8 POLISI CODI TÂL AM OFAL PDF 292 KB
I dderbyn sylwadau’r pwyllgor ar y newidiadau arfaethedig cyn mynd allan i ymgynghori a chyflwyno i'r Cabinet.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
1. Cytuno
i’r egwyddor o ymchwil pellach i addasu’r polisi codi tâl am ofal.
2. Gofynnwyd am adroddiad manylach yn cynnwys
union ffioedd i’w codi a’r fframwaith codi tâl
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet
Oedolion, Iechyd a Llesiant, Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant a
Rheolwr Prosiect, Tîm Arweinyddiaeth Corfforaethol.
Nodwyd mai bwriad yr adroddiad oedd rhoi
cyfle i’r Aelodau blaen graffu addasiad i’r polisi cyn cynnal ymgynghoriad
cyhoeddus a chyflwyno Adroddiad pellach i’r Cabinet am benderfyniad ffurfiol.
Atgoffwyd bod yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant yn gorwario ar hyn o bryd ac
yn bwriadu gwneud addasiadau i’r polisi hyn er mwyn cychwyn mynd i’r afael a’r
heriau ariannol presennol.
Eglurwyd y gobeithir cael sylwadau’r
Pwyllgor ar dair elfen o’r Polisi Codi Tâl am Ofal. Manylwyd bod y rhain yn
cynnwys:
· Addasu’r polisi i ychwanegu gwasanaethau
penodol sydd wedi bod am ddim yn hanesyddol megis Gofal Dydd, Gwasanaeth
Cymorth Iechyd Meddwl a Gwasanaethau Cefnogol Dementia.
· Addasu’r geiriad sy’n diffinio gofalwyr di-dâl a gwneud y
cymal ar ofalwyr di-dâl yn fwy eglur. Pwysleisiwyd nad yw’r Cyngor wedi bod yn
codi ffi am ofal uniongyrchol i ofalwyr di-dâl ac argymhellwyd bod y polisi yn
parhau i adlewyrchu hynny. Nodwyd yr angen i barhau i gefnogi gofalwyr di-dâl
oherwydd ei bod yn lleihau’r baich ar wasanaethau cymdeithasol. Cydnabuwyd bod
angen amlygu beth sydd ar gael am ddim i ofalwyr di-dâl ac argymhellwyd i
beidio codi tal am unrhyw gefnogaeth sydd yn enw’r gofalydd. Ystyriwyd y dylid
codi tâl am unrhyw wasanaeth ble mae elfen o ofal uniongyrchol neu
anuniongyrchol i’r unigolyn sy’n derbyn cymorth, yn ddibynnol ar asesiad
ariannol.
· Gweithredu ar ffioedd sydd eisoes o fewn
y polisi ond lle nad ydi’r Cyngor wedi bod yn eu codi’n hanesyddol. Rhannwyd
enghraifft o daliadau gohiriedig a ddefnyddir ble mae unigolyn yn mynd i
gartref preswyl neu nyrsio ond nad ydynt yn gwerthu eu cartref. Eglurwyd bod
costau gofal y person yn mynd yn erbyn eu heiddo ac y bydd y Cyngor yn
ad-ennill y ffioedd gofal sydd wedi cronni pan fydd eu cartref yn cael ei
werthu. Pwysleisiwyd bod y polisi yn caniatáu’r Cyngor i weithredu’r ffioedd hyn yn ogystal â ffioedd
am weinyddu’r taliad a gwaith cyfreithiol.
Cadarnhawyd nad yw’r cyngor yn codi llog ar y ffioedd disgwyliedig.
Nodwyd bod gan bob unigolyn yr hawl i gael
asesiad am ofal. Manylwyd os yw’r asesiadau yn dangos nad oes ganddynt y modd i
dalu, bydd y ffioedd yn cael eu heithrio. Eglurwyd bod uchafswm o £100 yr
wythnos am ffioedd gofal wedi cael ei osod am ffioedd gofal i unigolion a
phwysleisiwyd na fydd angen i neb dalu mwy na hynny am eu gofal.
Yn ystod y
drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:-
Nodwyd ei fod
yn anodd gwneud penderfyniadau pendant ar y mater hwn heb dderbyn data manwl am
y newidiadau y bwriedir ei wneud i’r polisi.
Ystyriwyd a yw’r uchafswm o £100 yn debygol o gynyddu i ddefnyddwyr. Mewn ymateb i’r sylwadau cadarnhaodd yr Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant bod ffioedd yn ofynnol am wasanaethau gofal er mwyn sicrhau bod gwasanaethau yn parhau i gael eu darparu i’r dyfodol. Adroddwyd bod Llywodraeth Cymru wedi cynnal ymgynghoriad yn ddiweddar ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8