9 Cais Rhif C24/0385/18/AC Rhes Fictoria Stryd Fawr, Deiniolen, Gwynedd, LL55 3LT PDF 218 KB
Diwygio amod 2 o ganiatâd cynllunio C20/0485/18/AC (diwygiad i ganiatâd cynllunio rhif C17/0438/18/LL ar gyfer datblygiad preswyl) er caniatáu tair blynedd arall ar gyfer cymeradwyo materion a gadwyd yn ôl.
AELOD
LLEOL: Cynghorydd Elfed Williams
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD:
Caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol :-
1. Cyfnod dechrau’r gwaith.
2. Cyflwyno materion a gadwyd yn ôl.
3. Deunyddiau a gorffeniadau (gan gynnwys llechi naturiol i’r
toeau).
4. Mynediad a pharcio.
5. Tirweddu a thirlunio.
6. Tynnu hawliau a ganiateir oddi ar y tai fforddiadwy.
7. Amodau Dwr Cymru sy’n ymwneud a diogelu’r carthffosydd.
8. Amodau Cyfoeth Naturiol Cymru parthed draenio tir a dŵr
wyneb.
9. Diweddaru’r amodau parthed mesuriadau lliniaru'r asesiad
ecolegol.
10. Cytuno manylion enwau Cymraeg ar gyfer y
datblygiad ynghyd ac arwyddion sy'n hysbysu ac yn hyrwyddo 'r datblygiad
11. Cyfyngu’r defnydd i anheddau o fewn dosbarth defnydd C3
Nodiadau: Angen cyflwyno cais system ddraenio gynaliadwy
i’w gytuno gyda’r Cyngor.
Cofnod:
Diwygio amod 2 o ganiatâd cynllunio
C20/0485/18/AC (diwygiad i ganiatâd
cynllunio rhif C17/0438/18/LL ar gyfer datblygiad preswyl) er caniatáu
tair blynedd arall ar gyfer cymeradwyo materion a gadwyd yn ôl.
a) Amlygodd yr Arweinydd
Tim Rheolaeth Datblygol mai cais llawn ydoedd ar gyfer diwygio amod 2 o ganiatâd
cynllunio blaenorol er mwyn ymestyn yr amser a roddwyd i gyflwyno cais materion
a gadwyd yn ôl ar y caniatâd amlinellol gwreiddiol yn 2009. Eglurwyd nad oedd y
cais yn ymdrin gyda’r materion a gadwyd yn ôl.
Adroddwyd bod y bwriad yn parhau i olygu datblygu’r safle ar gyfer 27 o
dai sy’n cynnwys 5 tŷ fforddiadwy ar gyfer angen lleol cyffredinol (cymysg
o dai cymdeithasol a chanolradd), creu mynedfa newydd ynghyd a darparu llecyn
amwynder. Ategwyd bod y cais gwreiddiol yn destun cytundeb cyfreithiol 106 er
mwyn darparu’r elfen o dai fforddiadwy ac na fydd angen diweddaru’r agwedd yma
gan fod ei gynnwys yn parhau i fod yn ddilys. Ategwyd bod egwyddor o
ddatblygu’r safle ar gyfer datblygiad preswyl eisoes wedi ei dderbyn o dan y
cais amlinellol gwreiddiol yn 2009 ynghyd a cheisiadau dilynol a ganiatawyd i
ymestyn eu cyfnod o 3 mlynedd pob tro ac mae’r caniatâd diweddaraf yn parhau ar
y safle ac yn sefydlu egwyddor y cais diweddaraf hwn. Amlinellwyd bwysigrwydd
ystyried, os oedd yr amgylchiadau neu’r
sefyllfa gynllunio wedi newid ers caniatáu’r ceisiadau blaenorol.
Yng nghyd-destun
safle’r cais, eglurwyd bod y cae yn gae amaethyddol 0.8 hectar sy’n cael ei
wasanaethu gan fynedfa amaethyddol oddi ar ffordd sirol dosbarth 3, ac ers y
caniatâd cynllunio diwethaf, y cais wedi ei gynnwys yn ffurfiol o fewn Safle
Treftadaeth y Byd. Nodwyd bod y safle yn parhau i fod o fewn ffin datblygu
Deiniolen ac wedi ei ddynodi ar gyfer tai; yn cyfrannu tuag at lefel cyflenwad
dangosol ar gyfer y pentref a’r wybodaeth wedi ei gyflwyno fel rhan o’r cais.
Cyflwynwyd Datganiad Cymysgedd Tai yn cadarnhau bod y cymysgedd o dai a
gynhigir yn cyfarch yr angen a adnabyddir o fewn Asesiad Angen Tai Gwynedd
ynghyd ag asesiad ar gyfer pentref Deiniolen. Eglurwyd y bydd rhan orllewinol y
safle wedi ei glustnodi ar gyfer llecyn gwella bioamrywiaeth ac er mwyn lleihau
rhediad dŵr wyneb er mwyn cyfiawnhau dwysedd is na’r arferol ar gyfer y
safle yma.
Tynnwyd sylw at y ffaith bod yr ymgeisydd wedi nodi nad oedd yn bosib
datblygu’r safle o fewn cyfnod y caniatâd presennol a hynny o ganlyniad i Covid a’r hinsawdd economaidd. Amlygwyd nad
oedd rhwystr hirdymor fyddai’n atal y datblygiad rhag mynd yn ei flaen, ac
felly byddai derbyn y cais yn ymestyn y caniatâd cynllunio llai na blwyddyn
heibio dyddiad terfynol y CDLl ac felly bod ymestyn y cyfnod yn rhesymol.
Atgoffwyd yr Aelodau
mai bras gynllun o’r safle bwriedig oedd wedi ei gynnwys gyda’r cais ac y bydd
dyluniad a gosodiad y tai yn derbyn sylw manwl yn ystod cais ar gyfer materion
a gadwyd yn ôl.
Adroddwyd nad oedd gan yr Uned Drafnidiaeth, Cyfoeth Naturiol Cymru, Dwr ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9