Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 03/10/2024 - Y Cyngor (eitem 7)

7 ADRODDIAD PERFFORMIAD BLYNYDDOL A HUNANASESIAD 2023/24 pdf eicon PDF 165 KB

Cyflwyno adroddiad Arweinydd y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwyo a mabwysiadu Adroddiad Perfformiad Blynyddol a Hunanasesiad Cyngor Gwynedd 2023/24.

 

Cofnod:

 

Yn absenoldeb yr Arweinydd, Y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, cyflwynodd y Dirprwy Arweinydd, Y Cynghorydd Nia Jeffreys, adroddiad yn gofyn i’r Cyngor gymeradwyo a mabwysiadu Adroddiad Perfformiad Blynyddol a Hunanasesiad 2023/24.

 

Diolchodd y Dirprwy Arweinydd i holl weithwyr y Cyngor am eu gwaith dros y flwyddyn, a hynny mewn cyfnod hynod o heriol.  Diolchodd hefyd i aelodau’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio am eu sylwadau ac i Dîm y Cabinet am eu gwaith yn arwain ar y meysydd penodol.

 

Cyfeiriodd y Dirprwy Arweinydd at rai meysydd blaenoriaeth yn yr adroddiad, sef:-

 

·         Gwynedd Yfory – bron i 5,000 o blant oedran cynradd yn derbyn cinio poeth maethlon bob dydd yn yr ysgolion.

·         Gwynedd Glyd – creu dros 200 o gartrefi ychwanegol ar gyfer trigolion Gwynedd.

·         Gwynedd Ofalgar - y tŷ cyntaf wedi’i brynu ar gyfer y Gwasanaeth Cartrefi Bychan i Blant yn ardal Porthmadog a’r ddarpariaeth tai gofal ychwanegol ysgafn wedi’i agor ym Mhwllheli ar gyfer oedolion.

·         Gwynedd Werdd – y gwaith o drawsnewid dau o safleoedd tirlenwi Gwynedd wedi arwain at arbed 74 erw yn Ffridd Rasys, Harlech a 32 erw yn Llwyn Isaf, Penygroes.

 

Yna cyfeiriodd y Dirprwy Arweinydd at un stori y tu ôl i’r ystadegau gan amlygu pwysigrwydd rhoi wynebau i waith y Cyngor ac enwau i’r ystadegau, a hefyd er mwyn cydnabod llwyddiannau.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau.  Codwyd y materion a ganlyn gan aelodau unigol:-

 

·         Nodwyd nad oedd y stori y tu ôl i’r ystadegau yn stori unigryw o bell ffordd a bod yr holl waith mae’r swyddogion yn ei wneud yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl Gwynedd, a hynny er gwaethaf yr argyfwng ariannol.  Ategwyd diolchiadau’r Dirprwy Arweiniydd i holl staff y Cyngor.

·         Diolchwyd yn arbennig i’r Timau Ardal Ni, y glanhawyr strydoedd, y staff gorfodaeth stryd, a hefyd y staff gwaredu ysbwriel am eu gwaith caled ymhob tywydd.

·         Nodwyd bod ystadegau’n dangos bod 5,400 o bobl wedi gadael Gwynedd yn ystod y flwyddyn, a holwyd beth oedd y rheswm am hyn.  Mewn ymateb, eglurwyd bod canran uchel iawn o’r 5,400 o ganlyniad i farwolaethau a diffyg genedigaethau, yn hytrach nag allfudo.  Yn amlwg, roedd pobl ifanc yn gadael y sir hefyd, ond hyderid y byddai creu cyfleoedd gwaith, darparu tai fforddiadwy, ynghyd â nifer o’r cynlluniau eraill yng Nghynllun y Cyngor o gymorth yn hyn o beth.

·         Nodwyd bod Osian Rhys, swyddog ifanc sy’n gweithio ar y Cynllun Arfor, wedi rhoi cyflwyniad ysbrydoledig mewn noson Rhwydwaith Seren yn Pontio yn ddiweddar ar fanteision dychwelyd i’r ardal hon i fyw a gweithio.  Roedd bwriad i roi’r cyfle iddo roi’r cyflwyniad hwn yn ehangach gan y byddai llawer o bobl ifanc yn siŵr o uniaethu ag ef yn ei angerdd a’i ddyhead i weld pobl ifanc yn dychwelyd i Wynedd, ac roedd angen uchafu ac amlhau'r negeseuon hynny.

·         Diolchwyd i’r Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant a phawb sy’n gwthio Cynllun Safle Penrhos yn ei flaen, ond pwysleisiwyd yr angen i ddal ati i wthio i gael y maen i’r  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7