7 PARTH BUDDSODDI SIR Y FFLINT A WRECSAM PDF 231 KB
Alwen
Williams (Prif Weithredwr Dros Dro Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd) i
gyflwyno’r adroddiad.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
1.
Awdurdodi’r Prif Weithredwr dros dro i barhau i gydweithio â Llywodraeth
Cymru, Llywodraeth y DU, Cynghorau Sir y Fflint a Wrecsam a rhanddeiliaid lleol
i baratoi dogfennau'r Porth sy'n weddill ar ffurf drafft, o dan gyfarwyddyd a
chyngor Uwch Swyddog Cyfrifol arfaethedig y Parth Buddsoddi, Prif Weithredwr
dros dro y CBC. Bydd penodiad yr Uwch Swyddog Cyfrifol (SRO) yn cael ei
ffurfioli ym Mhorth 3, a’i gyflwyno i’r CBC maes o law.
2.
Cefnogi, mewn egwyddor, y Model Llywodraethu arfaethedig sy'n gosod
allan y ffurf arfaethedig o’r strwythurau penderfyniadau ar gyfer y Parth
Buddsoddi.
3.
Cyflwyno dogfennaeth arfaethedig y Porth i'w chymeradwyo, gan y CBC yn
ei gyfarfod ym mis Tachwedd, cyn cyflwyno'n ffurfiol i Lywodraethau'r DU a
Chymru.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan
Alwen Williams, Prif Weithredwr Dros Dro y CBC.
PENDERFYNWYD:
1.
Awdurdodi’r Prif Weithredwr dros dro i barhau
i gydweithio â Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, Cynghorau Sir y Fflint a
Wrecsam a rhanddeiliaid lleol i baratoi dogfennau'r Porth sy'n weddill ar ffurf
drafft, o dan gyfarwyddyd a chyngor Uwch Swyddog Cyfrifol arfaethedig y Parth
Buddsoddi, Prif Weithredwr dros dro y CBC. Bydd penodiad yr Uwch Swyddog
Cyfrifol (SRO) yn cael ei ffurfioli ym Mhorth 3, a’i gyflwyno i’r CBC maes o
law.
2.
Cefnogi, mewn egwyddor, y Model Llywodraethu
arfaethedig sy'n gosod allan y ffurf arfaethedig o’r strwythurau penderfyniadau
ar gyfer y Parth Buddsoddi.
3.
Cyflwyno dogfennaeth arfaethedig y Porth i'w
chymeradwyo, gan y CBC yn ei gyfarfod ym mis Tachwedd, cyn cyflwyno'n ffurfiol
i Lywodraethau'r DU a Chymru.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad
oedd yn rhoi gwybodaeth ar gynnydd y Parc buddsoddi newydd yn Fflint a Wrecsam
sy’n canolbwyntio ar Weithgynhyrchu Uwch. Croesawyd Iain
Taylor, Ymgynghorwr AMION Consulting i’r cyfarfod gan nodi bod gan Iain brofiad o weithio efo rhanbarth dinas Lerpwl i
ddatblygu eu hachos ar gyfer y Parc Buddsoddi.
Eglurwyd bod y broses o
ddatblygu Parthau Buddsoddi yn gydweithredol o ran natur ac yn ddibynnol ar
rannu dogfennaeth i’w hadolygu ar draws rhanddeiliaid lleol, Llywodraeth Cymru
a Llywodraeth y DU. Cyfeiriwyd at y bwriad o rannu dogfennau Porth drafft wrth
iddynt gael eu paratoi ac i dderbyn adborth a chytundeb wrth i’r rhain
ddatblygu.
Nodwyd fod y CBC wedi ei
adnabod fel y Corff atebol ar gyfer y Parth Buddsoddi gan dynnu sylw at natur y
swyddogaeth, y dyletswyddau a’r cyfrifoldebau y mae’r CBC yn eu hysgwyddo wrth
ddatblygu a chyflawni'r Parth Buddsoddi. Cyfeiriwyd at y penderfyniadau fydd
gan y CBC i’w gwneud wrth ddatblygu’r Parth Buddsoddi. Rhannwyd fodel o
strwythur llywodraethiant arfaethedig (Atodiad A o’r
adroddiad) fel sail i baratoi ar gyfer y broses o fynd drwy’r pyrth efo’r
Llywodraethau ac i gael cymeradwyaeth ar y Parth Buddsoddi.
Ymhelaethodd yr Ymgynghorwr
AMION Consulting ar y strwythur Llywodraethiant
arfaethedig gan nodi bod bwriad i’r strwythur ffitio fewn efo’r strwythur Llywodraethiant sefydledig er mwyn osgoi dyblygu. Nododd
bod y gwaith yn ymdrech gyfunol ac estynnodd ddiolch i Gynghorau Fflint a
Wrecsam am eu cefnogaeth, gwaith a’u parodrwydd i gyd-weithio. Soniodd am yr
amcan o gynyddu nifer y swyddi Gweithgynhyrchu yng Ngogledd Ddwyrain Cymru gan
nodi bod y strwythur yn dangos sut mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn
cymryd rhan yn natblygiad y broses. Ymhelaethodd mai’r CBC fydd yn gyfrifol am
adrodd ar gyflawni ac yn gyfrifol am y buddsoddiadau grant.
Diolchodd Arweinydd Cyngor
Sir Wrecsam i’r swyddogion am eu gwaith a diolchodd i Gyngor Sir y Fflint am eu
cydweithrediad gan nodi bod y cynllun a’r buddsoddiad yn sylweddol. Ategwyd
sylwadau tebyg gan gynrychiolydd Cyngor Sir y Fflint gan nodi eu bod yn edrych
ymlaen at gyd-weithio efo Cyngor Wrecsam. Mynegwyd gwerthfawrogiad i Brif
Weithredwr dros dro y CBC a’i thîm am eu gwaith.
Holwyd os fydd y terfyn amser ym mis Tachwedd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7