5 CYNLLUN TWF GOGLEDD CYMRU - ADRODDIAD PERFFORMIAD A RISGIAU CHWARTER 1 2024/25 PDF 244 KB
Hedd
Vaughan-Evans (Pennaeth Gweithrediadau) i gyflwyno’r adroddiad.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
1.
Ystyriwyd
ac nodwyd Adroddiad Perfformiad Chwarter 1 a Chofrestr Risg y Portffolio wedi’i
ddiweddaru.
2.
Cymeradwyo
Adroddiad Perfformiad Chwarter 1 i Lywodraeth Cymru a Llwyodraeth y DU, ynghyd
â phwyllgorau craffu’r awdurdodau lleol.
Cofnod:
Cyflwynwyd
yr adroddiad gan y Pennaeth Gweithrediadau gyda chefnogaeth swyddogion
Uchelgais Gogledd Cymru.
PENDERFYNWYD
1. Ystyriwyd ac nodwyd Adroddiad Perfformiad Chwarter 1 a
Chofrestr Risg y Portffolio wedi’i ddiweddaru.
2.
Cymeradwyo
Adroddiad Perfformiad Chwarter 1 i Lywodraeth Cymru a Llwyodraeth y DU, ynghyd
â phwyllgorau craffu’r awdurdodau lleol.
RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD
Mae adrodd chwarterol ar gynnydd yn erbyn
Cynllun Twf Gogledd Cymru yn un o ofynion Cytundeb Terfynol y Cynllun Twf. Yn dilyn ystyriaeth gan y Bwrdd Uchelgais,
caiff yr adroddiadau eu rhannu gyda Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a
phwyllgorau craffu'r awdurdodau lleol.
TRAFODAETH
Tywyswyd yr Aelodau drwy ddiweddariadau Uchelgais Gogledd Cymru gan dynnu
sylw penodol at y rhaglenni canlynol:
Y Rhaglen Ddigidol
Mynegwyd balchder bod Achos Busnes Amlinellol ar gyfer Safleoedd a
Choridorau Cysylltiedig ‘4G+’ wedi ei gymeradwyo gan y Bwrdd ym mis Mawrth.
Esboniwyd bod y gwaith o ddatblygu Achos Busnes Lawn gan gynnwys paratoadau ar
gyfer ymgysylltu â’r farchnad eisoes wedi cychwyn.
Nodwyd bod Adolygiad Porth 2 ar Achos Busnes Amlinellol cynllun Di-wifr
Uwch Campysau Cysylltiedig wedi ei gwblhau ym mis Mai. Cadarnhawyd bod y
prosiect wedi derbyn graddfa Ambr a phwysleisiwyd bod gwaith yn mynd rhagddo i
fynd i’r afael â’r argymhellion cyn cyflwyno’r Achos Fusnes Amlinellol i’r
Bwrdd ym mis Medi.
Cyfeiriwyd at nifer o brosiectau rhanbarthol sydd ar waith er mwyn cefnogi
busnesau bach a chanolig i ymchwilio i dechnolegau newydd ac i wella cysylltedd
band eang mewn cymunedau lleol. Nodwyd bod y prosiectau hyn wedi ei ariannu gan
y Gronfa Ffyniant Gyffredin.
Rhaglen Ynni Carbon Isel
Datganwyd bod prosiect ‘Egni’ arweinir gan Brifysgol Bangor yn gwneud
cynnydd da. Nodwyd bod Cam 3 RIBA yn barod i’w lofnodi’n derfynol a gobeithiwyd
bydd Achos Busnes Llawn yn cael ei gyflwyno i’r Bwrdd yn y gwanwyn. Yn yr un
modd, cadarnhawyd bod cynnydd cadarnhaol wedi ei wneud i oresgyn materion
allweddol yn ymwneud â chytundeb ariannu’r prosiect Gwaith Treulio Anaerobig
Glannau Dyfrdwy, cyn cyflwyno’r achos Busnes Llawn i’r Bwrdd ei ystyried.
Nodwyd bod cydweithrediad
cadarnhaol gyda Llywodraeth Cymru ar gyfer gwireddu prosiect Hwb Hydrogen
Caergybi. Esboniwyd bod y prosiect
yn gobeithio cryfhau’r sefyllfa pryniant ‘offtake’ ar gyfer
Hydrogen cyn symud ymlaen i’r can nesaf.
Cadarnhawyd bod dogfennau
tendr Ymgynghorydd y Gronfa ynghlwm â phrosiect Ynni Lleol Blaengar ar hyn o bryd yn
cael ei cwblhau,
ynghyd ar amserlen ar gyfer lansio’r tendr ac adolygu’r cyflwyniadau yn cael ei gynllunio
ar hyn o bryd.
Rhaglen Tir ac Eiddo
Cyfeiriwyd at nifer o brosiectau’r rhaglen gan gynnwys Warren Hall, Porth y
Gorllewin, Cyn Ysbyty Gogledd Cymru, Parc Bryn Cegin, Porth Wrecsam a Phorth
Caergybi.
Esboniwyd bod Stage Fifty Ltd, datblygwyr prosiect Stiwdios Kinmel, wedi ei roi yn nwylo’r gweinyddwyr ar ddechrau Ebrill 2024 gan eu prif ariannwr. Pwysleisiwyd bod trafodaethau arfaethedig wedi ei cynnal rhwng swyddogion Uchelgais Gogledd Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a’r unigolion allweddol oedd ynghlwm wrth y cynnig gwreiddiol. Cadarnhawyd bydd penderfyniadau yn cael eu gwneud er mwyn ystyried a oes modd datblygu’r cais diwygiedig. Hyderwyd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5