8 ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PANEL STRATEGOL DIOGELU 2023/24 PDF 144 KB
I roi cyfle i aelodau graffu gwaith y Panel Strategol Diogelu dros
2023/24.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.
Cofnod:
Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet
Cefnogaeth Gorfforaethol a’r Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol.
Darparwyd diweddariad ar waith y Panel
Strategol Diogelu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Esboniwyd bod gwaith y Panel
yn allweddol i weithrediad holl Adrannau’r Cyngor, gan ei fod yn ystyried
prosesau diogelu yn gorfforaethol. Nodwyd bod y Cabinet wedi derbyn yr
adroddiad yn eu cyfarfod ar 11 Mehefin 2024.
Tynnwyd sylw at y prif newidiadau a
gyflwynwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf gan gynnwys addasiadau i Gylch
Gorchwyl y Panel, Cylch Gorchwyl y Grŵp Gweithredol Diogelu a chyhoeddi
Polisi Diogelu newydd. Ymfalchïwyd bod y Polisi Diogelu bellach yn fwy eglur yn
enwedig ynghylch y diffiniadau o amddiffyn a diogelu. Ymhelaethwyd bydd
hyfforddiant ar y Polisi hwn yn cael ei ddatblygu yn y dyfodol agos.
Cadarnhawyd bod yr Adran Plant a Chefnogi
Teuluoedd wedi derbyn 7,230 o gyfeiriadau i wasanaethau plant yn ystod y
flwyddyn. Cymharwyd yr ystadegyn hwn gyda’r ffigwr cyfartalog cyn y pandemig,
ble’r oedd cyfeiriadau i wasanaethau plant oddeutu 5,000 y flwyddyn. Nodwyd bod
hyn yn gynnydd sylweddol o gyfeiriadau ond cadarnhawyd bod y ffigyrau blynyddol
yn lefelu erbyn hyn, gan obeithio bydd niferoedd cyfeiriadau yn lleihau yn y
blynyddoedd i ddod.
Adroddwyd bod cynnydd o 248% i’w weld yn y
gwaith sy’n ymwneud â phryderon diogelu am ymarferwyr a’r rhai mewn swyddi o
ymddiriedaeth, o’i gymharu â 2022/23. Cadarnhawyd bod gweithdrefnau mewn lle ar
gyfer ymateb i bryderon diogelu am y rhai y mae eu gwaith yn dod â nhw i
gysylltiad â phlant neu oedolion sydd yn wynebu risg.
Eglurwyd bod 281 o blant mewn gofal ar
ddiwedd Mawrth 2024. Cadarnhawyd bod niferoedd plant mewn gofal wedi lleihau yn
ystod y flwyddyn ddiwethaf ond oherwydd cyfrifoldebau’r Cyngor i warchod
ymgeiswyr lloches a ffoaduriaid, mae’r niferoedd o blant o dan ofal yr awdurdod
yn parhau i fod yn 281, yn debyg i’r niferoedd ar ddiwedd Mawrth 2023. Yn yr un
modd, cadarnhawyd bod niferoedd o adroddiadau Oedolion yn ystod y flwyddyn
2023/24 yn debyg iawn i’r niferoedd a adroddwyd ar ddiwedd Mawrth 2023.
Mynegwyd balchder bod y Cyngor wedi ennyn
achrediad ‘Rhuban Gwyn’ gan ei fod yn cymryd dull strategol i roi diwedd i
drais domestig ac i bwysleisio nad yw’n cael ei oddef o fewn y Sir. Ymhellach,
nodwyd bod 55% o staff y Cyngor, sy’n gweithio yn y maes diogelwch cyhoeddus,
wedi mynychu hyfforddiant ‘Gofyn a Gweithredu’ er mwyn rhoi hyder iddynt i
gefnogi unigolion sy’n profi trais, cam-drin domestig neu drais rhywiol.
Pwysleisiwyd ei fod yn flaenoriaeth i’r staff hynny fynychu’r hyfforddiant dros
y flwyddyn nesaf.
Cyfeiriwyd at nifer o faterion sydd ar gynnydd yn y blynyddoedd diwethaf megis troseddau manwerthu (lladrad o siopa). Cadarnhawyd bod y Cyngor yn cydweithio gyda’r Heddlu er mwyn sicrhau bod gwybodaeth am gymorth i ymdopi â’r argyfwng costau byw ar gael iddynt, yn y gobaith bydd hyn yn lleihau’r niferoedd o droseddau manwerthu i’r dyfodol. Tynnwyd sylw at nifer o agweddau diogelu eraill sydd yn derbyn cefnogaeth y Panel megis Dyletswydd Trais Difrifol, Caethwasiaeth Fodern ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8