7 DIOGELU RHAG COLLI RHYDDID (DoLS) PDF 277 KB
I drafod gallu'r Cyngor i weithredu Cynllun Diogelu rhag colli Rhyddid.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad gan
nodi’r sylwadau canlynol:
a)
Datgan gwir
bryder am y sefyllfa ac amharodrwydd y Pwyllgor Craffu Gofal i dderbyn y risg
sy’n cael ei amlygu yn yr adroddiad.
b)
Gofyn i’r Aelod
Cabinet Oedolion drafod ymhellach efo’r Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant a
chreu cynllun gweithredu.
c)
Gofyn i’r Adran
ddarparu adroddiad Cynnydd ymhen 6 mis.
d)
Nodi dymuniad i
dderbyn gwybodaeth bellach gan arbenigwr.
Cofnod:
Eglurwyd
mai trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid (DoLS) yw’r weithdrefn a ragnodir yn
y gyfraith pan fo angen amddifadu preswylydd neu glaf o’u rhyddid pan nad oes
ganddynt y gallu i gytuno am eu gofal neu eu triniaeth, er mwyn eu cadw’n
ddiogel rhag niwed. Esboniwyd gall cyflyrau megis dementia neu anaf i’r
ymennydd arwain at y diffyg hwn mewn capasiti. Pwysleisiwyd bod pob achos yn
cael ei ystyried yn ôl ei rinweddau unigol.
Tywyswyd
y Pwyllgor drwy’r adroddiad gan nodi bod DoLS yn ddyletswydd statudol a’i bod
yn ofynnol i Awdurdodau Lleol arwain ar faterion DoLS o fewn eu cymunedau a
chartrefi gofal, gyda’r Bwrdd Iechyd yn arwain ar y maes o fewn ysbytai.
Ymhelaethwyd bod disgwyliad i bob cais am Awdurdod Safonol DoLS gael ei gwblhau
o fewn 21 diwrnod, gyda cheisiadau brys yn cael eu cwblhau o fewn 7 diwrnod.
Cydnabuwyd bod rhestr aros o 340 yng Ngwynedd ar hyn o bryd. Pwysleisiwyd y
golyga hyn bod 340 o unigolion yn cael eu hamddifadu o’u rhyddid heb awdurdod.
Ymhelaethwyd bod 20 o’r unigolion hynny wedi bod yn aros am Awdurdod Safonol
ers dros dair blynedd oherwydd newidiadau i’r rhestr aros yn sgil blaenoriaeth.
Amlygwyd
nad yw’r Cyngor yn cydymffurfio a’r deddfwriaethau perthnasol a bod risgiau
corfforaethol amlwg yma. Sicrhawyd bod y mater hwn wedi cael ei uchafu o fewn
cyfarfodydd herio perfformiad yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant. Esboniwyd
bod yr adroddiad yn ddull o rannu gwybodaeth am y sefyllfa i’r aelodau gan
geisio derbyn adborth a chefnogaeth y Pwyllgor. Pwysleisiwyd nad yw’r sefyllfa
hon yn unigryw i Wynedd gan gadarnhau bod Awdurdodau Lleol ar draws Gogledd
Cymru ac yn genedlaethol gyda rhestr aros ar gyfer darpariaeth DoLS.
Datganwyd
bod y Cyngor yn derbyn cyfartaledd o 67 cais am Asesiad Awdurdod Safonol yn
fisol. Nodwyd bod 16 o’r ceisiadau hynny yn gallu cael eu hawdurdodi yn
amserol. Ymhelaethwyd bod Asesiad Safonol yn ddilys am gyfnod o flwyddyn gan
egluro bod angen i’r unigolion sydd wedi derbyn asesiad DoLS dderbyn asesiad
ychwanegol ar ddiwedd y cyfnod hwnnw. Sicrhawyd bod gan yr Adran broses er mwyn
blaenoriaethu’r unigolion sydd ar y rhestr aros yn unol ag anghenion brys ac yr
angen am adnewyddu’r Awdurdod Safonol.
Adroddwyd
bod 18 o weithwyr o fewn yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant wedi cymhwyso fel
Aseswyr Budd Gorau. Nodwyd bod yr Adran wedi ymdrechu yn y gorffennol i annog
yr unigolion hyn i gynnal asesiadau ar gyfer DoLS ond nid oedd hyn yn
gynaliadwy gan fod pob asesiad yn cymryd lleiafswm o 10 awr i’w gwblhau.
Cyfeiriwyd at yr adnoddau sydd ar gael i fynd i’r afael a’r her hwn gan nodi bod gan yr Adran un Cydlynydd DoLS sy’n gyflogedig am 4 diwrnod yr wythnos ac un Asesydd Budd Gorau sy’n gyflogedig am ddeuddydd yr wythnos. Ymhelaethwyd bod y Cyngor wedi llwyddo i dderbyn arian grant gan Lywodraeth ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7