9 Cais Rhif C24/0131/42/DT Hafan Lôn Bridin, Morfa Nefyn, Pwllheli, Gwynedd, LL53 6BY PDF 181 KB
Gwaith allanol gan gynnwys adfer ac
ymestyn ardal teras/patio, codi wal newydd ynghyd ag amrywiol addasiadau eraill
AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth Morris
Jones
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl
i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau
canlynol:
1. Amser
2. Cydymffurfio gyda chynlluniau
3. Cynllun tirlunio
4. Manylion gorffeniadau/deunyddiau
5. Gwaredu planhigion ymledol
6. Cytuno/rhwystro
ardaloedd gwaith
Cofnod:
Gwaith allanol gan gynnwys adfer ac
ymestyn ardal teras/patio, codi wal newydd ynghyd ag amrywiol addasiadau eraill
Tynnwyd sylw at y
ffurflen sylwadau hwyr - yn dilyn ail
ymgynghoriad derbyniwyd sylwadau pellach gan yr aelod lleol a’r Cyngor Cymuned.
a) Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais llawn
ydoedd i gynnal gwaith
allanol ynghlwm ac eiddo preswyl. Eglurwyd bod y safle wedi ei leoli
y tu allan i ffin ddatblygu
Morfa Nefyn ac yn rhan o glwstwr o adeiladau preswyl eraill sydd yn
ymylu gyda’r traeth gerllaw. Nid yw’r safle
o fewn ardal dynodiad AHNE Llŷn ond gorweddir o fewn Tirlun o Ddiddordeb
Hanesyddol Eithriadol Llŷn ac Enlli.
Cyflwynwyd y cais i bwyllgor ar gais
yr aelod lleol.
Eglurwyd bod y cynnig wedi ei
ddiwygio o’i gyflwyniad gwreiddiol mewn ymateb i
bryderon a’r cynnig bellach yn golygu:
·
Creu wal flaen trwy ddefnyddio caergewyll wedi eu llenwi gyda
cherrig fyddai hefyd yn cynnwys
gofod mewnol i’w ddefnyddio fel storfa
·
Gwella ac ymestyn y teras/ardal
allanol presennol uwchben y wal uchod
a chynnwys triniaeth ffin newydd ar
ffurf cyfres o bostiau pren gyda
weiren rhyngddynt (mae’r elfen yma
wedi ei newid
o’r cyflwyniad gwreiddiol a oedd
yn gynnwys triniaeth ffin gwydr)
·
Codi lefel llawr o flaen
yr eiddo trwy a chreu wal garreg
isel i wahaniaethu
rhwng tir mae’r perchnogion yn dymuno cadw’n
breifat ac ardal sydd yn cydredeg
gyda wal y môr lle maent
yn hapus i’r cyhoedd parhau i ddefnyddio fel
llwybr tramwy pan fod angen. (Pwysleisiwyd
nad oedd y llwybr yn lwybr
cyhoeddus ffurfiol, ond yn lwybr
sydd wedi ei ddefnyddio yn
hanesyddol gan y cyhoedd yn enwedig
ar adegau pan fydd llanw uchel).
Ategwyd, drwy ddefnyddio amodau i gytuno
ar ddeunyddiau a gorffeniadau, roedd yr Awdurdod Cynllunio o’r farn nad oedd
y bwriad yn groes i’r polisïau
dylunio na i’r polisïau hynny
sy’n gwarchod mwynderau preswyl a gweledol.
Er pryder
am y bwriad, nodwyd bod y tir sydd yn
destun y cais, o fewn cwrtil eiddo
preswyl, lle mae gan y perchennog
yr hawl i atgyweirio lefelau'r patios presennol a chodi ffensys heb yr angen am hawl Cynllunio, ac nad oedd rheolaeth
dros y lliwiau a math o ddeunyddiau sydd i’w defnyddio. Ategwyd mai ar
gyfer y gwaith peirianyddol a newid lefelau sydd angen
hawl, ond bod yn bwysig cadw mewn cof
be all yr ymgeisydd wneud heb hawl. Amlygwyd
bod yr ymgeisydd hefyd wedi bod yn fwy
na pharod i drafod a chytuno
ar orffeniadau ac wedi cymryd sylw
o’r pryderon oedd wedi codi
trwy ddiwygio’r cais. Er hynny, fel unrhyw gais
cynllunio, atgoffwyd yr
Aelodau bod y penderfyniad yn
gorfod bod yn un rhesymol yn enwedig
pan fod modd cytuno ar faterion
trwy amodau.
Adroddwyd bod yr eiddo yn rhan o glwstwr o dai cyfochrog sydd yn rhannol oddi fewn i ran o ddynodiad Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ( ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9