7 DI-WIFR UWCH - ACHOS BUSNES AMLINELLOL PDF 415 KB
Stuart
Whitfield (Rheolwr y Rhaglen Ddigidol) i gyflwyno’r adroddiad.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
1.
Cymeradwywyd
Achos Busnes Amlinellol ar gyfer y prosiect Di-wifr Uwch, yn amodol ar
gymeradwyaeth Llywodraethau Cymru a’r DU o’r broses sicrwydd yr ymgymerwyd â
hi, a bod y Swyddfa Rheoli Portffolio yn rhoi sylw i’r materion sy’n parhau a
nodir yn Adran 7 yr adroddiad, ac yn gwneud cais bod Achos Busnes Llawn yn cael
ei baratoi er mwyn i’r Bwrdd ei ystyried.
2.
Dirprwywyd
hawl i’r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd a’r
Is-gadeirydd, roi cymeradwyaeth terfynol o’r fanyleb caffael a’r meini prawf
gwerth cymdeithasol cyn i ariannwr y prosiect ddechrau caffael.
3.
Awdurdodwyd
i’r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â Swyddog Adran 151 a Swyddog
Monitro’r Awdurdod Lletya, i gytuno ar delerau drafft yn unol â’r adroddiad hwn
i’w cymeradwyo gan y Bwrdd Uchelgais fel sail ar gyfer y trefniadau ariannu
terfynol ar gyfer y prosiect a fydd yn ffurfio sail y Llythyr Cynnig Grant a
gaiff ei gytuno gan y Bwrdd ar y cam Achos Busnes Llawn.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Rheolwr y
Rhaglen Ddigidol.
PENDERFYNIAD
1. Cymeradwywyd
Achos Busnes Amlinellol ar gyfer y prosiect Di-wifr Uwch, yn amodol ar
gymeradwyaeth Llywodraethau Cymru a’r DU o’r broses sicrwydd yr ymgymerwyd â
hi, a bod y Swyddfa Rheoli Portffolio yn rhoi sylw i’r materion sy’n parhau a
nodir yn Adran 7 yr adroddiad, ac yn gwneud cais bod Achos Busnes Llawn yn cael
ei baratoi er mwyn i’r Bwrdd ei ystyried.
2. Dirprwywyd
hawl i’r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd a’r
Is-gadeirydd, roi cymeradwyaeth terfynol o’r fanyleb caffael a’r meini prawf
gwerth cymdeithasol cyn i ariannwr y prosiect ddechrau caffael.
3. Awdurdodwyd
i’r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â Swyddog Adran 151 a Swyddog
Monitro’r Awdurdod Lletya, i gytuno ar delerau drafft yn unol â’r adroddiad hwn
i’w cymeradwyo gan y Bwrdd Uchelgais fel sail ar gyfer y trefniadau ariannu
terfynol ar gyfer y prosiect a fydd yn ffurfio sail y Llythyr Cynnig Grant a
gaiff ei gytuno gan y Bwrdd ar y cam Achos Busnes Llawn.
RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD
Ceisio cymeradwyaeth y Bwrdd
i Achos Busnes
Amlinellol y Prosiect Di-wifr Uwch.
Fel prosiect sy’n cael ei gyflawni
gan Uchelgais Gogledd Cymru, mae
angen cymeradwyaeth gan y Bwrdd i
sefydlu’r fframweithiau fydd yn cyflawni’r
prosiect.
TRAFODAETH
Eglurwyd bydd y prosiect yn cynorthwyo busnesau a chyrff
cyhoeddus i fuddsoddi yn y dechnoleg di-wifr ddiweddaraf, gan gynnwys 5G ac
wi-fi o’r radd flaenaf ar draws rhanbarth y Gogledd. Gobeithiwyd bydd hyn yn
cynyddu effeithlonrwydd a chynhyrchiant. Nodwyd bod tystiolaeth i gefnogi bod
buddsoddiad o’r math hwn yn arwain at ddatblgiad busnes, cynaliadwydd masnachol
ac yn creu mwy o swyddi. Tynnwyd sylw bod nifer o gwmnïau mawr wedi manteisio
ar y math hwn o dechnoleg ac mae’r prosiect yn gobeithio lleihau’r risgiau
masnachol i gwmnïau wrth iddynt ymdrin
â’r datblygiad o’r newydd. Ysytriwyd bod y sectorau byddai’n elwa fwyaf o’r
dechnoleg yma yn cynnwys gweithgynhyrchu, trafnidiaeth, logisteg,
amaethyddiaeth a thwristiaeth. Rhannwyd enghreifftiau o fuddsoddiadau posib o
fewn y meysydd hyn megis darparu offer ar gyfer llinellau cynhyrchu mewn
ffatrïoedd, rhwydweithiau preifat 5G, uwchraddio rhwyweithiau i gefnogi
gweithrediadau logisteg mewn canolfannau trafnidiaeth yn ogystal â cheisiadau
Trefi Smart er mwyn gwella monitro a’r cyfathrebu yng nghanol ein trefi.
Adroddwyd bod y proesiect hon yw ail rhan y cynllun
‘Campysau Cysylltiedig’. Esboniwyd mai’r prosiect gyntaf oedd prosiect LPWAN a
oedd yn ymsetyn darpariaeth Rhwydwaith Ardal Gyfan Pŵer Isel i gefnogi
cywysiadau arloseol ‘Rhyngrwyd y pethau’ ar draws sectorau cyhoeddus a phreifat
drwy technoleg di-wift LoRaWAN. Atgoffwyd bod y cynllun hwn wedi ei gymeradwyo
gan y Bwrdd eisoes.
Esboniwyd mai prif amcan gwariant y prosiect yw ‘Galluogi 100-200 o fusnesau a defnyddwyr sector cyhoeddus ymhob un o siroedd y gogledd i gymryd mantais o gysylltedd di-wifr uwch erbyn 2030’. Gobeithiwyd bydd hyn yn arwai at greu rhwng 130-200 o swyddi o fewn y rhanbarth a chreu GVA net ychwanegol o rhwng £41 miliwn a £62 miliwn erbyn 2036. Amcanwyd hefyd bydd cyfanswm buddsoddiad o rhwng £13miliwn ac £20 ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7