Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 11/04/2024 - Pwyllgor Craffu Gofal (eitem 6)

6 GWASANAETH EGWYL FER (TÎM INTEGREDIG DERWEN) pdf eicon PDF 238 KB

Er mwyn cael sicrwydd bod darpariaeth addas ar gael i bawb sydd angen y gwasanaeth.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan ddiolch i bawb sy’n gweithio yn y Gwasanaeth Egwyl Fer, a mynegi gobaith y bydd y cyllid ar gael i barhau i gynnig y gwasanaeth i bawb sydd ei angen fel mae amser yn mynd yn ei flaen.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet Plant a Theuluoedd ar y gwasanaeth Egwyl Fer (Tîm Integredig Derwen).  Gwahoddwyd y pwyllgor i graffu cynnwys yr adroddiad er mwyn cael sicrwydd bod darpariaeth addas ar gael i bawb sydd angen y gwasanaeth.

 

Gosododd yr Aelod Cabinet y cyd-destun gan ddiolch i’r holl staff am eu gwaith diflino a’u brwdfrydedd a’u cariad wrth weithio hefo’r plant mwyaf bregus yng Ngwynedd.  Ymhelaethodd y Pennaeth Cynorthwyol Adnoddau - Plant a Chefnogi Teuluoedd ar gynnwys yr adroddiad ac yna rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. 

 

Nodwyd bod yr adroddiad a’r cyflwyniad yn amlygu’r galw anferthol am y gwasanaeth egwyl fer, a’i bod yn amlwg bod yna waith gwych iawn a hanfodol yn mynd yn ei flaen.

 

Tynnwyd sylw at yr angen am wasanaeth egwyl fer ar gyfer oedolion yn ogystal, ond eglurwyd bod yr eitem hon yn trafod y ddarpariaeth ar gyfer plant yn unig. 

 

Mynegwyd pryder o ddeall fod nifer y gwirfoddolwyr wedi gostwng o 20 cyn y cyfnod Cofid i 3 erbyn hyn.  Holwyd beth sy’n cael ei wneud i geisio recriwtio rhagor o wirfoddolwyr, a gofynnwyd oedd modd defnyddio’r gwirfoddolwyr presennol mewn ymdrech i geisio denu rhagor.  Mewn ymateb, nodwyd:-

 

·         Gan na fu’n bosib’ parhau â’r cynllun egwyl fer dros y cyfnodau clo, y collwyd nifer o wirfoddolwyr wrth i bobl symud yn eu blaenau.

·         Bod y Swyddog Egwyl Fer yn cyfarfod yn rheolaidd â Phrifysgol Bangor, sef y prif gysylltiad o ran yr ymgyrchoedd recriwtio.

·         Y cytunid â’r sylw ynglŷn â defnyddio gwirfoddolwyr presennol, ond na ellid gwneud mwy nag amlygu bod y cyfleoedd yn bodoli a bod mor rhagweithiol â phosib’ o safbwynt ymateb i unrhyw ymholiadau.

·         Bod 5 darpar wirfoddolwr yn mynd drwy’r broses DBS ar hyn o bryd a mawr obeithid y byddai’r unigolion hyn ar gael i’r gwasanaeth yn fuan er mwyn gwneud gwahaniaeth.

·         O bosib’ bod yr argyfwng costau byw yn effeithio ar awydd pobl i roi eu hunain ymlaen i wirfoddoli, ond yn sicr byddai’r Gwasanaeth yn dyfalbarhau i geisio cynyddu’r nifer.

 

Holwyd pa wasanaeth a gynigir i deuluoedd plant ag anghenion llai dwys ynghyd â beth yw’r rhagolygon ar gyfer y dyfodol o ystyried bod y galw yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn.  Gofynnwyd hefyd a ellir bod yn hyderus y byddwn yn gallu cwrdd â’r anghenion dwys, heb son am yr anghenion eraill, yn wyneb sefyllfa gyllidol y Cyngor ar gyfer y blynyddoedd nesaf.  Mewn ymateb, nodwyd:-

 

·         Bod y cwestiynau yn adlewyrchu’r heriau mae’r Gwasanaeth yn eu hwynebu ac yn amlwg yn eu trafod o ran datblygiad, ayb, a sut i addasu’r gwasanaeth i gyfarch yr anghenion sy’n codi.

·         Bod y ddarpariaeth bresennol yn cyfarch amrywiaeth o anghenion, ac nid yr anghenion uwch yn unig, gyda’r anghenion uwch yn tueddu i fod yn egwyl fer yn Hafan y Sêr a mwy o oriau cefnogol efallai na’r anghenion is.

·         Bod amrywiaeth o anghenion yn cael eu darparu yn yr oriau cefnogol a bod ceisio dadansoddi rhywfaint o hynny yn ddarn o  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6