7 Cais Rhif C25/0202/40/LL Tir yn Y Ffor, Pwllheli, LL53 6UT
PDF 222 KB
Cais newid defnydd ar gyfer gosod 12 Caban Gwyliau ar dir yn Y Ffor, Pwllheli.
AELOD LLEOL: Cynghorydd Richard Glyn Roberts
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Gwrthod
Rhesymau
Cofnod:
Cais newid
defnydd ar gyfer gosod 12 Caban Gwyliau ar dir yn Y Ffôr, Pwllheli
Tynnwyd sylw at y
ffurflen sylwadau hwyr.
a)
Amlygodd y Rheolwr
Cynllunio mai cais ydoedd ar gyfer datblygu safle llety gwyliau newydd ar gyfer
12 caban gwyliau parhaol a pharcio cysylltiedig, draenio a thirlunio. Byddai’r
cabanau pren o gladin pren wedi ei staenio mewn lliw cadwraeth a byddai pob un
yn cynnwys ystafelloedd cysgu, ystafell ymolchi, ystafell fyw a chegin /
ystafell fwyta.
Adroddwyd y byddai’r unedau yn cael eu gosod
yng nghornel cae amaethyddol yng nghefn gwlad agored. Er nad oes dynodiad
tirwedd arbennig i ardal y cais, mae o edrychiad a chymeriad tirwedd wledig heb
ei ddatblygu gyda sawl eiddo preswyl nad yw ym mherchnogaeth yr ymgeisydd wedi
ei leoli’n agos i’r safle.
Nodwyd bod bwriad darparu system draenio
breifat i ddŵr glân a budr ar gyfer y bwriad ond nad oedd y datblygwr wedi
cyflwyno unrhyw ganlyniadau profion mandylledd / trylifiad mewn perthynas â'r
system garthffosiaeth breifat. Cyflwynwyd cynllun tirlunio gyda’r cais yn
dangos bod bwriad plannu nifer helaeth o goed ar hyd terfyn de gorllewinol a de
ddwyreiniol y safle ynghyd â chryfhau gwrych presennol ar hyd y ffordd sirol,
ond ni dderbyniwyd manylion o’r cynllun hwnnw gyda’r cais.
Amlygwyd mai Polisi TWR 3 oedd y polisi
perthnasol y cai yma gan fod y cabannau yn rhai parhaol. Nodwyd bod rhan gyntaf
y polisi yn cyfeirio’n benodol at ormodedd o ddatblygiadau newydd. Ategwyd, er
mwyn diffinio ‘gormodedd’ yn y cyd-destun yma, tynnwyd sylw at eglurhad 6.3.69
polisi TWR 3 sy’n cyfeirio at ‘Astudiaeth Capasiti a Sensitifrwydd y Dirwedd yn
Ynys Môn, Gwynedd a Pharc Cenedlaethol Eryri 2014. O fewn pob Ardal Cymeriad y
Dirwedd bydd y dirwedd yn cael ei asesu er mwyn canfod beth yw ei gapasiti ar
gyfer mwy o ddatblygiadau sialetau neu garafanau gwyliau.
Ategwyd bod y datblygiad penodol yma yn
disgyn o fewn Ardal Cymeriad y Dirwedd G10 (Canol Llŷn) gyda’r astudiaeth
yn cadarnhau, “Y tu allan i’r AHNEau a’r
ATAau fe all fod rhywfaint o gapasiti ar gyfer datblygiadau ar raddfa fach i
fach iawn wedi eu lleoli yn sensitif ac wedi eu cynllunio’n dda, a ddylai
berthnasu’n dda gyda’r amgylchedd adeiledig / gorchudd tir trefol presennol.”
Nodwyd bod yr Astudiaeth yn diffinio datblygiadau bach iawn fel rhai hyd at 10
uned a datblygiadau bach rhwng 10 - 25 uned. Er bod y bwriad gerbron yn disgyn
o fewn y diffiniad o ddatblygiad bach, ni ystyriwyd fod y safle yma yn lleoliad
sy’n perthnasu’n dda gyda’r amgylchedd adeiledig neu orchudd tir trefol, ac
felly ar sail hynny ni ystyriwyd fod capasiti ar gyfer y bwriad ar y safle
gwledig yma.
Tynnwyd sylw at yr ail faen prawf oedd yn cyfeirio at ddyluniad, gosodiad ac edrychiad y datblygiad arfaethedig gan ddatgan ei fod o ansawdd uchel, ac y dylai datblygiadau newydd gael eu lleoli mewn man anymwthiol. Diffinnir lleoliad anymwthiol fel un sydd wedi cael ei sgrinio’n dda gan nodweddion o’r dirwedd sy’n bodoli’n barod ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7