6 PARTH BUDDSODDI SIR Y FFLINT A WRECSAM - DIWEDDARIAD AR GYNNYDD PDF 564 KB
Alwen
Williams (Prif Weithredwr Dros Dro y CBC) i gyflwyno’r adroddiad.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Adolygu a cymeradwyo'r Safleoedd Treth a adnabuwyd (Porth Glannau
Dyfrdwy, Warren Hall ac Stad Ddiwydiannol Wrecsam) ac Ardaloedd Ardrethi a
Gedwir (Porth Glannau Dyfrdwy ac Stad Ddiwydiannol Wrecsam).
Adolygu a cymeradwyo'r Model Llywodraethu gyffredin arfaethedig.
Adolygu a cymeradwyo Themâu'r Parth Buddsoddi (Arloesi, Sgiliau a
Thrafnidiaeth) a'r ymyriadau lefel uchel, a fydd yn cael eu mireinio fel rhan o
Borth 4 (Ymyriadau) ac yn ystyried cynnwys 'Cymorth Busnes' fel y pedwerydd
thema, sy’n ymdrin â'r bwriad i fuddsoddi'n uniongyrchol mewn busnesau
gweithgynhyrchu uwch gyda chyngor a chyllid grant.
Cofnod:
Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Alwen Williams, Prif Weithredwr Dros Dro'r CBC.
PENDERFYNWYD
Adolygu a
chymeradwyo'r Safleoedd Treth a adnabuwyd (Porth Glannau Dyfrdwy, Warren Hall a
Stad Ddiwydiannol Wrecsam) ac Ardaloedd Ardrethi a Gedwir (Porth Glannau
Dyfrdwy a Stad Ddiwydiannol Wrecsam).
Adolygu a chymeradwyo'r Model Llywodraethu
gyffredin arfaethedig.
Adolygu a chymeradwyo Themâu'r Parth
Buddsoddi (Arloesi, Sgiliau a Thrafnidiaeth) a'r ymyriadau lefel uchel, a fydd
yn cael eu mireinio fel rhan o Borth 4 (Ymyriadau) ac yn ystyried cynnwys
'Cymorth Busnes' fel y bedwaredd thema, sy’n ymdrin â'r bwriad i fuddsoddi'n
uniongyrchol mewn busnesau gweithgynhyrchu uwch gyda chyngor a chyllid grant.
TRAFODAETH
Nodwyd bod yr
adroddiad yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd i sicrhau dynodiad
Parth Buddsoddi newydd yn Sir y Fflint a Wrecsam fydd yn canolbwyntio ar
Weithgynhyrchu Uwch.
Croesawyd Iain Taylor, Ymgynghorwr AMION
Consulting i’r cyfarfod gan nodi bod Iain yn gweithio ar ddatblygu’r cynnig ar
gyfer y parth buddsoddi. Ychwanegwyd bod gan Iain brofiad diweddar a perthnasol
iawn o arwain rhanbarth dinas Lerpwl yn llwyddiannus i gyflawni eu parth
buddsoddi sy’n seiliedig ar wyddorau bywyd a bod y cysylltiadau sydd gan Iain
wedi bod yn amhrisiadwy i’r CBC i’w helpu i ddatblygu cynnig cadarn.
Ymhelaethodd yr Ymgynghorwr AMION
Consulting ar y cynnydd da sy’n cael ei wneud ar ddatblygiad y cynnig a’u bod
wedi dechau cadarnhau’r sail ar gyfer pam eu bod yn meddwl y gall yr ymyriadau
hyn arwain at newid sylweddol yn nhwf y sector weithgynhyrchu. Credwyd y bydd
hyn yn arwain at allu cyflogi tua 6,000 yn fwy o bobl erbyn diwedd y rhaglen.
Cyfeiriwyd at y Safleoedd Treth a adnabuwyd
sef Porth Glannau Dyfrdwy, Warren Hall a Stad Ddiwydiannol Wrecsam gan gyfeirio
at fuddion y safleoedd hyn a’r awydd i symud ymlaen efo’r safleoedd ar ôl
derbyn cymeradwyaeth y Cyd-bwyllgor.
Amlinellwyd
y Strwythur Llywodraeth arfaethedig fel sydd wedi ei nodi yn rhan 7.9 o’r
adroddiad gan fanylu ar y bartneriaeth rhwng y Cyd-bwyllgor Corfforedig a’r
ddau Gyngor sy’n hanfodol i’r strwythur yn ogystal â gwaith yr is-bwyllgor Lles
Economaidd. Cyfeiriwyd at swyddogaethau'r Gweithgor Parth Buddsoddi Sir Fflint
a Wrecsam yn ogystal â Bwrdd Cynghori Cysgodol y Parth Buddsoddi.
Manylwyd
ar y Themâu Craidd fel sydd wedi eu nodi yn rhan 8.1 o’r adroddiad gan adrodd y
bydd y Parth Buddsoddi yn clystyru buddsoddiad ar draws tair thema graidd sef
Sgiliau, Arloesedd a Thrafnidiaeth. Cynigir datblygu pedwaredd thema sef
Cymorth Busnes i ddarparu sylfaen thematig ar gyfer cyngor a chymorth grant i
gyd-fuddsoddi mewn busnesau gweithgynhyrchu uwch yn Sir y Fflint a Wrecsam.
Diolchwyd i’r Ymgynghorwr AMION Consulting am y cyflwyniad ac i Brif Weithredwr dros dro’r CBC am yr adroddiad. Holwyd ynghylch rhan 10.3 o’r adroddiad, y Dyraniadau Ymyriadau, gan ofyn a yw’r ffigyrau a’r canrannau sydd wedi eu nodi yn y tabl yn gywir o ran y cydbwysedd ac os bydd hyblygrwydd yn y dyfodol petai cyfle arall yn amlygu ei hun. Cadarnhawyd bod y rhaglenni fwyaf effeithiol a cyraeddadwy wedi eu darganfod a bob blwyddyn bydd y Cyd-bwyllgor yn cymeradwyo Cynllun Cyflawni ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6