9 DATBLYGU DARPARIAETH BERSWYL I BLANT MEWN GOFAL MEWN GRŴP BYCHAN PDF 192 KB
Mae datblygiad darpariaeth breswyl i blant mewn gofal drwy gynllunio
cynllun cartrefi grŵp bychan angen ei graffu oherwydd bod y prosiect yn
rhan o Gynllun y Cyngor.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
a) Derbyn yr
adroddiad gan ddymuno pob llwyddiant i’r datblygiad.
b) Nodi awydd y
Pwyllgor i dderbyn diweddariad pan fydd y cartref preswyl wedi agor ac wedi
cyfnod o setlo.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet
Plant a Theuluoedd ac y Pennaeth Cynorthwyol Adnoddau - Plant a Chefnogi
Teuluoedd, gan nodi bod datblygiad cartrefi preswyl i blant mewn gofal yn un
sy’n flaenoriaeth o fewn Cynllun y Cyngor.
Rhannwyd cefndir i’r cynllun gan nodi bod
oddeutu 280 o blant yng ngofal y Cyngor ar hyn o bryd. Diolchwyd i bawb sy’n
rhan o’r cynllun maethu, gan fod y mwyafrif o blant mewn gofal wedi eu lleoli
gyda theuluoedd maeth. Eglurwyd bod eraill yn byw gartref gyda’u teuluoedd ond
yn derbyn cefnogaeth barhaus gan y Cyngor. Cydnabuwyd bod oddeutu 20 o blant
yng ngofal y Cyngor sydd angen lleoliad preswyl ar hyn o bryd ac nid oes
lleoliadau digonol ar gyfer gynnig y gwasanaeth hynny ar hyn o bryd heb
allanoli. Atgoffwyd bod nifer o blant wedi eu lleoli mewn ardaloedd tu hwnt i
Gymru ar hyn o bryd megis Bryste a Northumbria.
Cadarnhawyd mai nod y cynllun yw disodli’r
angen i allanoli gyda darpariaeth a gyflenwir gan y Cyngor, gan lwyddo i
ddarparu gofal preswyl i blant mewn gofal am gost sylweddol is na’r costau
cyfartalog presennol.
Eglurwyd bod y cynllun yn lleoli 2 blentyn
mewn gofal mewn tŷ yn y gymuned er mwyn sicrhau bod ganddynt gartref
sefydlog pan nad yw maethu yn ddatrysiad priodol ar eu cyfer. Manylwyd ar nifer
o fanteision y cynllun gan gynnwys derbyn gofal yn Gymraeg, parhau yn eu hysgol
leol a pharhau i feithrin perthynas gyda theulu a ffrindiau ble’n bosibl.
Cadarnhawyd mai prif ddiben y Cynllun yw darparu gofal arbenigol Cymraeg i
blant yn lleol gan ddiddymu’r angen iddynt adael y sir, neu adael Cymru i’w
dderbyn. Pwysleisiwyd bod y cynllun yn cydymffurfio gyda Chynllun Cydraddoldeb
y Cyngor yn ogystal â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Esboniwyd bod tŷ addas wedi cael ei
brynu ym Morfa Bychan ar gyfer cynnig gofal preswyl i blant rhwng 10 ac 18 oed.
Amlygwyd mai’r pwyslais ar hyn o bryd yw sicrhau staff i’r tai er mwyn caniatáu
i’r cynllun ddatblygu’n amserol cyn ystyried opsiynau o’r fath i’r dyfodol.
Ymhelaethwyd y gobeithir prynu dau dŷ arall mewn cymunedau gwahanol yn y
Sir yn fuan. Cydnabuwyd bod pryniant a chwblhau addasiadau i’r tŷ cyntaf
yn broses araf oherwydd bod polisïau a gweithdrefnau angenrheidiol yn cael eu
datblygu ar y cyd gyda datblygiad y tŷ. Pwysleisiwyd bydd pryniannau tai
i’r dyfodol yn broses cyflymach oherwydd bydd y polisïau a gweithdrefnau hynny
eisoes yn weithredol.
Adroddwyd bod angen i’r cynllun cael ei
gwblhau erbyn diwedd 2027 gan bwysleisio bydd angen 3 cartref preswyl
cofrestredig erbyn hynny. Cydnabuwyd bod nifer o risgiau yn deillio o’r
amserlen hyn megis; anhawster i ganfod ail neu drydydd adeilad addas neu
anhawster i gael y plentyn cyntaf yn y tŷ cyntaf erbyn mis Medi 2024.
Nodwyd hefyd bod heriau recriwtio hefyd yn derbyn ystyriaeth gan yr Adran.
Tynnwyd sylw at y sefyllfa gyllidol drwy gadarnhau bod y cynllun yn cael ei ariannu drwy grant RIF/HCF gan gadarnhau bod dwy filiwn o ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9