn
gwlad ac yn cael effaith negyddol sylweddol ar fwynderau gweledol yr ardal.
Ystyriwyd y bwriad yn annerbyniol ac argymhellwyd ei wrthod.
b)
Yn manteisio ar yr hawl i
siarad, nododd yr asiant y sylwadau canlynol;
·
Bod
y cais yn un ar gyfer estyniadau a newid deunyddiau i gais a gafodd ei
gymeradwyo yn 2008 o dan cyf:C08D/0205/40/LL
·
Bod
y cais gwreiddiol yn un i greu estyniad llawr gydag arwynebedd o 242m2, ag
estyniad llawr cyntaf o 60m2 i’r tŷ presennol yn Tŷ’n Llwyn.
· Bod gwaith adeiladu wedi dechrau rhai blynyddoedd yn ôl ac wedi peidio stop ers rhai blynyddoedd bellach, ond cyn ailddechrau mae’r ymgeisydd eisiau ... view the full COFNODION text for item 8