Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 24/10/2024 - Y Cyngor (eitem 5)

5 DEDDF LLYWODRAETH LEOL AC ETHOLIADAU (CYMRU) 2021 - PENDERFYNIAD AR FABWYSIADU SYSTEM PLEIDLAIS SENGL DROSGLWYDDADWY AR GYFER ETHOLIADAU CYNGOR GWYNEDD pdf eicon PDF 236 KB

Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

I beidio mabwysiadu sustem pleidlais sengl drosglwyddiadwy ar gyfer etholiadau Cyngor Gwynedd o hyn ymlaen yn unol ag Adran 8 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.

 

Cofnod:

 

Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Corfforaethol a Chyfreithiol yn nodi bod Adran 8 Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn caniatáu i unrhyw brif gyngor ddewis rhwng Sustem Mwyafrif Syml (“cyntaf heibio’r postyn”) neu Sustem Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy (“PSD”) ar gyfer prif gynghorau, ac yn gwahodd y Cyngor i ystyried y cwestiwn statudol a ganlyn yn dilyn cynnal ymgynghoriad ar newid y drefn bleidleisio:-

 

Yn unol ag Adran 8 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 fod y Cyngor yn penderfynu mabwysiadu sustem pleidlais sengl drosglwyddadwy ar gyfer etholiadau Cyngor Gwynedd o hyn ymlaen.

 

Wrth gyflwyno’r adroddiad, nododd yr Aelod Cabinet:-

 

·       Yn ôl gofynion y Ddeddf, y galwyd y cyfarfod hwn i drafod y penderfyniad yma yn unig.

·       Y cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng 15 Gorffennaf ac 15 Medi eleni.

·       Yn unol â phenderfyniad y Cyngor, yr ymgynghorwyd ag etholwyr llywodraeth leol Gwynedd a chynghorau tref a chymuned, sef y gofyn statudol, a bod dadansoddiad o ganlyniadau’r ymgynghoriad i’w gael yn Atodiad 1 i’r adroddiad.

·       Y cynhaliwyd proses ymgynghori eang gan ddefnyddio gwefan y Cyngor, y wasg a llyfrgelloedd y sir.  Yn ogystal, anfonwyd yn uniongyrchol at bob cyngor tref a chymuned yng Ngwynedd.

·       Bod yr ymgynghoriad wedi derbyn sylw eang yn y wasg ac ar y cyfryngau cymdeithasol.

·       Y cymerwyd camau dros gyfnod yr ymgynghoriad i ail-wthio’r wybodaeth.

·       Mai amcan ymgynghoriad yw ceisio barn ar fwriad, ac nid cynnal refferendwm ar y cwestiwn, a bod canlyniad ymgynghoriad yn cyfrannu at yr ystyriaethau, yn hytrach na dyfarnu ar y cyfeiriad.

·       Ei bod yn ofynnol i benderfyniad y Cyngor, beth bynnag y bo, fod yn seiliedig ar ystod o ystyriaethau, gan gynnwys cloriannu canlyniadau’r ymgynghoriad.

·       Petai’r aelodau yn pleidleisio o blaid symud i Sustem PSD, byddai’n gyfle hanesyddol i Gyngor Gwynedd arwain Cymru wrth ymuno â’r Alban, Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon yn eu defnydd o’r sustem, yn hytrach nag aros gyda Lloegr ar y Sustem Cyntaf Heibio’r Postyn.

·       Bod pob pleidlais yn bwysig ac y dylai pob llais gael ei glywed.

·       Yn yr etholiad diwethaf, bod 28 o’r 69 sedd ar Gyngor Gwynedd yn ddiwrthwynebiad, ac ers cyflwyno Sustem PSD yn yr Alban yn 2017, roedd yna lai o seddi diwrthwynebiad yng nghyfanswm pob etholiad nag a fu mewn un etholiad yng Ngwynedd yn unig yn 2022.

·       Bod Cyngor Gwynedd yn aml yn arwain y ffordd o ran cyflwyno polisïau sy’n torri tir newydd, felly pam nid hwn?

·       Bod y Sustem PSD yn safon aur ar gyfer sustemau etholiadol a chredid mai dyma’r peth iawn i’w wneud i bleidleiswyr, i’r Cyngor a dros ddemocratiaeth yng Ngwynedd.  Gan hynny, cynigid bod y Cyngor yn pleidleisio o blaid cyflwyno Sustem PSD ar gyfer etholiadau Cyngor Gwynedd.

·       Petai’r Cyngor yn penderfynu mabwysiadu Sustem PSD, byddai hynny’n arwain at gyfarwyddyd gan y Gweinidog i Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru gynnal adolygiad o’r trefniadau etholiadol ar gyfer Cyngor Gwynedd.

·       Mai amcan y broses fyddai creu wardiau newydd o rhwng 3-6 aelod, sy’n ofynnol er gweithredu’r sustem.

·       Y byddai’r Comisiwn, yn unol â’r  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5