Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 26/11/2024 - Y Cabinet (eitem 6)

6 PREMIWM TRETH CYNGOR pdf eicon PDF 330 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Paul Rowlinson

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Argymell i’r Cyngor Llawn, mai’r canlynol yw’r opsiwn a ffafrir o safbwynt lefel y Premiwm ar Dreth Cyngor Ail Gartrefi ac Anheddau Gwag Hirdymor ar gyfer blwyddyn ariannol 2025/26:

·       Bod Cyngor Gwynedd yn caniatáu dim disgownt ar ail gartrefi dosbarth A, yn unol ag Adran 12 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (hy. Dim newid).

·       Bod Cyngor Gwynedd yn caniatáu dim disgownt ac yn codi premiwm o 150% ar ail gartrefi dosbarth B, yn unol ag Adran 12B o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (h.y. dim newid).

·       Bod Cyngor Gwynedd, yn caniatáu dim disgownt i gartrefi sydd wedi bod yn wag am 6 mis neu fwy ac yn codi premiwm o 100% ar gartrefi sydd wedi bod yn wag am 12 mis neu fwy, yn unol ag Adran 12A o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (h.y. dim newid).

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Paul Rowlinson.

PENDERFYNIAD

TRAFODAETH

Cyflwynwyd yr adroddiad gan gadarnhau bod angen gwneud penderfyniad ar lefelau premiwm Treth Cyngor ar gyfer ail gartrefi ac anheddau gwag yn flynyddol mewn cyfarfod o’r Cyngor Llawn. Atgoffwyd bod y lefelau Premiwm ar hyn o bryd yn 150% ar gyfer ail gartrefi ac yn 100% ar gyfer anheddau sy’n wag ers 6 mis neu fwy (hirdymor). Eglurwyd bod lefelau’r premiwm yn cynyddu’n awtomatig os oes cynnydd i osodiad Treth Cyngor.

Cynigwyd argymell i’r lefelau premiwm ar gyfer ail gartrefi ac anheddau gwag barhau ar yr un lefelau ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Eglurwyd yr angen i ddilyn canllawiau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, gan gadarnhau bod canllawiau newydd wedi cael eu cyflwyno ers i lefelau’r premiwm gael ei benderfynu gan y Cyngor Llawn y llynedd. Manylwyd bod y canllawiau diweddaraf yn nodi bod gan Awdurdodau Lleol bŵer i gynyddu premiwm anheddau gwag er mwyn annog perchnogion i ddod a’r anheddau hyn yn ôl i ddefnydd yn ogystal â chynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy sydd ar gael a gwneud cymunedau yn fwy cynaliadwy.

Adroddwyd bod y canllawiau diweddaraf a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru yn nodi dylid ystyried nifer o ffactorau wrth benderfynu ar lefelau premiwm Treth Cyngor ar gyfer ail gartrefi ac anheddau gwag. Manylwyd bod y rhain yn cynnwys:

·       Nifer a chanrannau’r eiddo gwag hirdymor  ac ail gartrefi yn yr ardal leol.

·       Lleoliadau’r adeiladau

·       Effaith ar brisiau tai a fforddiadwyedd

·       Yr economi leol

·       Diwydiant twristiaeth

·       Gwasanaethau cyhoeddus

·       Y gymuned leol

·       Yr iaith Gymraeg

Adroddwyd bod y Cyngor yn ystyried nifer o fesurau eraill er mwyn sicrhau bod mwy o dai ar gael i drigolion a dod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd.

Cadarnhawyd y cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus cyn cyflwyno premiwm Treth Cyngor ar ail gartrefi ac anheddau gwag am y tro cyntaf, ac hefyd cyn i’r premiwm cael ei godi dros 100%. Sicrhawyd bod y Cyngor wedi gweithredu ar y gofyniad hwn gan atgoffa y bu i’r ymgynghoriad diweddaraf gael ei gynnal wrth godi premiwm Treth Cyngor ail gartrefi i 150%, nol yn 2022. Nodwyd bod y canllawiau diweddaraf yn nodi nad oes angen cynnal ymgynghoriad pellach os yw’r Cyngor  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6

Awdur: Dewi Aeron Morgan, Pennaeth Cyllid