Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 18/11/2024 - Pwyllgor Cynllunio (eitem 8)

8 Cais Rhif C24/0346/45/LL Tir ger Allt Fawr, Lon Nant-stigallt, Pwllheli, LL53 5YY pdf eicon PDF 355 KB

Newid defnydd tir a datblygu llety gwyliau newydd ar ffurf a) 2 pod glampio parhaol a parcio cysylltiedig; b) 33 llain ar gyfer carafanau teithiol a parcio cysylltiedig; c) cyfleusterau lles yn cynnwys bloc toiledau, bloc cawod a storfa; a d) trefniadau mynediad cysylltiedig, cysylltiad llwybr cerdded i Ffordd Abererch, draenio a tirlunio.

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Elin Hywel

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol:

1.     Amser

2.     Yn unol â’r cynlluniau diwygiedig.

3.     Cyfyngu nifer o unedau teithiol i 33 carafán a 2 pod yn unig.

4.     Defnydd gwyliau yn unig a chadw cofrestr.

5.     Tymor gwyliau'r unedau teithiol - 1af Mawrth i 31 Hydref

6.     Dim storio carafanau teithiol ar y safle.

7.     Cwblhau’r cynllun tirweddu yn y tymor plannu cyntaf yn dilyn derbyn caniatâd.

8.     Rhaid cadw coed a gwrychoedd ar hyd terfynau’r safle.

9.     Cyfyngir unrhyw loriau caled i leiniau carafanau yn unig.

10.  Cytuno llwybr gwasanaethau trydan a dŵr

11.  Cyflwyno Cynllun Rheoli Eurinllyn Collddail

12.  Cwblhau gwelliannau Bioamrywiaeth yn unol â’r wybodaeth sydd wedi ei gyflwyno

13.  Amodau Priffyrdd

14.  Oriau gwaith adeiladu

15.  Enw Cymraeg

16.  Hysbysiadau dwyieithog

17.  Gwybodaeth hysbysu prif fynediad safle oddi ar y A499

18.  Gosod ffens o amgylch y safle

 

Nodiadau:

Nodyn Gwarchod y Cyhoedd

Nodiadau Priffyrdd

Nodyn llythyr CNC

Nodyn llythyr Dwr Cymru

Nodyn SUDS

Nodyn Trwyddedu

 

Cofnod:

Newid defnydd tir a datblygu llety gwyliau newydd ar ffurf a) 2 pod glampio parhaol a pharcio cysylltiedig; b) 33 llain ar gyfer carafanau teithiol a pharcio cysylltiedig; c) cyfleusterau lles yn cynnwys bloc toiledau, bloc cawod a storfa; a d) trefniadau mynediad cysylltiedig, cysylltiad llwybr cerdded i Ffordd Abererch, draenio a thirlunio

a)    Amlygodd yr Arweinydd Tim Rheolaeth Datblygol bod y safle wedi ei leoli ar fryncyn yng nghefn gwlad agored ar gyrion Tref Pwllheli gyda thai preswyl wedi eu lleoli ar waelod y bryncyn;  y safle wedi ei leoli o fewn Ardal o Ddiddordeb Hanesyddol, ac ar gyrion Safle Bywyd Gwyllt a gwaelod y bryncyn wedi ei ddynodi yn ardal llifogydd C2/ Parth 2 a 3.

Yng nghyd-destun egwyddor y datblygiad, a’r bwriad yn cynnwys unedau teithiol a pharhaol, eglurwyd mai polisïau perthnasol oedd TWR 3 a TWR 5 a’u meini prawf yn canolbwyntio ar effaith weledol a mynediad derbyniol i’r safle. Adroddwyd bod Arfarniad Tirwedd a Gweledol wedi ei gyflwyno fel rhan o’r cais oedd yn cynnwys safbwyntiau o’r safle o’r ardal gyfagos ac o bellter. Ategwyd bod yr Arfarniad yn un o safon ac yn cadarnhau na fyddai’r datblygiad yn weladwy o’r rhan fwyaf o’r safbwyntiau, a thra byddai’r datblygiad yn weladwy o rai safbwyntiau uchel neu o bellter, dim ond rhan o’r safle a fyddai’n weladwy neu byddai yn weladwy mewn cyd-destun golygfa ehangach o Bwllheli hefyd. Nodwyd bod bwriad tirweddu’r safle ymhellach ac felly ystyriwyd na fydd y bwriad yn cael effaith weledol annerbyniol.

Yng nghyd-destun trafnidiaeth a mynediad, adroddwyd bod bwriad gwella mynediad presennol i mewn i’r safle a’i ddefnyddio fel prif fynediad ar gyfer y datblygiad. Ategwyd bod Datganiad Trafnidiaeth wedi ei gyflwyno gyda’r cais ac er y cydnabuwyd bod Lôn Nant Stigallt yn gyffredinol yn gul gyda rhai darnau serth, bod mynedfa'r safle ger y gyffordd gyda'r A499. Disgrifiwyd lled y lôn yn y fan yma yn fwy na'r cyfartaledd ar gyfer y ffordd, a’r Datganiad yn cadarnhau bod modd cyflawni traffig dwy ffordd ar gyfer y rhan yma. O ganlyniad, gyda’r bwriad i un ai darparu mannau pasio, neu gyflawni system unffordd ar hyd gweddill y ffordd roedd yr Uned Drafnidiaeth yn ystyried fod y defnydd o’r ffordd yn dderbyniol.

Yng nghyd-destun gosodiadau'r ddau pod parhaol sy’n cael ei gynnig, nodwyd nad oedd y safle wedi ei leoli o fewn yr AHNE nac Ardal Tirwedd Arbennig,  ac yn unol â’r Astudiaeth Sensitifrwydd a Chapasiti y Dirwedd roedd y nifer  unedau a gynigiwyd yn cael ei ddiffinio fel datblygiad bach iawn ac felly ni ellid ei ystyried fel gormodedd. Yng nghyd-destun yr unedau teithiol, eglurwyd bod posib sicrhau lleiniau caled, defnydd unedau teithiol yn unig a defnydd gwyliau drwy osod amodau cynllunio. Ystyriwyd bod yr adeilad cyfleusterau yn addas ac yn briodol ac yn parchu cyd-destun y safle a’i le yn y dirwedd.

Tynnwyd sylw at bryderon a gyflwynwyd ar yr effaith ar fwynderau trigolion cyfagos, ond ystyriwyd, ar sail y pellter a natur guddiedig y safle, ni fyddai’r bwriad yn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8