Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 02/10/2024 - Cyd-Bwyllgor GwE (eitem 10)

10 COFRESTR RISG GwE pdf eicon PDF 193 KB

Cyflwyno Cofrestr Risg ddiweddaraf GwE i’r Cyd-bwyllgor.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

·       Derbyn a chymeradwyo’r gofrestr risg yn ddarostyngedig i nodi'r holl risgiau yn risgiau UCHEL (yn hytrach na CHANOLIG).

Rheswm: gyda diffyg amserlen a gwybodaeth, ei bod yn rhy gynnar yn y broses i ragfynegi yn wahanol

 

·       Sicrhau fod gwybodaeth o ran cynlluniau penodol a phrosesau trosglwyddo yn cael eu cyfathrebu yn gyson (misol) gyda’r Cydbwyllgor.

Cofnod:

Cyflwynwyd y gofrestr risg gan Rhys Williams (Pennaeth Gwasanaeth GwE - Dysgu Proffesiynol), oedd yn nodi mai pwrpas y gofrestr risg yw ffurfioli’r broses o adnabod risgiau a chymryd camau gweithredu dilynol i’w lliniaru.  Byddai rheoli'r risgiau'n effeithiol yn galluogi GwE i gefnogi'r amcanion strategol a'r blaenoriaethau strategol, gwneud defnydd effeithiol o adnoddau, a chyflawni’r deilliannau yn ôl y bwriad. Nodwyd bod y ddogfen yn ddogfen fyw sy’n cael ei hadolygu’n gyson a’r risgiau wedi cael eu hadolygu yng nghyd-destun y newidiadau arfaethedig i haen ganol y system addysg yng Nghymru a’r cyfnod trosiannol o wasanaeth Rhanbarthol i'r Awdurdodau Lleol.

 

Tynnwyd sylw at y Goblygiadau Ariannol gan fynegi nad yw'n glir beth fydd cost y newid sylweddol mewn polisi Llywodraeth Cymru mewn cyfnod anodd yn gyllidebol ac hefyd y Goblygiadau Personél  lle mae morâl a chymhelliant staff GwE yn hynod isel. Adroddwyd nad oedd eglurder eto o ran swyddi amgen i staff gwella ysgolion wedi mis Mawrth 2025 ac y bydd llai o secondiadau a diswyddiadau yn effeithio ar batrwm y tîm gan achosi

anghydbwysedd yn y cymorth i'r gwahanol sectorau.

 

Wrth drafod y risgiau yn unigol, nodwyd;

 

Cyllidol - bod Bwrdd Trosiannol bellach wedi ei sefydlu gyda Rheolwr Prosiect wedi ei benodi ac yn arwain ar y gwaith. Bydd y Bwrdd Trosiannol yn arwain at sicrhau bod amserlen glir yn ei le ac yn adnabod sefyllfa’r staff.

 

Adnoddau Dynol –bod cyfarfodydd tîm wedi eu trefnu i sicrhau bod  gwybodaeth am y cyfnod trosiannol yn cael ei rannu ar bob lefel yn gyson ynghyd â'r opsiynau sydd ar gael o ran cyflogaeth yn y dyfodol. 

 

Llywodraethiant – bod angen cylch gorchwyl sydd yn gwahaniaethu rhwng cyfrifoldebau’r Bwrdd Trosiannol a’r Cydbwyllgor.

 

Gofynnwyd i’r Cydbwyllgor adolygu a chymeradwyo cynnwys y gofrestr ynghyd â phenderfynu os oedd unrhyw risgiau y dymuna'r Cydbwyllgor eu cyflwyno i sylw'r Cabinet perthnasol.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol gan Aelodau;

·       Pryder bod y risgiau wedi symud o goch i oren. Yn derbyn bod Bwrdd Trosiannol wedi ei ffurfio ond mae’r amserlen yn parhau yn anhysbys.

·       Bod angen cyflwyno diweddariadau misol fydd yn hysbysu Cyd-bwyllgor GwE o gynlluniau / addasiadau penodol, yn arbennig materion adnoddau dynol.

·       Bod hi’n rhy fuan ym mhroses y cyfnod trosiannol i addasu’r risgiau i orenmae pethau yn cymryd amser, yn enwedig diswyddiadau.

·       Yn cynnig cadw’r risgiau yn goch. Er yn deall bod y sefyllfa yn anodd a bod materion yn datblygu, nid yw’r wybodaeth wrth law a gormod o gwestiynau heb ateb iddynt.

 

Cynigwyd ac eiliwyd nodi bod yr holl risgiau yn parhau yn risgiau UCHEL / COCH.

 

PENDERFYNWYD:

·       Derbyn a chymeradwyo’r gofrestr risg yn ddarostyngedig i nodi'r holl risgiau yn risgiau UCHEL (yn hytrach na CHANOLIG / OREN).

Rheswm: gyda diffyg amserlen a gwybodaeth, ei bod yn rhy gynnar yn y broses i ragfynegi yn wahanol.

·       Sicrhau fod gwybodaeth o ran cynlluniau penodol a phrosesau trosglwyddo yn cael eu cyfathrebu yn gyson (misol  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10