Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 18/11/2024 - Pwyllgor Cynllunio (eitem 7)

7 Cais Rhif C24/0362/38/AC Woodcroft, Llanbedrog, Pwllheli, Gwynedd, LL53 7UA pdf eicon PDF 169 KB

Cais i ddiwygio amod 2 o ganiatâd cynllunio C21/1210/38/LL er mwyn cyfeirio at gynlluniau diwygiedig fel rhan o'r cais s73 yma yn hytrach na'r cynlluniau a gyflwynwyd ar 14/12/21 fel y cyfeiriwyd atynt yn amod 2  

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Angela Russell           

 

Dolen i'r dogfennu cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFNWYD: Gwrthod y cais

Rhesymau:           

·         Yn or-ddatblygiad. Pryder bod uchder a maint y bwriad yn creu elfen ormesol dros eiddo cyfagos ac yn aflonyddu ac effeithio mwynderau cymdogion yn groes i Polisi PCYFF 2

 

Cofnod:

Cais i ddiwygio amod 2 o ganiatâd cynllunio C21/1210/38/LL er mwyn cyfeirio at gynlluniau diwygiedig fel rhan o'r cais s73 yma yn hytrach na'r cynlluniau a gyflwynwyd ar 14/12/21 fel y cyfeiriwyd atynt yn amod 2

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr. Nodwyd bod Cyngor Cymuned wedi cyflwyno sylwadau a bu i’r Rheolwr Cynllunio eu darllen allan yn llawn.

 

Roedd rhai o’r Aelodau wedi ymweld â’r safle Tachwedd 8fed 2024

 

a)     Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais ôl-weithredol ydoedd i ddiwygio amod ar ganiatâd cynllunio a roddwyd yn flaenorol er mwyn cadw’r datblygiad fel y’i hadeiladwyd.  Yn dilyn ymchwiliad i honiadau nad oedd y datblygiad wedi cael ei adeiladau yn unol â’r hyn a ganiatawyd, daeth i’r amlwg bod anghysondebau ar gynlluniau cynharach a ganiatawyd yn nhermau uchder y tŷ gwreiddiol â’r eiddo bwriadol er bod gweddill y cynlluniau o safbwynt dyluniad yn gywir. O ganlyniad, ac i reoleiddio’r sefyllfa, cyflwynwyd cais pellach er mwyn diwygio’r amod oedd yn ymwneud a chynnal y datblygiad yn unol â chynlluniau a ganiatawyd.

 

Adroddwyd bod y cais wedi ei gyflwyno i bwyllgor ar gais yr Aelod Lleol mewn ymateb i bryderon lleol.

 

Gohiriwyd trafodaeth ar y cais mewn pwyllgor blaenorol er mwyn cywiro’r cynlluniau o safbwynt ffurf a threfniant mynediad a man parcio i flaen y safle ac i adlewyrchu beth sydd i’w weld ar y safle. Eglurwyd bod y llwybr troed wedi ei newid i ramp mynediad troellog yn hytrach na rhes o risiau syth fel a ddangoswyd yn wreiddiol ar y cynlluniau a ganiatawyd. Yn sgil hyn, cynhaliwyd ail ymgynghoriad gyda’r Cyngor Cymuned, yr Aelod Lleol, cymdogion, gwrthwynebwyr a’r Uned Drafnidiaeth. Nodwyd gyda chaniatâd Cadeirydd y Pwyllgor , cynhaliwyd ymweliad safle i roi cyfle i aelodau’r Pwyllgor weld yr eiddo a’r ardal o’i gwmpas.

 

Tynnwyd sylw at hanes cynllunio maith i’r safle gan fanylu bod gwrthodiad i gais i ddymchwel byngalo a chodi annedd o’r newydd. Amlygwyd bod y cais wedi ei wrthod oherwydd edrychiad a dyluniad, polisi tai marchnad leol a’r effaith ar fwynderau cymdogion. Yn dilyn hyn, caniatawyd cais i godi tŷ unllawr ar y safle.

 

Amlygwyd bod honiadau fod y perchennog wedi adeiladu’r tŷ a gafodd ei wrthod, ond nodwyd nad oedd hyn yn gywir a chyfeiriwyd at y cynlluniau a’r lluniau a gyflwynwyd fel rhan o’r adroddiad pwyllgor oedd yn dangos bod y datblygiad sydd i weld ar y safle yn hollol wahanol i’r cynllun a wrthodwyd. Ategwyd bod y cynllun hwnnw yn cynnwys tri llawr i’r eiddo (modurdy ar y llawr gwaelod, gofod byw ar y llawr cyntaf a  lle byw o fewn gofod y to ynghyd a balconi). Nodwyd bod y datblygiad sydd bellach i’w weld ar y safle yn annedd unllawr - nid yw’n cynnwys balconi a gofod byw, gofod to na modurdy o dan yr eiddo. Fel nodyn ategol, nodwyd hefyd y caniatawyd man addasiadau i’r caniatâd gwreiddiol.

 

Yng nghyd-destun egwyddor y datblygiad, nodwyd bod y cais eisoes wedi ei dderbyn drwy ganiatâd blaenorol ac nad oedd newid wedi bod o safbwynt  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7