5 ADRODDIAD CHWARTEROL YR IS-BWYLLGOR TRAFNIDIAETH STRATEGOL
PDF 383 KB
Alwen
Williams (Prif Weithredwr Dros Dro y CBC) ac David Hole (Arweinydd Gweithredu
Rhaglen y CBC) i gyflwyno’r adroddiad.
Penderfyniad:
Cymeradwyo’r Adroddiad Chwarterol gan:
Cofnod:
Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Brif Weithredwr Dros Dro CBC y Gogledd ac Arweinydd Gweithredu
Rhaglen y CBC.
PENDERFYNWYD
Cymeradwyo’r
Adroddiad Chwarterol gan:
1.
Argymell i Gyd-bwyllgor
Corfforedig y Gogledd gynnal trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru er mwyn derbyn
diweddariad o’r trefniadau i gyllido prosiect Diwygio Bysiau ac Masnachfreinio.
2.
Mynegi pryder am barhad gwasanaeth
wrth i brosiect Diwygio Bysiau a Masnachfreinio gael ei ddatblygu ymhellach.
3.
Gofyn am drafodaeth bellach ar
gyfer cyllido gwasanaeth bws (coets) o ddwyrain i orllewin Cymru a hefyd
gwasanaeth bws Gogledd Cymru i’r De, i gyd fynd gyda gwasanaethau rheilffordd
drawsffiniol, heb amharu ar wasanaethau lleol.
RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD
Cymeradwywyd y
Cylch Gorchwyl yng nghyfarfod yr Is-bwyllgor ar 1 Hydref 2024. Mae’r
Is-bwyllgor wedi cyfarfod ar ddau achlysur, ac ystyrir ei bod yn briodol
adolygu’r gwaith a wnaed a sicrhau bod yr adnoddau cywir yn eu lle i ddiwallu
datblygiadau yn y dyfodol.
TRAFODAETH
Adroddwyd
mai dyma’r adroddiad chwarterol cyntaf sydd yn
manylu ar ddatblygiadau, yn unol â dyletswydd
gyfreithiol Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd wrth ddatblygu Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol. Ymhelaethwyd bydd adroddiad chwarterol yn cael ei
gyflwyno i’r Cyd-bwyllgor Corfforedig pob chwarter er mwyn manylu ar brosiectau penodol, perfformiad ariannol yr Is-bwyllgor a’r datblygiadau
sydd ar y gweill. Atgoffwyd bod y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol yn cynorthwyo awdurdodau
lleol gyda datblygiadau ac nid oes ganddo bwerau
dros gynlluniau ffyrdd a rheilffordd strategol sydd y tu hwnt i
reolaeth yr awdurdodau hynny.
Diolchwyd
i’r Is-bwyllgor ac i’r holl rhan-ddeiliaid
am eu cymorth i gyflawni’r holl
ddatblygiadau a welwyd o fewn yr adroddiad.
Cadarnhawyd bod cyfnod ymgynghori
ar y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol draft wedi cychwyn ers 20 Ionawr 2025 ac yn parhau nes 14 Ebrill
2025. Eglurwyd bod y gwaith
yn cael ei
arwain gan ARUP ar ran y Cyd-bwyllgor, gan nodi hefyd bod cydweithio wedi digwydd gyda
Thrafnidiaeth Cymru. Diweddarwyd
bod dros 1120 o bobl wedi ymateb i’r
ymgynghoriad hyd yma, gyda’r disgwyliad
bydd y niferoedd hyn yn parhau
i gynyddu’n raddol hyd at ddiwedd
y cyfnod ymgynghori. Ymhelaethwyd bod ARUP wedi canfod themâu yn
codi mewn nifer o’r ymatebion,
ac yn eu casglu gyda'i gilydd
er mwyn ymateb yn effeithiol i
unrhyw bryder neu syniad a gyflwynwyd gan y cyhoedd.
Tynnwyd
sylw bod timau cyfathrebu’r awdurdodau lleol wedi cefnogi’r
gwaith o hyrwyddo’r ymgynghoriad cyhoeddus hwn. Ymhellach, mae’r Cyd-bwyllgor Corfforedig ac ARUP wedi cymryd pob cam er mwyn sicrhau bod cymaint o bobl â phosib gyda Mynediad i’r ymgynghoriad megis rhif ffôn
dwyieithog, Ystafell ymgynghori
ddigidol a hefyd drwy ddatblygu fersiwn hawdd ei
ddarllen o’r ymgynghoriad er mwyn cefnogi unrhyw un a all gael heriau
i ddeall a chymryd rhan yn
yr ymgynghoriad hebddo.
Eglurwyd bod ARUP yn asesu’r holl ymatebion i’r ymgynghoriad cyhoeddus gan gadarnhau y byddent yn cyflwyno adroddiad ynghylch yr atebion pan yn amserol. Manylwyd bod cwestiynau meintiol wedi cael eu cynnwys yn yr ymgynghoriad a fydd yn cael ei asesu er mwyn canfod niferoedd a ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5