8 ADOLYGIAD HAEN GANOL PDF 299 KB
Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Beca Brown
Ystyried
adroddiad ar yr uchod.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.
Cofnod:
Croesawyd Y Cynghorydd Beca Brown (Aelod Cabinet Addysg) a Gwern ap
Rhisiart (Pennaeth Addysg) i’r cyfarfod.
Cyflwynwyd –
adroddiad yr Aelod Cabinet Addysg yn gwahodd mewnbwn y pwyllgor i’r newidiadau
arfaethedig yn y modd y caiff y gwasanaeth gwella i ysgolion ei ddarparu i’r
dyfodol.
Gosododd yr Aelod
Cabinet y cyd-destun. Diolchodd i staff
GwE am eu holl waith a’u cefnogaeth dros y blynyddoedd, gan nodi bod eu mewnbwn
a’u cyngor arbenigol wedi’i werthfawrogi’n fawr gan yr ysgolion.
Ymhelaethodd y
Pennaeth Addysg ar gynnwys yr adroddiad ac yna rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig
sylwadau.
Nodwyd bod canllawiau drafft Llywodraeth
Cymru ‘Model cydweithredol rhwng ysgolion, ALlau,
a’r llywodraeth genedlaethol’ yn nodi y dylai cyrff llywodraethu ‘Ystyried
eu trefniadau eu hunain ar gyfer gweithio gyda chyrff llywodraethu eraill er
mwyn cefnogi cydgyfrifoldeb a gwelliant cydweithredol’, a holwyd a oedd
bwriad i ail-sefydlu’r corff Llywodraethwyr Gwynedd, oedd yn weithredol cyn
Cofid. Mewn ymateb, nodwyd:
·
Bod
bwriad i adfer y Fforwm ar gyfer llywodraethwyr, a hynny ar ffurf hybrid, gan
hefyd edrych ar gyfleoedd i wneud y corff yn fwy torfol.
·
Bod
Fforwm Plant a Phobl Ifanc yn cael ei sefydlu ar hyn o bryd a’i bod yn naturiol
mynd i’r afael â llywodraethiant ysgol hefyd, er mwyn
cael llais pawb o ran symud yr agweddau hyn yn eu blaenau.
Mynegwyd pryder y gallai ymestyn ar y
cydweithio rhwng ysgolion olygu bod y gwersi a ddarperir ar y cyd yn mynd yn
fwyfwy Saesneg, o gofio bod dwy ysgol uwchradd yn y sir yn gweithredu fwy na
heb fel ysgolion Saesneg. Holwyd a oedd
gan y Cyngor ganllawiau o ran cydweithio er sicrhau nad oes llithriad yn y
ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg. Mewn
ymateb, eglurwyd nad oedd y model newydd yn awgrymu symud plant o un ysgol i’r
llall i gael gwersi, ond yn hytrach yn cyfeirio at arweinyddion ysgolion yn
cydweithio ac yn cefnogi ei gilydd.
Awgrymwyd bod y trefniadau arfaethedig yn
ymddangos yn hynod heriol. Nodwyd bod
yna bob math o broblemau unigol ymhob un ysgol a’i bod yn bwysig cael ysgolion
tebyg i helpu’i gilydd, yn hytrach na gweithredu ar sail clystyrau
daearyddol. Nodwyd hefyd bod penaethiaid
dan eu sang yn barod, a bod disgwyl iddynt gymryd rôl ychwanegol yn helpu
ysgolion eraill (er yn gwneud hynny’n answyddogol eisoes) yn mynd i roi llawer
o bwysau ychwanegol arnynt, yn enwedig mewn ysgolion bychain. Mewn ymateb, nodwyd:-
·
Bod
rhoi hyn oll ar waith yn ysgolion Gwynedd yn mynd i fod yn heriol iawn am nifer
o resymau, gan gynnwys y ffaith bod gan Wynedd gymaint o unedau ysgolion, a
llawer o’r unedau ysgolion hynny yn ysgolion bach, a nifer fechan iawn o
benaethiaid digyswllt.
·
Bod
yr heriau’n amlygu’r hyn mae GwE wedi llwyddo i’w wneud dros y blynyddoedd, sef
mynd i mewn i’r ysgolion a theilwrio’r arweiniad ar gyfer ysgolion unigol,
waeth beth eu maint.
· Y pwysleisir dro ar ôl tro yn y trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru bod ein cyd-destun yng Ngwynedd yn gwneud hyn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8