8. DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLAETHOL YR HARBWR
PDF 492 KB
Cyflwyno adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau.
Dogfennau ychwanegol:
7 DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLAETHOL YR HARBWR
PDF 237 KB
Cyflwyno adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau.
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD
Nodi a derbyn yr adroddiad.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiadau isod a gwahoddwyd
adborth gan yr aelodau ar faterion diogelwch a materion gweithredol yr Harbwr.
(1)
Adroddiad yr
Uwch Swyddog Harbyrau yn rhoi diweddariad bras i’r Pwyllgor ar faterion yr
Harbwr am y cyfnod 2025/26.
Data
Perfformiad
Nodwyd
bod cytundebau angori ym Mhorthmadog bellach wedi cynyddu i 109. Nodwyd
ymhellach bod y ffigurau ar gyfer cytundebau angori ar gyfer tymor 2025 yn
cymharu’n ffafriol â blynyddoedd blaenorol. Er bod amrywiadau rhwng harbyrau
unigol, roedd y ffigurau cyffredinol wedi aros yn gyson, sy’n gadarnhaol.
Ymhelaethwyd bod cynnydd o 8% wedi bod yn nifer y cytundebau angori ym
Mhorthmadog dros y tair blynedd ddiwethaf.
Nodwyd
bod y Gwasanaeth yn gofyn yn garedig i holl gyflenwyr a deiliaid angorfeydd o
fewn yr Harbwr ddarparu manylion yr holl gychod a’u cwsmeriaid i swyddfa’r
Harbwr cyn gynted â phosibl.
Nodwyd
bod cynnydd o 10% wedi bod yn nifer y cychod pŵer a gofrestrwyd gyda
Chyngor Gwynedd y tymor hwn o gymharu â’r llynedd, gan godi o 2,141 i 2,362.
Atgoffwyd bod cychod pŵer bellach yn cael eu cofrestru ar-lein ac felly
nid ydynt yn cael eu cynnwys yn y gyllideb gyffredinol, gyda’r ystadegau’n
ymwneud â’r cwsmeriaid sy’n dod i’r swyddfa i dalu am ffioedd lansio dyddiol yn
unig.
Adborth
a dderbyniwyd am Harbwr Porthmadog
Nodwyd
bod arwyddion gyda 'QR Codes' wedi'u lleoli o gwmpas yr harbwr i dderbyn
sylwadau gan ddefnyddwyr ynglŷn â’u
profiad o’r harbwr. Nodwyd bod ffigyrau a dderbyniwyd am Harbwr Porthmadog yn
dangos cynnydd mewn adborth 'positif' a dderbyniwyd, ynghyd â'r ymdrechion a wnaed gan yr adran i wella profiad cwsmeriaid ac ymwelwyr
ymhellach. Esboniwyd bod yr adborth hwn wedi bod yn ddefnyddiol iawn er mwyn
gwella'r gwasanaeth yn yr harbwr.
Cod
Diogelwch Morol Porthladdoedd
Nodwyd
bod y Cod Diogelwch Morol Porthladdoedd (PMSC) yn amlinellu'r safon
genedlaethol ar gyfer pob agwedd o ddiogelwch morol porthladdoedd. Cadarnhawyd
penodiad diweddar Mr Owen Morgan, Rheolwr Harbwr ar gyfer Cyngor Ceredigion,
fel ein ‘Person Dynodedig’ newydd. Ymhelaethwyd bod Mr Morgan yn cynnal yr
archwiliad nesaf yn ystod misoedd y gaeaf ac yn rhoi arweiniad er mwyn sicrhau
bod yr harbwr yn cwrdd â gofynion diweddaraf y PMSC. Nodwyd fod Aelod Cabinet Economi a Chymuned, Medwyn
Hughes, wedi’i benodi fel y ‘dalwr
dyletswydd’ newydd.
Nodwyd
bod cyfleodd hyfforddiant a datblygiad parhaus yn cael eu cynnig i’r staff
morwrol. Cyhoeddwyd bod un aelod o staff yn ddiweddar wedi cwblhau'r 'Diploma
Harbwrfeistr', tra bod aelod arall wedi dechrau'r cwrs ‘UKHMA Harbour Master
Certificate’ diweddaraf. Dymunwyd pob llwyddiant iddynt gyda'u datblygiad
proffesiynol.
Oherwydd natur eu gwaith, nodwyd bod swyddogion yr harbwr ar adegau wedi profi ymddygiad difrïol, bygythiol ac ymosodol. Er mwyn sicrhau diogelwch staff a’r cyhoedd, esboniwyd bod swyddogion nawr yn gorfod gwisgo camerâu cyrff i roi gwarchodaeth iddynt, ac i recordio unrhyw ddigwyddiadau. Nodwyd bod sawl achos o ymddygiad difrifol wedi codi yn ystod 2024, ond ers 2025 mae’r niferoedd wedi lleihau, sydd yn dangos gwerth y camerâu cyrff. Nodwyd ymhellach bod ceisiadau i dderbyn copïau recordiau teledu cylch cyfan o’r harbwr ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7