Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 01/10/2024 - Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Porthmadog (eitem 7)

7 DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLAETHOL YR HARBWR pdf eicon PDF 100 KB

Cyflwyno adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodi a derbyn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiadau isod a gwahoddwyd adborth gan yr aelodau ar faterion diogelwch a materion gweithredol yr Harbwr.

 

(1)    Adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau yn rhoi diweddariad bras i’r pwyllgor ar faterion yr Harbwr am y cyfnod rhwng mis Mawrth 2024 a Hydref 2024.

 

Ymhellach i gynnwys yr adroddiad ysgrifenedig, nododd yr Uwch Swyddog Harbyrau y byddai’n ymddeol yn llawn ar 31 Mawrth, 2025, yn dilyn cyfnod o ymddeoliad hyblyg.  Nododd fod ei swydd wedi ei hysbysebu gyda'r gobaith o’i llenwi cyn cyfnod y Nadolig fel bod modd i ddeilydd newydd y swydd ei gysgodi yn y rôl dros y misoedd nesaf. 

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan aelod, nododd y Rheolwr Gwasanaeth Morwrol fod yr hysbysiad swydd allan ers tua wythnos a bod dau gais i law hyd yma.  Bwriadai fonitro’r sefyllfa dros y dyddiau nesaf, a phe na fyddai yna lawer mwy o geisiadau yn cyrraedd, byddai angen ystyried lledaenu’r hysbyseb yn y wasg, ayb. 

 

Diolchodd yr Uwch Swyddog Harbyrau i’r Pwyllgor am eu cefnogaeth dros y blynyddoedd.

 

Ar ran y Pwyllgor, diolchodd y Cadeirydd i’r Uwch Swyddog Harbyrau am ei holl waith ar hyd y blynyddoedd, gan ddymuno iddo ymddeoliad hapus.  Diolchodd y Rheolwr Gwasanaeth Morwrol a’r Harbwrfeistr iddo am ei wasanaeth hefyd, gan nodi y byddai colled fawr ar ei ôl.

 

Materion Ariannol

Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth Morwrol grynodeb byr o gyllidebau’r Harbwr 01/4/24 - 31/3/25 (Adolygiad Awst 2024), a gynhwyswyd fel atodiad i’r adroddiad. Nodwyd yn benodol:-

·       Bod yna orwariant o dan y pennawd Gweithwyr oherwydd costau goramser. Nodwyd bod staff yr Harbwr wedi bod yn cynorthwyo mewn harbyrau eraill a hefyd ar draeth Morfa Bychan oherwydd trafferthion recriwtio staff eleni.  Nodwyd hefyd bod y swyddogion wedi gorfod ymateb i rai digwyddiadau y tu allan i oriau gwaith arferol.

·       Bod yna danwariant sylweddol o dan y pennawd Eiddo a gellid defnyddio’r arian yma i gwrdd â gorwariant dan benawdau eraill o’r gyllideb.

·       Bod y ffigwr £39 yn y golofn ‘Gwariant a Ragwelir’ dan y pennawd ‘Trafnidiaeth’ yn wallus, ac er na ellid cadarnhau’r gwir ffigwr ar hyn o bryd, ni ragwelid y byddai’n uwch na’r swm o £800 a glustnodwyd ar ei gyfer yn y gyllideb.

·       Bod yna orwariant o dan y pennawd Gwasanaethau a Chyflenwadau am sawl rheswm, yn benodol: oherwydd costau uchel cynnal a chadw cychod a’r angen i  uwchraddio system CCTV yr Harbwr a buddsoddi mewn offer diogelwch newydd.

·       Y clustnodwyd £30,000 yn y Gronfa Forwrol ar gyfer gwella'r tir a’r compownd yn Harbwr Porthmadog gyda’r gwaith yn digwydd dros fisoedd yr hydref a’r gaeaf.  Gellid diweddaru’r Pwyllgor ar ddatblygiad y cynllun yn y cyfarfod nesaf.

·       Y rhagwelid diffyg incwm o £5,210, a hynny’n bennaf oherwydd y tywydd anffafriol dros fisoedd yr haf a'r lleihad yn nifer y cychod pŵer sydd wedi’u cofrestru.

·       O ran y Cyfanswm Net, rhagwelid diffyg o ychydig dros £6,000, sy’n eithaf da o ystyried y tywydd.  Canmolwyd y staff ar lwyddo i ddenu £80,900 o incwm yn yr hinsawdd anodd sydd ohoni.

 

Holwyd a oedd sefyllfa fregus  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7