Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 03/10/2024 - Y Cyngor (eitem 8)

Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Cai Larsen

Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho yn unol ag Adran 4.19 y Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Cai Larsen yn cynnig fel a ganlyn:-

 

A hithau bellach yn dynesu at flwyddyn ers i’r rhyfel yn Gaza gychwyn mae Cyngor Gwynedd yn nodi bod:

 

Dros 40,000 o drigolion Gaza wedi eu lladd gan luoedd diogelwch Israel - y mwyafrif llethol yn sifiliaid.

Tua 10,000 o bobl - sifiliaid yn bennaf - heb eu darganfod ond sydd bron yn sicr yn farw.

Dros 90,000 wedi eu hanafu - eto gyda’r mwyafrif yn sifiliaid.

Yn agos i 200,000 wedi marw oherwydd effeithiau anuniongyrchol ymgyrch byddin Israel.

Bod mwyafrif llethol y 2.2m o bobl sy’n byw yno wedi colli eu cartrefi, neu wedi gorfod symud o’u cartrefi.

Bod pobl sydd â’u teuluoedd yn byw yn Gaza ymysg trigolion Gwynedd.

 

O ystyried hyn, ac o ystyried nifer o sefyllfaoedd erchyll cyfredol eraill megis Wcrain, Yemen a Maymar, geilw’r Cyngor Llawn, fel rhan o’r broses o adolygiad blynyddol y Strategaeth Fuddsoddi, fod ystyriaeth yn cael ei rhoi i ychwanegu darpariaeth sydd yn cyfarch egwyddorion gwarchod  iawnderau dynol a parchu cyfraith rhyngwladol .

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

A hithau bellach yn dynesu at flwyddyn ers i’r rhyfel yn Gaza gychwyn mae Cyngor Gwynedd yn nodi bod:

 

Dros 40,000 o drigolion Gaza wedi eu lladd gan luoedd diogelwch Israel - y mwyafrif llethol yn sifiliaid.

Tua 10,000 o bobl - sifiliaid yn bennaf - heb eu darganfod ond sydd bron yn sicr yn farw.

Dros 90,000 wedi eu hanafu - eto gyda’r mwyafrif yn sifiliaid.

Yn agos i 200,000 wedi marw oherwydd effeithiau anuniongyrchol ymgyrch byddin Israel.

Bod mwyafrif llethol y 2.2m o bobl sy’n byw yno wedi colli eu cartrefi, neu wedi gorfod symud o’u cartrefi.

Bod pobl sydd â’u teuluoedd yn byw yn Gaza ymysg trigolion Gwynedd.

 

O ystyried hyn, ac o ystyried nifer o sefyllfaoedd erchyll cyfredol eraill megis Wcráin, Yemen a Maymar, geilw’r Cyngor Llawn, fel rhan o’r broses o adolygiad blynyddol y Strategaeth Fuddsoddi, fod ystyriaeth yn cael ei rhoi i ychwanegu darpariaeth sydd yn cyfarch egwyddorion gwarchod iawnderau dynol a pharchu cyfraith ryngwladol.

 

Cofnod:

 

Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Cai Larsen o dan Adran 4.19 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-

 

A hithau bellach yn dynesu at flwyddyn ers i’r rhyfel yn Gaza gychwyn mae Cyngor Gwynedd yn nodi bod:

 

Dros 40,000 o drigolion Gaza wedi eu lladd gan luoedd diogelwch Israel - y mwyafrif llethol yn sifiliaid.

Tua 10,000 o bobl - sifiliaid yn bennaf - heb eu darganfod ond sydd bron yn sicr yn farw.

Dros 90,000 wedi eu hanafu - eto gyda’r mwyafrif yn sifiliaid.

Yn agos i 200,000 wedi marw oherwydd effeithiau anuniongyrchol ymgyrch byddin Israel.

Bod mwyafrif llethol y 2.2m o bobl sy’n byw yno wedi colli eu cartrefi, neu wedi gorfod symud o’u cartrefi.

Bod pobl sydd â’u teuluoedd yn byw yn Gaza ymysg trigolion Gwynedd.

 

O ystyried hyn, ac o ystyried nifer o sefyllfaoedd erchyll cyfredol eraill megis Wcráin, Yemen a Maymar, geilw’r Cyngor Llawn, fel rhan o’r broses o adolygiad blynyddol y Strategaeth Fuddsoddi, fod ystyriaeth yn cael ei rhoi i ychwanegu darpariaeth sydd yn cyfarch egwyddorion gwarchod iawnderau dynol a pharchu cyfraith ryngwladol.

 

https://ssl.gstatic.com/ui/v1/icons/mail/images/cleardot.gifGosododd yr aelod y cyd-destun i’w gynnig, gan nodi:-

 

·         Bod pethau wedi symud ymlaen ers iddo lunio’r cynnig o ran nifer y marwolaethau a maint y dirfod, a hefyd o ran lleoliad daearyddol y distryw, ond nad oedd am gyfeirio at yr erchyllterau hynny yn benodol gan fod y cynnig yn siarad drosto’i hun.

·         Bod pobl Gwynedd wedi ymateb i’r hyn sy’n digwydd yn y Dwyrain Canol drwy gynnal gwylnosau rheolaidd yng Nghaernarfon a gwrthdystiadau mewn gwahanol lefydd yn y sir, gan gynnwys gwrthdystiad hirhoedlog ac arwrol gan fyfyrwyr ym Mangor.

·         Y dymunai esbonio pam ei fod o’r farn y dylai’r Cyngor adolygu ei bolisïau a’i strategaethau buddsoddi i flaenori buddsoddiadau moesegol yng nghyd-destun Israel, ac yng nghyd-destun record hir gan arweinwyr y wlad honno o anwybyddu cyfraith ryngwladol a hawliau dynol, a gwneud hynny yn fwriadol dros gyfnod hir o amser pan nad oes yna ryfel yn mynd rhagddo.

·         Bod yr ymddygiad hirdymor yma yn cynnwys:-

 

Ø   Camdriniaeth gyson a hirhoedlog o Balesteiniaid.

Ø   Gorddefnydd o rym.

Ø   Llofruddiaethau di-gyfiawnhad.

Ø   Amddifadu pobl o’r hawl i ymgynnull a symud yn rhydd.

Ø   Yr arfer o ymestyn presenoldeb Israelaidd ar lan Gorllewinol yr Iorddonen, sy’n groes i 4ydd Confensiwn Genefa, confensiwn sy’n gwahardd pwerau meddiannol rhag symud ei phoblogaeth ei hun i diroedd maent wedi eu meddiannu.

Ø   Cosbi torfol - hyd yn oed cyn y cyrch presennol roedd blocâd Gaza yn amddifadu trigolion Gaza o fynediad hawdd i fwyd, meddyginiaeth a chyfleoedd economaidd, oedd ynddo’i hun yn creu argyfwng dyngarol cyn i’r cyrch yma gychwyn.

Ø   Gwahaniaethu yn erbyn pobl o gefndir Arabaidd oddi mewn i ffiniau Israel, gwahaniaethu o ran cynrychiolaeth ddemocrataidd, cyfleoedd economaidd a mynediad i wasanaethau.

Ø   Y defnydd o lysoedd milwrol i erlyn sifiliaid a defnyddio system erlyn gyfochrog filwrol sy’n lleihau tryloywder, lleihau hawliau sylfaenol ac yn arwain at gyfnodau hir o garcharu di-ddyfarniad.

Ø   Cyfyngu ar hawliau i hunanfynegiant  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8