Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 18/11/2024 - Pwyllgor Cynllunio (eitem 6)

6 Cais Rhif C24/0640/42/LL Glascoed Lôn Cae Glas, Edern, Pwllheli, Gwynedd, LL53 8YT pdf eicon PDF 202 KB

Cais llawn i godi eiddo preswyl 3 ystafell wely deulawr (defnydd C3) ynghyd a chreu mynedfa gerbydol newydd  . 

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth Tudor Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i amodau:

 

1.         Amser

2.         Cydymffurfio gyda cynlluniau

3.         Deunyddiau/gorffeniadau allanol

4.         Angen sicrhau fod sgrin o wydr afloyw 1.8 medr o uchel yn cael ei osod ar ochr de orllewin y balconi ar bob adeg.

5.         Wal derfyn ger y fynedfa dim uwch na 1 medr.

6.         Llefydd parcio a throi i fod yn weithredol yn unol gyda’r cynllun cyn i’r eiddo gael ei feddiannu am y tro cyntaf.

7.         Dim clirio gwrychoedd a thyfiant rhwng 1 Mawrth a 31 Awst.

8.         Codi’r clawdd pridd cyn i’r eiddo gael ei feddiannu am y tro cyntaf.

9.         Cytuno cynllun tirlunio.

10.       Gweithredu’r cynllun tirlunio.

11.       Cyfyngu meddiannaeth yr eiddo i dŷ preswyl parhaol

12.       Tynnu hawliau PD

13.       Datganiad Seilwaith Gwyrdd

14.       Cytuno ar gynllun rheoli adeiladu

15.       Enw Cymraeg

16.       Gwarchod a chadw’r gwrych ar y ffin

 

Cofnod:

Cais llawn i godi eiddo preswyl 3 ystafell wely deulawr (defnydd C3) ynghyd a chreu mynedfa gerbydol newydd

 

Gohiriwyd penderfyniad ar y cais yng nghyfarfod pwyllgor mis Hydref fel bod modd cynnal ymweliad safle. Roedd rhai o’r Aelodau wedi ymweld â’r safle 8fed Tachwedd 2024

 

a)    Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais llawn ydoedd ar gyfer codi eiddo preswyl deulawr o fewn rhan o ardd tŷ presennol ym mhentref Edern; y safle wedi ei leoli oddi fewn i ffin datblygu Edern a’r pentref wedi ei adnabod fel Pentref Gwledig yn y CDLl. Polisi TAI 4 oedd felly’n berthnasol. Adroddwyd mai'r lefel cyflenwad dangosol o dai i Edern oedd 12 uned gyda chyfanswm o 3 uned wedi eu cwblhau a 4 uned yn y banc tir ar hap. Ar sail y wybodaeth yma, byddai caniatáu datblygiad ar y raddfa yma yn gwbl dderbyniol ar sail lefel twf dangosol i’r Pentref a gan mai 1 tŷ a fwriedir, nid yw’n cyrraedd y trothwy o fod angen cyfraniad tŷ fforddiadwy.

 

Eglurwyd bod caniatâd cynllunio yn bodoli am yr un datblygiad ar y safle hyd ddiwedd Ionawr 2024 a bod y caniatâd hwnnw wedi ei benderfynu o dan y CDLl presennol ac felly’r un ystyriaethau polisi yn parhau. Gan nad oedd newid yn nhermau polisi, nac yn ddaearol wrth ymweld â’r safle, nodwyd y byddai gwrthod y cais  yn gwbl afresymol ac yn debygol o fod yn destun costau apêl petai’r cais yn cael ei wrthod. Tynnwyd sylw at hanes cynllunio hynach yng nghyd-destun y safle ble gwrthodwyd ceisiadau yn y gorffennol a hynny oherwydd bod y polisïau yn wahanol ac ar y sail y byddai’r bwriad yn ychwanegu at y nifer o ail gartrefi. Yn y penderfyniadau hynny roedd pryder am faint y safle a’r gallu i ddarparu mynediad a pharcio, ac nad oedd gwybodaeth i’r Cyngor i’r gwrthwyneb (yn y gorffennol byddai ceisiadau cynllunio amlinellol yn gorfod amlinellu’r safle mewn coch yn unig ac nid oedd unrhyw angen i ddangos gosodiad dangosol). Yn y cais dan sylw, amlygwyd y byddai modd darparu mynedfa i safon gyda digon o le troi a pharcio o fewn y cwrtil. Nid oedd gwrthwynebiad gan yr Uned Trafnidiaeth.

 

Nodwyd bod yr ymgeisydd wedi cadarnhau fod y bwriad ar gyfer tŷ parhaol dosbarth C3. Byddai hyn yn golygu bod modd rheoli defnydd y safle drwy amod – hyn yn sicrhau mai defnydd preswyl parhaol a wneir o’r eiddo ac nid defnydd gwyliau na defnydd fel ail gartref.

 

Yng nghyd-destun effaith gweledol, eglurwyd bod amrywiaeth i faint a dyluniad tai cyfagos

ac er bod peth pryder wedi ei fynegi am effaith y tŷ ar gymdogion, ystyriwyd bod yr  annedd wedi cael ei ddylunio’n ofalus er mwyn gwarchod mwynderau. Adroddwyd nad oedd bwriad gosod ffenestr llawr cyntaf ar ochr dde orllewinol o’r eiddo fyddai’n wynebu’r gerddi gerllaw ond bod bwriad gosod balconi gyda sgrin wydr afloyw ar uchder o 1.8 medr ar ochr de gorllewinol y balconi. Ni ystyriwyd bod unrhyw sail i wrthod y cais ar sail effaith  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6