Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 20/03/2025 - Pwyllgor Craffu Cymunedau (eitem 5)

5 CYFLWYNO PWYNTIAU GWEFRU CYHOEDDUS AR GYFER CERBYDAU TRYDAN pdf eicon PDF 816 KB

I graffu trefniadau cyflwyno pwyntiau gwefru cyhoeddus ar gyfer cerbydau tryfan fel rhan o Gynllun y Cyngor 2023-28 – Gwynedd Werdd.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd:

  1. Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.
  2. Argymell i’r Adran Amgylchedd y dylid bod isafswm o ddau bwynt gwefru ym mhob safle.
  3. Bod y Pwyllgor yn derbyn diweddariad gan gynnwys y Cynllun Busnes a gwybodaeth am y ddarpariaeth yn ardaloedd gwledig Gwynedd ymhen blwyddyn.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet Amgylchedd, Pennaeth Cynorthwyol Amgylchedd (Trafnidiaeth) a Rheolwr Gwasanaeth Traffig a Phrosiectau.

Adroddwyd bod y maes hwn yn dod yn fwy amlwg ac yn ennill proffil uwch, gyda mwy o gerbydau trydan ar y ffyrdd, gan adlewyrchu’r targed ar gyfer 2030 i leihau ac yna atal cynhyrchu cerbydau petrol a disel. Nodwyd bod yr adran yn arwain ar ddarparu mannau gwefru cyhoeddus a oedd yn brosiect blaenoriaeth o dan yr  amcan Gwynedd Werdd yng Nghynllun y Cyngor 2023-28 , gan fod teimlad mewn rhai ardaloedd o Wynedd nad yw’r sector preifat yn diwallu’r angen fel mewn mannau eraill. Esboniwyd mai’r bwriad ydy llenwi’r bylchau lle nad oes darpariaeth gan sectorau eraill.

Tynnwyd sylw at natur ddeinamig y maes, gyda datblygiadau’n digwydd yn aml ac yn sydyn. Eglurwyd nad oedd yn glir ble y byddai’r dechnoleg yn mynd nesaf, ond yr uchelgais fyddai cael argaeledd darpariaeth a fyddai’n golygu bod yr amser gwefru cerbyd trydan yr un fath â’r amser i lenwi car petrol neu ddisel.

Nodwyd bod gwaith eisoes wedi’i wneud i osod y pwyntiau gwefru, a bod cyfeiriad yn yr adroddiad at wefan ‘Zapmap’, sy’n dangos nifer fawr o bwyntiau gwefru newydd yn ymddangos ledled y wlad. Nodwyd y byddai hyn yn dylanwadu ar rôl y Cyngor wrth symud ymlaen, gan y byddai’n gynyddol anodd cydlynu a chael trosolwg o’r lleoliadau.

Eglurwyd bod y peiriannau’n cael eu gosod bellach mewn mannau gwaith, siopau, datblygiadau eraill ac mewn meysydd parcio sy’n eiddo i’r Cyngor ger canolfannau Byw’n Iach. Cadarnhawyd bod gwaith ar y gweill i gyflwyno mwy o bwyntiau gwefru chwim. Esboniwyd y byddai’r ffocws dros amser yn symud o argaeledd daearyddol tuag at faint o bwyntiau fydd ar gael, gan dybio y bydd y galw’n cynyddu’n gyson.

Nodwyd bod Strategaeth Isadeiledd Cerbydau Trydan Gwynedd yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd, gan gofio nad y mannau gwefru cyhoeddus yn unig sydd angen sylw, ond hefyd y cyfle i bobl allu gwefru gartref. Eglurwyd bod gwaith ar y gweill i archwilio sut i alluogi pobl i wefru ar y stryd, er bod hyn yn gymhleth oherwydd ystyriaethau iechyd a diogelwch ac egwyddorion Deddf Priffyrdd.

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:-

 

Diolchwyd am yr adroddiad, gan nodi bod cynnydd da yn cael ei wneud tuag at greu rhwydwaith gwefru trydan a bod y safleoedd newydd a’r rhai arfaethedig yn cael eu croesawu, yn enwedig y pwyntiau gwefru chwim. Mynegwyd pryder bod gormod o ddibyniaeth ar beiriannau gwefru araf 7kW. Ymhelaethwyd eu bod yn addas ar gyfer gwefru dros nos ond nid ar gyfer gwefru cyflym mewn lleoliadau fel meysydd parcio.

Croesawyd yr opsiwn o ddefnyddio cerdyn banc er mwyn talu yn hytrach na cherdyn neu apiau ar gyfer cwmnïau penodol megis GRIDSERVE neu Tesla. Credwyd bod defnyddio cerdyn banc yn ffordd symlach a bod hyn bellach yn ofyniad deddfwriaethol. Tynnwyd sylw at fylchau yn y rhwydwaith, megis Aberdaron lle’r mae’r pwynt gwefru chwim agosaf dros 50 milltir i  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5