8 Cais Rhif C23/0938/41/LL Capel Rhoslan, Rhoslan, Criccieth, Gwynedd, LL52 0NW PDF 252 KB
Gosodiad diwygiedig ar gyfer adeiladu annedd
newydd, yn cynnwys parcio a gwaith trin carthion
AELOD LLEOL: Cynghorydd Rhys Tudur
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Gwrthod
Cofnod:
Gosodiad
diwygiedig ar gyfer adeiladu annedd newydd, yn cynnwys parcio a gwaith trin
carthion
Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr oedd yn cynnwys manylion draenio tir - o dderbyn y sylwadau hyn, roedd
y trydydd rheswm gwrthod, oedd wedi
ei nodi yn yr adroddiad, yn cael
ei ddileu.
a) Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais llawn ydoedd
ar gyfer codi tŷ annedd
unllawr newydd ar lecyn o dir
ger Capel Rhoslan. Roedd y safle yn cael
ei ystyried fel un yng nghefn
gwlad agored, tu allan i
unrhyw ffin datblygu ac i ffwrdd
o bentref clwstwr fel y diffinnir yn y CDLl.
Nodwyd bod y cais yn cael ei gyflwyno
i’r Pwyllgor ar gais yr aelod
lleol.
Eglurwyd nad oedd polisi TAI 6, sydd yn caniatáu tai newydd fforddiadwy mewn clystyrau, yn berthnasol oherwydd
pellter y safle i ffwrdd o’r
pentref. Adroddwyd mai dim ond tai newydd sydd yn
mewnlenwi rhwng adeiladau neu’n union gyferbyn a chwrtil adeilad fyddai’n cael eu caniatáu
gan y polisi yma a gyda safle’r
cais wedi ei leoli ymhell
o’r clwstwr tai agosaf, nid yw’r
polisi felly’n gefnogol i gais
o’r fath.
O ganlyniad, adroddwyd mai polisi PCYFF1 oedd yn berthnasol
yma; yn caniatáu
datblygiadau newydd yng nghefn gwald
agored pan fydd tystiolaeth o gyfiawnhad dros hynny. Eglurwyd
hefyd bod PS17 Strategaeth Aneddleoedd yn cadarnhau mai datblygiadau
tai sy’n cydymffurfio â Pholisi Cynllunio Cymru a Nodyn
Cyngor Technegol 6, yn unig fydd yn
cael eu caniatáu
yng nghefn gwlad agored gyda
chefnogaeth i ddatblygiadau megis tai amaethyddol neu dai sydd ynghlwm a menter weledig.
Tynnwyd sylw at y wybodaeth
o fewn y Datganiad Dylunio a Mynediad oedd yn nodi bod yr ymgeisydd yn gweithio
yn y fyddin ac yn dymuno codi
tŷ, ger ei rieni sy’n trigo yng Nghapel Rhoslan.
Er yn ymddangos fod yr ymgeisydd yn berson lleol,
wedi ei eni
a’i fagu yn yr ardal, ni
chyflwynwyd unrhyw dystiolaeth fod angen presennol am dŷ, nac angen am dŷ fforddiadwy. Nid yw’r safle yn
cael ei ystyried
yn addas fel safle eithrio gweledig
oherwydd ei leoliad i ffwrdd
o’r clwstwr ac nid oedd daliad
amaethyddol ar y tir nac unrhyw
gyfiawnhad amaethyddol neu fenter wledig wedi
ei brofi. O ganlyniad, adroddwyd nad oedd un polisi
o fewn y CDLl na pholisi cenedlaethol
yn gefnogol i gais o’r
fath.
Yng nghyd-destun mwynderau
gweledol, er bod dyluniad y
tŷ wedi ei addasu ers
y gwrthodiad blaenorol, byddai caniatáu y cais yn golygu
datblygiad newydd ar dir gwyrdd
yng nghefn gwlad agored fyddai’n
arwain at ymlediad trefol mewn ffordd
sydd yn weledol
o’r ffordd ac o lwybrau cyhoeddus cyfagos. Ystyriwyd felly bod y bwriad yn groes
i ofynion Polisi CYFF 3 y CDLl.
Wedi pwyso a mesur y bwriad yn erbyn gofynion y polisïau perthnasol a rhoi ystyriaeth lawn i ymatebion yr ymgynghoriadau a’r gwrthwynebiadau a ddaeth ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8