Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 26/09/2024 - Pwyllgor Craffu Gofal (eitem 5)

5 GWASANAETH GOFAL CARTREF pdf eicon PDF 228 KB

I ystyried yr adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan:

1.    Nodi pryder am y rhestrau aros am ofal cartref mewn rhai ardaloedd y Sir.

2.    Ofyn am ddata am y rhestrau aros ar draws y Sir er mwyn gallu cymharu ardaloedd yn rhwyddach.

3.    Ofyn i’r Aelod Cabinet ddiweddaru’r Pwyllgor ar waith y Prosiect Gofal Cartref gan gynnwys gwybodaeth am leihau costau a gwella ansawdd data.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan yr Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant, Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant, Pennaeth Cynorthwyol Cefnogi Cymunedau, Iechyd a Llesiant a’r Pennaeth Cynorthwyol Gwasanaethau Oedolion.

 

Eglurwyd bod cyfres o newidiadau ar y gweill o fewn y maes gofal cartref ar hyn o bryd. Cydnabuwyd bod rhai materion angen sylw ers peth amser ond cadarnhawyd eu bod yn cael eu gweithredu erbyn hyn. Esboniwyd bod yr addasiadau hyn yn cael eu cyflwyno rŵan yn unol ag adolygiad Ffordd Gwynedd. Nodwyd bod swyddogion yn edrych ar y gwasanaethau o bersbectif dinesydd er mwyn asesu os yw gwasanaethau yn effeithiol neu beidio.

 

Datganwyd bod cytundeb a fabwysiadwyd gyda darparwyr allanol, sydd wedi ei fabwysiadu ers Tachwedd 2022, yn gweithredu dull newydd o weithio. Nodwyd bod pob darparwr yn cydweithio yn effeithiol gyda’r gweithwyr cymdeithasol a’r cymunedau ehangach er mwyn cynnig gofal cartref o’r radd flaenaf i ddefnyddwyr. Cymharwyd hyn gyda’r model gweithio blaenorol ble nad oedd cymaint o gydweithio ac roedd gofyn i ddarparwyr gofal cartref weithio ar ffurf undonog er mwyn darparu gofal yr un amser o’r dydd heb wir ystyried addasiadau i amserlen y defnyddiwr. Pwysleisiwyd bod y model presennol yn caniatáu i weithwyr fagu perthynas gyda defnyddwyr a bod modd llwyddo i ddatrys unrhw broblem neu angen sydd angen ei gyfarch yn haws, gyda chymorth partneriaid.

 

Er hyn, cydnabuwyd bod addasu patrymau gwaith rhwng y ddau fodel uchod yn heriol a chadarnhawyd bod yr adran yn parhau i fod yn y cyfnod trosglwyddo hynny ar hyn o bryd. Sicrhawyd bod gweithwyr o’r farn bod eu telerau gwaith wedi newid er gwell yn y blynyddoedd diwethaf  a nodwyd bod dechrau gweithredu’r model newydd o weithio wedi arwain at gydweithrediad gwell mewn hybiau cymunedol yn rhoi gwerth cymunedol ychwanegol o’r cytundebau. Rhannwyd enghreifftiau o sut mae telerau gwaith wedi gallu cael eu haddasu megis newid mewn dyddiau gwyliau a chostau teithio ac addasiadau i batrymau shifft. Cydnabuwyd bod rhai gweithwyr  o’r farn eu bod ar eu pen eu hunain ac nad ydynt yn teimlo yn rhan o benderfyniadau perthnasol ac felly sicrhawyd bod yr Adran yn parhau i ganfod ffyrdd newydd o gyflwyno syniadau a chyfathrebu gyda gweithwyr er mwyn sicrhau mewnbwn.

 

Cadarnhawyd bod pob cytundeb allanol bellach gyda’r trydydd sector neu deuluoedd trydydd sector bychan. Pwysleisiwyd nad oes arian yn cael ei wario y tu hwnt i ardal leol y Sir.

 

Mewn ymateb i ymholiad ar addasiadau i systemau TGCh, cadarnhaodd y Pennaeth Cynorthwyol Cefnogi Cymunedau, Iechyd a Llesiant bod angen addasu 4 o systemau’r gwasanaethau gofal cartref oherwydd y newid i fodel gweithio. Eglurwyd bod systemau presennol y gwasanaeth yn dilyn yr hen fodel gweithio ac mae angen eu haddasu er mwyn sicrhau bod trefniadau cynllunio gofal, trefnu oriau staff a chofnodi symudedd defnyddwyr yn cael eu llunio yn dilyn y model newydd o weithio. Nodwyd bod y gwaith o edrych i mewn i addasu’r systemau hyn yn dechrau’n fuan gan Athro o Brifysgol Abertawe a disgwylir i’r canfyddiadau gael eu cyhoeddi erbyn mis Mawrth 2025.  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5