10 PARTH BUDDSODDI SIR Y FFLINT A WRECSAM PDF 373 KB
Alwen Williams, Prif Weithredwr Dros Dro ac Iain Taylor, AMION Consulting i gyflwyno’r adroddiad.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cytunwyd i:
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Hedd Vaughan-Evans, Pennaeth
Gweithrediadau a Iain Taylor, AMION Consulting.
PENDERFYNWYD:
Cytunwyd i:
·
Dderbyn yr adroddiad diweddaru
·
Adolygu’r trefniadau amlinellol arfaethedig
ar gyfer Bwrdd Cynghori Parth Buddsoddi Sir Fflint a Wrecsam yn cynghori ar y
cynnig
·
Adolygu’r Fframwaith Dirprwyo a Phenderfyniad
arfaethedig a chynghori ar y cynnig
·
Derbyn adroddiad pellach gyda chynigion manwl
yn dilyn y Gweithdy Rhyng-Awdurdod
·
Gyflwyno adroddiad pellach os oes oediad yn
un o’r cerrig milltir lefel uchel ar gyfer blwyddyn 1.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei fod yn rhoi diweddariad
ac yn amlygu’r fframwaith ac yr amserlen ar gyfer y dyfodol. Amlygwyd fod y
cynllun wedi cyflwyno Parth 4 yn ôl ym mis Mai, a'u bod yn gobeithio derbyn
adborth ym mis Mehefin, ac y bydd unrhyw newidiadau sylweddol a fydd yn ofynnol
i'r ymyriadau ddod yn ôl i'r CBC I'w cytuno.
Eglurwyd fod y tîm yn paratoi Porth 5 I'w gyflwyno, gyda’r
elfennau allweddol yn cynnwys cerrig milltir Parth Buddsoddi, Rhaglen y Parth
Buddsoddi a Chofrestr Risg Parth Buddsoddi. Tynnwyd sylw at y tabl cerrig
milltir allweddol sydd yn amlygu dyddiadau hyd at ddiwedd Rhagfyr.
Wrth symud ymlaen, amlygwyd fod gan y cynllun gyllideb o
£10m, a byddant yn cyd-weithio gyda Chyngor Gwynedd a Llywodraeth Cymru I'w
wario. Nodwyd yr angen i sefydlu’r Bwrdd Cynghori, fel y nodwyd yn Mhorth 3.
Nodwyd fod Bwrdd Cynghori dros dro yn ei le ar gyfer y cyfnod interim ac
amlygwyd yr angen i greu is-fwrdd sgiliau yn ychwanegol, ac ei fod yn y broses
o gael ei brosesu.
Eglurwyd yn dilyn Galwad am Brosiectau 2024, fod ystod eang
o gynlluniau buddsoddi posib a galw sylweddol am raglen cymorth wedi ei
hadnabod. Eglurwyd fod y broses cyfle buddsoddi wedi adnabod yr angen i
fuddsoddi mewn seilwaith angenrheidiol i ddatgloi’r safleoedd datblygu mwyaf.
Nodwyd y bydd angen i symud yn gyflym. Eglurwyd fod achos busnes wedi'i dderbyn
ar gyfer Project Prince gan Knauf Insulation
ac mae Cynllun Prosiect Amlinellol wedi'i dderbyn gan Pochin/Goodman
ar gyfer eu tir yn Airfields, Glannau Dyfrdwy.
Mynegwyd fod Airbus yn datblygu'r achos dros y
Ganolfan Gweithgynhyrchu Uwch wrth ymyl eu campws yng Nglannau Dyfrdwy.
Esboniwyd fod gweithdy rhwng y CBC a Chynghorau Sir y Fflint a Wrecsam wedi’i gynllunio ar gyfer diwedd Mehefin, er mwyn gweithio drwy’r manylion sy’n ymwneud a sut y gwneir penderfyniadau a sut y bydd rhaglen yn gweithredu dan ddirprwyaethau gan y CBC. Nodwyd fod yr egwyddorion allweddol yn cynnwys fod y CBC yn dirprwyo gweithrediad cyfrifoldeb y Corff Atebol I'r Is-bwyllgor Lles Economaidd, a bod yr is-bwyllgor yn dyrannu adnoddau i gefnogi, i reoli’r broses sicrwydd ar gyfer holl brosiectau sydd uwchlaw cais grant o £5m. Mynegwyd fod goblygiadau yn ymwneud a gweinyddu £160m o Gyllid Grant Hyblyg a dyraniadau ar gyfer Rhyddhad Trethu, yn enwedig Rhyddhad Ardrethu Busnes. Eglurwyd y bydd trefniadau ariannol manwl fel y’u nodir yn y Llythyr Cyllid Grant, y Memorandwm gyda Llywodraeth Cymru a’r DU ynghyd a’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth Leol rhwng y CBC a’r Cynghorau Sir ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10