4 CAIS AM DRWYDDED EIDDO PDF 137 KB
I ystyried
y cais
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD:
Caniatáu y cais
Oriau Agor:
Dydd Sul 11:00 – 22:00
Dydd Llun 11:00 - 22:00
Dydd Mawrth 11:00 - 22:00
Dydd Mercher 11:00 - 22:00
Dydd Iau 11:00 - 22:00
Dydd Gwener 11:00
- 22:00
Dydd Sadwrn 11:00 - 22:00
Gweithgareddau
Trwyddedadwy
Cyflenwi Alcohol ar
ac oddi ar yr Eiddo
Dydd Sul 11:00 - 22:00
Dydd Llun 11:00 22:00
Dydd Mawrth 11:00 - 22:00
Dydd Mercher 11:00 - 22:00
Dydd Iau 11:00 - 22:00
Dydd Gwener 11:00 - 22:00
Dydd Sadwrn 11:00 - 22:00
Y mesurau ychwanegol, fel y nodir yn rhan M y cais, i'w
cynnwys fel amodau ar y drwydded:
Cofnod:
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
a)
Adroddiad yr Adran
Trwyddedu
Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth yr
Adran Amgylchedd yn manylu ar gais
am drwydded eiddo ar gyfer Otto’s Aberdyfi, Unit 2,
Information Centre, The Wharf, Seaview Terrace, Aberdyfi, Gwynedd, LL35 0ED. Eglurwyd mai caffi
bychan yw’r eiddo wedi ei
leoli yng ngherddi y cei yn Aberdyfi sydd gydag ardal eistedd
ddynodedig tu allan ac yn wynebu’r
môr, i ffwrdd
oddi wrth y ffordd a phreswylfeydd. Amlygwyd bod yr ardal yn cael ei
rentu gan Harbwr Aberdyfi a Chyngor
Gwynedd.
Nodwyd bod y caffi yn gwerthu pitsas,
brechdanau ac ati o’r eiddo ar
gyfer eu bwyta ar yr eiddo
yn yr ardal tu allan, neu oddi
ar yr eiddo fel pryd ar
glyd. Bydd bwriad hefyd gwerthu
alcohol i’w yfed ar yr eiddo yn
ddyddiol neu ei werthu gyda bwyd
pryd ar glyd
mewn cynhwysyddion wedi eu selio
– yr ymgeisydd yn ceisio am drwydded i werthu alcohol (ar ac oddi ar
yr eiddo) o 11:00 – 22:00, o ddydd
Llun i Sul. Bydd yr amser agor
yn cael ei
amrywio yn dymhorol.
Nodwyd bod gan
Swyddogion yr Awdurdod
Trwyddedu dystiolaeth ddigonol
bod y cais wedi ei gyflwyno yn
unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol. Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd
yr ymgeisydd yn ei argymell i
hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ac amlygwyd y byddai’r mesurau hyn yn cael
eu cynnwys ar y drwydded.
Adroddwyd nad oedd
yr Awdurdodau Cyfrifol wedi cyflwyno sylwadau,
ond tynnwyd sylw at ymatebion a dderbyniwyd gan Aelodau o’r Cyhoedd a’r
Gwasanaeth Morwrol. Roedd y
cyhoedd, yn pryderu, o safbwynt diogelwch y gallai cais am unrhyw werthiant alcohol ger y porthladd
/ harbwr arwain at ddamweiniau gerllaw ardal lle mae
teuluoedd â phlant yn mwynhau pysgota
cranc. Amlygwyd pryder hefyd,
·
byddai cyfuno
gwerthu alcohol gyda gwerthiant bwyd i’w fwyta i
ffwrdd o’r eiddo yn cynyddu'r
posibilrwydd y bydd Gerddi Wharf yn cael eu defnyddio
i fwyta'r bwyd ac yfed unrhyw
alcohol a brynwyd ar yr un pryd - hyn yn
cynyddu'r posibilrwydd o drafferthion ymddygiad anghymdeithasol, gan gynnwys sŵn annheg ac amhriodol, arogleuon, gwastraff (gan gynnwys gwydr).
·
bod lleoliad
y bwyty mewn lle prysur iawn
ar yr harbwr yn Aberdyfi – cychod pysgota gweithredol a cherbydau yn lansio
a llwytho. Y Gwaun, sydd yn cael
ei redeg gan Rheolwr yr Harbwr, yn brysur
gyda materion diogelwch.
Roedd sylwadau’r Gwasanaeth Morwrol yn nodi pryder nad oedd
yr ymgeisydd heb dderbyn caniatâd gan Bwyllgor Ymgynghorol
Harbwr Aberdyfi cyn cyflwyno cais gwerthu
alcohol.
Roedd y swyddogion, yn unol â Deddf Drwyddedu 2003, yn argymell bod y Pwyllgor yn ystyried sylwadau'r ymatebwyr, ac ymateb yr ymgeisydd i’r pryderon - ac yn caniatáu’r cais. Ystyriwyd bod yr oriau a ofynnwyd amdanynt yn rhesymol, ac yn cyd-fynd hefo busnesau cyffelyb gerllaw. Nid prif bwrpas y busnes yw gwerthu alcohol; y bwriad yw bod y gwerthiant ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4