9 CYFRIFON TERFYNOL GWE - DATGANIAD O'R CYFRIFON PDF 118 KB
I dderbyn a nodi’r wybodaeth
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD:
Nodyn: Cyfrifon Terfynol i’w cymeradwyo gan Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio Cyngor Gwynedd Hydref 2025
Cofnod:
Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth Cyllid Cyngor
Gwynedd yn diweddaru aelodau’r Cydbwyllgor ar adolygiad ariannol terfynol
cyllideb GwE oedd hefyd yn amlygu trefn ar gyfer cyflwyno a chymeradwyo
Datganiad o’r Cyfrifon, ar ffurf ‘statudol’, i’r dyfodol ynghyd a chyflwyniad o
Gynllun Archwilio Cymru ar gyfer 2024/25.
Eglurodd Pennaeth Cyllid Cynorthwyol -
Cyfrifeg a Phensiynau (Cyngor Gwynedd), bod Adran 12 o Ddeddf Archwilio
Cyhoeddus (Cymru) 2004 yn datgan fod Cydbwyllgor o fwy nac un awdurdod (lleol)
yn gorff llywodraeth leol, gydag Adran 13 o’r Ddeddf yn mynnu bod cyrff o’r
fath yn cadw cyfrifon sy’n destun archwiliad gan archwiliwr annibynnol wedi’i
gymeradwyo gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Ategwyd bod Rheoliadau Cyfrifon ac
Archwilio yn mynnu bod pob Cydbwyllgor yn paratoi cyfrifon blynyddol, a gan fod
trosiant GwE yn fwy na £2.5 miliwn, rhaid paratoi datganiad o’r cyfrifon yn
unol â chod CIPFA.
Eglurwyd, mai Cyngor Gwynedd fel y Cyngor lletyol sy’n gyfrifol am gyflawni cyfrifoldebau cyfrifo ac
adrodd ar faterion cyllidol Cyd-Bwyllgor GwE a gyda GwE yn dod i ben ar 31 Mai
2025, bydd cyfrifon 2024/25 a 2025/26 gael eu cyflwyno i Pwyllgor Llywodraethu
ac Archwilio Cyngor Gwynedd i’w cymeradwyo.
Yng nghyd-destun cyfrifon 2024/25, eglurwyd
bod yr alldro a gyflwynwyd uchod yn sail i’r Datganiad o’r Cyfrifon a chyfrifon
statudol 2024/25. Nodwyd y byddai’r cyfrifon terfynol yn cael eu cylchredeg i
aelodau’r Cyd-bwyllgor ac yn destun archwiliad gan Archwilio Cymru. Y bwriad yw
cwblhau archwiliad dros fisoedd yr haf a’u cymeradwyo yn derfynol ym Mhwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio Cyngor Gwynedd ar y 9ed o Hydref 2025.
Ategwyd, er mwyn cydymffurfio gyda’r
gofynion, bydd cyfrifon 2025/26 hefyd y cael eu paratoi am y cyfnod o ddau fis
o Ebrill i ddiwedd Mai, gyda rheiny hefyd yn destun archwiliad gan Archwilio
Cymru a cael eu cyflwyno i Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio Cyngor Gwynedd
i’w cymeradwyo.
Cymerodd y Pennaeth Cynorthwyol y cyfle i
ddiolch yn fawr i staff GwE, i’r Tim Busnes ac i’r Cyd-Bwyllgor am y
cyd-weithio da a’r holl gefnogaeth gafodd yr Adran Cyllid dros y blynyddoedd.
Dymunwyd y gorau iddynt i gyd i’r dyfodol.
Cynllun Archwilio gan Archwilio Cymru.
Croesawyd Siwan
Glyn (Archwilio Cymru) i’r cyfarfod i gyflwyno’r adroddiad
Cyflwynwyd adroddiad gan Swyddog Archwilio
Cymru yn manylu ar y gwaith y mae Archwilio Cymru yn bwriadu ei wneud i fynd
i’r afael a’r risgiau archwilio i Gydbwyllgor GwE 2025. Nodwyd y bydd
archwiliad o’r datganiadau ariannol yn cael eu cwblhau ynghyd a gwaith archwilio perfformiad i asesu
sicrwydd a risg.
Yng nghyd-destun perthnasedd datganiadau
ariannol nodwyd y cyfrifir perthnasedd gan ddefnyddio gwariant gros 2024-25 sef
£17.8 miliwn a chyfeiriwyd at y risg sylweddol i ddatganiadau archwilio ynghyd
â’r risgiau archwilio. Ategwyd bod y risg sylweddol o wrthwneud rheolaethau gan
reolwyr yn un oedd yn cael ei gynnwys yng nghynllun manwl pob Awdurdod. Nodwyd
hefyd bod y risg archwilio o rwymedigaeth net cronfa bensiwn hefyd wedi ei
gynnwys mewn nifer o gynlluniau ac nid yn benodol i GwE.
Atgoffwyd y Cydbwyllgor nad yw’r un archwiliad yn gallu rhoi sicrwydd cyflawn bod y cyfrifon wedi’u ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9