Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 26/09/2024 - Pwyllgor Craffu Gofal (eitem 6)

6 TRAFNIDIAETH I RAI SYDD GYDA DEMENETIA I FYNYCHU GOFAL DYDD pdf eicon PDF 247 KB

I ystyried yr adroddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

1.    Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod  y drafodaeth.

2.    Datgan pryder nad yw’r ddarpariaeth yn gyson ar draws y Sir a phwysleisio pwysigrwydd rhoi egwyl i ofalwyr di-dâl.

3.    Gofynnwyd am adroddiad pellach am yr adolygiad Polisi Trafnidiaeth ac adolygiad Gofal Dydd er mwyn i’r Aelodau roi mewnbwn amserol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan yr Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant, Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant, Pennaeth Cynorthwyol Cefnogi Cymunedau, Iechyd a Llesiant a’r Pennaeth Cynorthwyol Gwasanaethau Oedolion.

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:-

 

Adroddwyd bod yr holl weithwyr o fewn y maes hwn yn cydymffurfio â gofynion statudol Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant.

 

Atgoffwyd bod disgwyliad i weithwyr adnabod deilliannau unigolion yn ogystal a’r dull orau o ddarparu gofal  chefnogaeth iddynt. Nodwyd yr ystyrir adnoddau personol unigolion, cefnogaeth teuluol, lefel annibyniaeth, rhwydweithiau cefnogol lleol ac ystyriaethau ariannol.

 

Eglurwyd y ddarpariaeth gofal dydd mwyaf cyffredin gan fanylu bod tair darpariaeth o fewn Gwynedd. Nodwyd bod y rhain wedi eu lleoli yn Llys Cadfan (Tywyn), Plas Hedd (Bangor) a Phlas y Don (Pwllheli). Ymhelaethwyd mai Plas Hedd sy’n darparu gofal dydd i’r nifer uchaf o unigolion sy’n byw gyda dementia a gydag anghenion dydd, gyda 5 unigolyn yn mynychu ar gyfer gwasanaeth arbenigol deuddydd yr wythnos. Cadarnhawyd bod 10 unigolyn yn derbyn gwasanaeth ym Mhlas Hedd gyda dau aelod o staff yn gofalu amdanynt. Adroddwyd bod 4 unigolyn yn derbyn gwasanaeth gofal dydd ym Mhlas y Don a 3 unigolyn yn Llys Cadfan. Cydnabuwyd bod llai o unigolion yn defnyddio’r gwasanaeth yn yr ardaloedd hyn ond teimlwyd nad oedd hyn oherwydd rhesymau trafnidiaeth. Tynnwyd sylw bod gwasanaethau yn cael eu darparu mewn cartrefi preswyl eraill ym meddiant y Cyngor ond nodwyd bod y rhain yn cael eu cynnal ar sail achlysurol.

 

Cadarnhawyd mai’r teuluoedd sydd yn cludo’r unigolion hyn i’r ddarpariaeth gofal dydd oherwydd bod cyflyrau yn rhy ddwys er mwyn gallu defnyddio tacsi yn annibynnol, ond nodwyd bod rhai achosion ble mae tacsi yn cael eu defnyddio.

 

Pwysleisiwyd nad yw’r staff wedi derbyn cwyn am ddiffyg trafnidiaeth ac nid oes newidiadau amlwg mewn niferoedd mynychu oherwydd materion trafnidiaeth.

 

Nodwyd bod yr Adran yn cydweithio gyda’r gwasanaethau Iechyd yn gyson iawn. Ymhelaethwyd bod y gwasanaeth Iechyd yn cynnal gwasanaethau gofal dydd arbenigol ym Mhen Llŷn yn bennaf ac yn ne Meirionnydd ar rai prydiau. Ymhelaethwyd bod 10-15 o unigolion yn mynychu darpariaeth gofal dydd (hyd at 33 unigolion yr wythnos am wasanaeth sydd yn cael ei gynnal dau ddiwrnod yr wythnos) ac maent yn annog pob unigolyn i wneud trefniadau cludiant eu hunain. Eglurwyd eu bod yn gwneud hyn oherwydd mai’r safle mwyaf addas ar gyfer y ddarpariaeth o fewn yr ardaloedd yw Bryn Beryl ac ystyrir trafnidiaeth ysbyty i fod yn annibynadwy. Pwysleisiwyd bod y gwasanaeth Iechyd yn annog teulu i ddarparu cludiant neu ddibynnu ar gludiant cymdeithasol megis O Ddrws I Ddrws neu Cymro. Adroddwyd bod staff Hafod Hedd (Bryn Beryl) yn gweld cynnydd yn niferoedd unigolion sydd yn mynychu ac nid ydynt yn ymwybodol am unrhyw nad sydd yn mynychu oherwydd trafferthion trafnidiaeth.

 

Adroddwyd ar wasanaethau eraill sydd ar gael i unigolion sydd yn byw â dementia, sydd hefyd yn cynnig seibiant i ofalwyr di-dâl. Nodwyd bod gwasanaeth Dementia Actif yn gefnogaeth ataliol sy’n cefnogi nifer o unigolion a’u teuluoedd. Esboniwyd bod y  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6