4 CAIS AM DRWYDDED EIDDO PDF 136 KB
CLWB RYGBI Y BALA, MAES GWYNIAD, HEOL TEGID, BALA LL23 7DZ
I ystyried
y cais
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD:
Caniatáu
Oriau
agor
Dydd
Sul: 09:00 - 23:30
Dydd
Llun: 09:00 – 23:30
Dydd
Mawrth: 09:00 – 23:30
Dydd
Mercher: 09:00 – 23:30
Dydd
Iau: 09:00 – 23:30
Dydd
Gwener: 09:00 – 23:30
Dydd
Sadwrn: 09:00 – 23:30
Cyflenwi
Alcohol Ar yr Eiddo
Dydd
Sul: 09:00 - 23:00
Dydd
Llun: 09:00 – 23:00
Dydd
Mawrth: 09:00 – 23:00
Dydd
Mercher: 09:00 – 23:00
Dydd
Iau: 09:00 – 23:00
Dydd
Gwener: 09:00 – 23:00
Dydd
Sadwrn: 09:00 – 23:00
Cynnwys
y mesurau ychwanegol a gyflwynwyd yn rhan M o’r cais, fel amodau i’r drwydded.
Nodyn:
Derbyn cyngor ar fesurau
lliniaru sŵn
Cofnod:
Eraill
a wahoddwyd:
Huw Dylan
(Cadeirydd Clwb Rygbi Y Bala)
John Williams
(Is-gadeirydd Clwb Rygbi Y Bala)
Harry Guttridge –
Clwb Rygbi Y Bala
Mike a Manon Dodd
– preswylwyr lleol
Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Eluned Jones (preswylydd lleol), Eifion a
Christine Roberts (preswylwyr lleol), Huw Antur (Clerc Cyngor Tref Y Bala),
Elisabeth Williams (Swyddog Trwyddedu Heddlu Gogledd Cymru) a’r Cynghorydd
Dilwyn Morgan (Aelod Lleol)
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
a)
Adroddiad yr Adran
Trwyddedu
Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded
eiddo ar gyfer
Clwb Rygbi Y Bala, Maes Gwyniad, Heol Tegid, Y Bala. Bwriad y cais yw cael gwerthu
alcohol yn ystod gemau drwy’r tymor rygbi rhwng Medi a Mai gyda’r mwyafrif o
ddefnydd dros y penwythnos.
Nodwyd bod gan
Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu tystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei
gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol. Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r
amcanion trwyddedu ac amlygwyd y byddai’r mesurau hyn yn cael eu cynnwys ar y
drwydded.
Derbyniwyd sylw
gan Heddlu Gogledd Cymru oedd yn adrodd na dderbyniwyd unrhyw ddigwyddiad o
drosedd ac anrhefn yn gysylltiedig â’r Clwb Rygbi yn ystod cyfnodau defnyddio
rhybuddion digwyddiadau dros dro, ac felly nid oedd gwrthwynebiad ganddynt.
Ategwyd bod Cyngor Tref y Bala yn gefnogol i’r cais, ond yn argymell i’r oriau
gael eu cyfyngu I 13:00 - 21:00.
Adroddwyd bod
sylwadau ychwanegol oedd yn gefnogol i’r cais wedi eu derbyn a hynny tu allan
i’r cyfnod ymgynghori. Nodwyd y byddai angen Cyngor cyfreithiol os dylid
ystyried y llythyrau ai peidio.
Roedd y Swyddog yn
argymell bod yr Is-bwyllgor yn ystyried sylwadau / pryderon yr ymatebwyr a
dderbyniwyd ynghyd ag ymateb yr ymgeisydd i’r sylwadau / pryderon hynny.
Amlygwyd na dderbyniwyd cwynion gan yr Awdurdod Trwyddedu nac Uned Gwarchod y
Cyhoedd yn dilyn sawl digwyddiad a ganiatawyd drwy ddefnydd Hysbysiad
Digwyddiadau Dros Dro. O ganlyniad roedd y Swyddog yn argymell caniatáu’r cais
gydag amodau.
b)
Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:
· Cyfle i Aelodau’r
Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i gynrychiolydd y Cyngor.
· Ar ddisgresiwn y
Cadeirydd, yr ymgeisydd neu ei gynrychiolydd i ofyn cwestiynau i gynrychiolydd
y Cyngor.
· Rhoi cyfle i’r
ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd ymhelaethu ar y cais a galw tystion
· Rhoi cyfle i
Aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd
· Ar ddisgresiwn y
Cadeirydd gall cynrychiolydd y Cyngor ofyn cwestiynau i’r ymgeisydd neu ei
gynrychiolydd
· Rhoi gwahoddiad i
bob Ymgynghorai gefnogi unrhyw sylwadau ysgrifenedig
· Rhoi cyfle i
gynrychiolydd y Cyngor a’r ymgeisydd neu ei gynrychiolydd grynhoi eu
hachos.
c)
Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd Cadeirydd y Clwb
Rygbi y sylwadau canlynol;
· Bod rygbi yn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4