CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT
I ystyried cais Mr A
(copi i Aelodau’r
Is bwyllgor yn unig)
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD
Nad oedd yr
ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni / hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd
COFNODION:
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud
yn unol â Pholisi Trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd
mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau
ar y meini prawf wrth ystyried
cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r
cyhoedd drwy sicrhau:
• Bod
yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol
• Nad yw'r unigolyn yn
fygythiad i'r cyhoedd
• Bod
y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl
anonest
• Bod
plant a phobl ifanc wedi'u diogelu
• Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu
• Bod
y cyhoedd yn gallu bod yn
hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig
Cyflwynodd y Rheolwr
Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig
ar gais a dderbyniwyd gan
Mr A i adnewyddu trwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol
â’r hyn sydd
yn gysylltiedig ag addasrwydd unigolyn i fod yn yrrwr
cerbyd hacni/hurio preifat
Roedd yr Awdurdod
Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor wrthod y cais.
Gwahoddwyd yr ymgeisydd
i ymhelaethu ar y cais gan roi gwybodaeth am gefndir y tri achlysur y derbyniodd y pwyntiau cosb, a’i amgylchiadau personol. Nododd nad oedd wedi
datgelu'r pwyntiau cosb ar ei
gais oherwydd iddo ystyried mai achosion o yfed a gyrru a / neu ymddygiad troseddol
oedd rhaid ei datgan i’r
Uned Trwyddedu. Derbyniodd ddifrifoldeb y sefyllfa, petai yn colli
ei drwydded, byddai yn colli
ei waith.
PENDERFYNWYD nad oedd yr ymgeisydd yn berson addas
a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda
Chyngor Gwynedd.
Wrth gyrraedd
eu penderfyniad, roedd yr
Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:
·
Gofynion ‘Polisi
Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’
·
Canllawiau Addasrwydd
Unigolyn
·
Adroddiad yr Adran
Drwyddedu
·
Ffurflen gais yr ymgeisydd
·
Adroddiad Asiantaeth
Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau
·
Sylwadau llafar
gan yr ymgeisydd
Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol
Cefndir
Ym mis Rhagfyr 2022 derbyniodd yr ymgeisydd
3 pwynt cosb am ragori ar y terfyn cyflymder statudol ar ffordd gyhoeddus.
Yn mis Tachwedd 2023 derbyniodd yr ymgeisydd
3 pwynt cosb am ragori ar y terfyn cyflymder statudol ar ffordd gyhoeddus.
Yn mis Mehefin 2024 derbyniodd yr ymgeisydd
3 pwynt cosb am ragori ar y terfyn cyflymder statudol ar ffordd gyhoeddus.
CYMALAU PERTHNASOL Y POLISI
Ystyriwyd
paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â
chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd
disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir
yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal
trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi ei fod yn berson addas a
phriodol. Mae paragraff 2.4 yn nodi pan fydd ymgeisydd wedi'i gael yn euog o
drosedd(au) neu fod mater arall/materion eraill i'w
(h)ystyried yng nghyswllt hynny, ni chaiff y Cyngor adolygu rhinweddau'r
gollfarn honno na'r mater arall hwnnw.
Ystyriwyd paragraff 4.5 sydd yn nodi bod Gorchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) ... view the full COFNODION text for item 5