9 Cais Rhif C23/0806/0O/LL Gerddi'r Draphont, Stryd Yr Eglwys, Abermaw, LL42 1EL PDF 375 KB
Gwaith
arfaethedig yn ardal Gerddi'r Draphont yn Abermaw i:
1.
Atgyweirio, cryfhau a
chodi uchder oddeutu 60m o hyd o wal fôr,
2.
Adeiladu wal eilaidd
gyda giât lifogydd newydd yn
yr ardal tu ôl i'r wal fôr
gynradd (rhwng yr A496 a'r wal fôr
gynradd),
3.
Gosod system ddraenio newydd er mwyn
rheoli dwr wyneb a gorlifo yn yr ardal tu ôl i'r wal eilaidd a'r giatiau llifogydd,
4.
Mewnosod offer gwydnwch
rhag llifogydd, 'Property Flood Resilience', ar eiddo yn ardal y cei.
5. Mewnosod
pibell arllwys dwr wyneb newydd yn y wal fôr.
AELOD LLEOL: Cynghorydd
Rob Triggs
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD:
Caniatáu gydag amodau
Nodyn:-
SuDS,
Cyngor CNC, Network Rail,
Gwarchod y Cyhoedd a Dŵr Cymru i’r datblygwr
Cofnod:
Gwaith arfaethedig yn ardal
Gerddi'r Draphont yn Abermaw
a)
Amlygodd y Rheolwr Cynllunio, mai cais ydoedd ar
gyfer gwella’r mecanweithiau amddiffyn rhag llifogydd. Byddai’r gwaith yn
cynnwys:-
·
Atgyweirio,
cryfhau a chodi uchder tua 60m o wal môr;
·
Codi
wal eilaidd gyda giatiau llifogydd newydd yn yr ardal tu ôl i’r brif wal fôr;
·
Gosod
rhwydwaith draenio newydd er mwyn rheoli dŵr wyneb a gorlifo yn yr ardal
tu ôl i’r wal eilaidd a’r giatiau llifogydd;
·
Gosod
pibell allfa ddŵr wyneb newydd sy'n ymwthio o’r wal môr i’r harbwr;
·
Gosod
offer gwydnwch rhag llifogydd mewn eiddo yn ardal y cei.
Adroddwyd y byddai
wal fôr yn cael ei ail adeiladu a’i wynebu gyda charreg o’r wal bresennol
gyda rhan wal
parapet oddeutu 1.2 medr uwchlaw lefel y llawr cyfagos. Byddai’r ‘rock armour’ presennol yn cael ei ail ddosbarthu ar ran uchaf y
traeth, ar draws ffrynt y wal fôr a’i atgyfnerthu gyda cherrig ychwanegol fel y
galw. Byddai wal wrth gefn newydd yn
cael ei chodi ar ffin ogleddol Gerddi’r Draphont a fyddai’n cynnwys gwydr ar y
rhan uchaf. Byddai’r gwaith hefyd yn
cynnwys cynllun i reoli dŵr wyneb gyda gatiau llifogydd, gwterydd,
draeniau ac amrywiaeth o addasiadau i’r system bresennol ynghyd ag allfa
dŵr wyneb newydd ar y traeth. Ar ddiwedd y gwaith byddai’r man cyhoeddus
yn Gerddi’r Draphont yn cael ei adfer drwy waith tirweddu a gosod dodrefn stryd
newydd.
Yng nghyd-destun
egwyddor y datblygiad, nodwyd bod y safle wedi ei leoli yn rhannol oddi fewn i ffin ddatblygu
Abermaw. O ganlyniad a heb opsiwn arall
o ran lleoliad neillog ar gyfer darparu’r gwaith, ystyriwyd fod y bwriad yn
dderbyniol o ran Polisi PCYFF 1 CDLl. Cyfeiriwyd at polisi AMG 4, sy’n cyfeirio at
Warchod yr Arfordir ac yn gofyn i gynigion ddangos bod budd economaidd a
chymdeithasol gorbwysol yn dod o’r datblygiad. Nodwyd hefyd y dylai cynigion
sicrhau nad oes niwed annerbyniol i ansawdd dŵr, mynediad cyhoeddus, yr
amgylchedd adeiledig, cymeriad y tirlun neu'r morlun ac effeithiau
bioamrywiaeth.
Cyflwynwyd nifer o
adroddiadau technegol gyda’r cais oedd yn cynnwys tystiolaeth arwyddocaol oedd yn
cyfiawnhau'r gwaith dan sylw.
Yn y Cynllun
Rheoli Traethlin mae’r polisi ar gyfer y rhan yma o Abermaw, sy’n cynnwys rhan
o’r harbwr a’r ffordd fynediad, ynghyd ag amddiffynfeydd glan y môr yn nodi
‘Cadw’r Llinell’. Datgan y Cynllun Rheoli Traethlin “y byddai angen cynnal a
chynyddu uchder amddiffynfeydd o gwmpas yr harbwr a chynnal amddiffynfeydd y
ffordd a’r rheilffordd ac, yn ôl pob tebyg, atgyfnerthu mwy ar amddiffynfa Ynys
y Brawd. Caiff hyn ei ystyried yn gynaliadwy ac mae’n cynnal defnydd pwysig yr
harbwr a mynediad i’r dref.” O ganlyniad,
ystyriwyd bod yr egwyddor o gynnal a chynyddu uchder amddiffynfeydd o gwmpas yr
harbwr, y ffordd a’r rheilffordd yn dderbyniol mewn egwyddor ar sail polisi
ARNA 1 (fodd bynnag, bydd rhaid i'r cynllun gydymffurfio â nifer o bolisïau
eraill sy'n ystyried yr effaith ar yr amgylchedd).
Yng nghyd-destun dyluniad a mwynderau, ystyriwyd, fel y gwelir gyda nifer ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9