Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 03/10/2024 - Y Cyngor (eitem 8)

Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Meryl Roberts

Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrthi yn unol ag Adran 4.19 y Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Meryl Roberts yn cynnig fel a ganlyn:-

 

Mae Cyngor Gwynedd yn gwrthwynebu’n llwyr toriadau haerllug a chreulon y Llywodraeth yn San Steffan i ddiddymu taliadau gwresogi cartrefi pensiynwyr Gwynedd y gaeaf hwn. Bydd y toriadau yma yn golygu bod o leiaf 85%, sef dros 20,000 o bensiynwyr Gwynedd yn colli allan ar y taliadau tanwydd. I’r perwyl hwn, rydym yn anfon gohebiaeth gre at Keir Starmer, fel prif weinidog y Deyrnas Gyfunol, yn beirniadu ei bolisi creulon ac yn holi iddo ei wyrdroi.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Mae Cyngor Gwynedd yn gwrthwynebu’n llwyr doriadau haerllug a chreulon y Llywodraeth yn San Steffan i ddiddymu taliadau gwresogi cartrefi pensiynwyr Gwynedd y gaeaf hwn. Bydd y toriadau yma yn golygu bod o leiaf 85%, sef dros 20,000 o bensiynwyr Gwynedd yn colli allan ar y taliadau tanwydd. I’r perwyl hwn, rydym yn anfon gohebiaeth gre at Keir Starmer, fel prif weinidog y Deyrnas Gyfunol, yn beirniadu ei bolisi creulon ac yn holi iddo ei wyrdroi.

 

Cofnod:

 

Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Meryl Roberts o dan Adran 4.19 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-

 

Mae Cyngor Gwynedd yn gwrthwynebu’n llwyr doriadau haerllug a chreulon y Llywodraeth yn San Steffan i ddiddymu taliadau gwresogi cartrefi pensiynwyr Gwynedd y gaeaf hwn.  Bydd y toriadau yma yn golygu bod o leiaf 85%, sef dros 20,000 o bensiynwyr Gwynedd yn colli allan ar y taliadau tanwydd. I’r perwyl hwn, rydym yn anfon gohebiaeth gre at Keir Starmer, fel prif weinidog y Deyrnas Gyfunol, yn beirniadu ei bolisi creulon ac yn holi iddo ei wyrdroi.

 

Mynegodd sawl aelod gefnogaeth frwd i’r cynnig.  Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion canlynol:-

 

Cyfeiriodd Pencampwr Oed Gyfeillgar y Cyngor, y Cynghorydd Dilwyn Morgan, at y gwaith sy’n mynd rhagddo o fewn y Cyngor i gefnogi pobl, megis:-

 

·         Annog pobl sy’n gymwys i dderbyn Credyd Pensiwn i’w hawlio, a thrwy hynny dderbyn y taliad gwresogi yn awtomatig.

·         Cynorthwyo pobl sydd ar y ffin o gymhwyso am Gredyd Pensiwn drwy hyrwyddo’r cymhorthdal ychwanegol sydd ar gael iddynt.

·         Bwriedid sefydlu Tasglu Taliadau Gaeaf i Bensiynwyr trawsadrannol yn fuan iawn gyda’r nod o ddatblygu ymgyrch i sicrhau bod trigolion y sir yn ymwybodol o, ac yn derbyn yr hyn sy’n haeddiannol iddynt.

·         Cynnal cyfres o ddigwyddiadau Byw’n Iach Byw’n Dda.  Cynhelid y cyntaf o’r digwyddiadau hyn yng Nghanolfan Glaslyn, Porthmadog ar y 7fed o Hydref, lle byddai dros 20 o wahanol asiantaethau yn bresennol i roi gwybodaeth a chynorthwyo pobl i lenwi ffurflenni cais ayb.  Trefnwyd digwyddiad yng Nghaernarfon ar 1 Tachwedd, gyda digwyddiadau pellach i ddilyn yn Ne’r Sir ac ardal Bangor.

·         Gweithio gyda gwasanaethau’r Llywodraeth a’r Adran Gwaith a Phensiynau i benderfynu ar sut orau i gyfathrebu ag unigolion.

·         Cynhaliwyd cyfarfod gyda Rhian Bowen-Davies, Y Comisiynydd Pobl Hŷn, oedd hefyd yn ategu ei phryder ynglŷn â’r bwriad i ddiddymu’r taliadau gwresogi.

·         Cynhaliwyd sesiwn ym Mhorthmadog ar gyfer aelodau’r Cyngor i’w cynghori ynglŷn â ble i gyfeirio pobl sy’n dod atynt am wybodaeth.  Nodwyd mai siomedig oedd y nifer a ddaeth i’r sesiwn, ond bod bwriad i drefnu sesiwn arall yn fuan.

 

Nodwyd, yn ôl ffigurau diweddar, nad oedd 1,977 o bobl Gwynedd yn derbyn y Credyd Pensiwn sy’n ddyledus iddynt, sef colled i Wynedd o £456,000.  Fodd bynnag, ers i’r Llywodraeth wneud eu datganiad, roedd 20% o’r bobl hynny sy’n gymwys i dderbyn y Credyd Pensiwn bellach yn ei dderbyn oherwydd bod mudiadau fel Cyngor Gwynedd ac eraill wedi bod yn annog pobl i’w hawlio.  Golygai hynny y byddai’r arbediad yn sgil diddymu’r taliadau gwresogi yn llai nag oedd Llywodraeth San Steffan wedi disgwyl.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r cynnig, sef:-

 

Mae Cyngor Gwynedd yn gwrthwynebu’n llwyr doriadau haerllug a chreulon y Llywodraeth yn San Steffan i ddiddymu taliadau gwresogi cartrefi pensiynwyr Gwynedd y gaeaf hwn.  Bydd y toriadau yma yn golygu bod o leiaf 85%, sef dros 20,000 o bensiynwyr Gwynedd yn colli allan ar y taliadau tanwydd.  I’r perwyl hwn, rydym yn anfon gohebiaeth gre at Keir Starmer, fel  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8