4 CAIS TRWYDDED EIDDO
PDF 125 KB
TŶ
COFFI REUBENS, 31 STRYD FAWR, CAERNARFON LL55 1RH
I ystyried
y cais
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD:
Caniatáu y cais
Oriau Agor:
Dydd Sul 08:00 – 00:00
Dydd Llun 08:00 – 00:00
Dydd Mawrth 08:00 – 00:00
Dydd Mercher 08:00 – 00:00
Dydd Iau 08:00 – 00:00
Dydd Gwener 08:00 – 00:00
Dydd Sadwrn 08:00 – 00:00
Gweithgareddau Trwyddedadwy:
Gwerthu alcohol: Ar ac oddi ar yr eiddo
Dydd Sul 08:00 – 23:30
Dydd Llun 08:00 – 23:30
Dydd Mawrth 08:00 – 23:30
Dydd Mercher 08:00 – 23:30
Dydd Iau 08:00 – 23:30
Dydd Gwener 08:00 – 23:30
Dydd Sadwrn 08:00 – 23:30
Y mesurau ychwanegol, fel y nodir yn rhan M y cais, ac a
gytunwyd yn y gwrandawiad, i’w cynnwys
fel amodau ar y drwydded:
·
Cofnod o bob gwerthiant alcohol a wrthodwyd
·
Gosod a chynnal system TCC gynhwysfawr gyda
recordiadau i'w storio am o leiaf 31 diwrnod gyda stamp dyddiad ac amser
·
Hyfforddiant Staff;
·
Llyfr damweiniau mewnol
·
Polisi Her 25;
·
Dim cerddoriaeth uchel
·
Gofyn i gwsmeriaid adael yn dawel ac yn
barchus;
·
Cynnal asesiad effaith sŵn cyn agor yr eiddo
i’r cyhoedd. Canlyniad i’w rannu gydag Adran Gwarchod y Cyhoedd;
·
Gwahardd gwaredu poteli a chaniau gwastraff i
gynwysyddion y tu allan i'r adeilad yn unol ag amodau’r drwydded rhwng 22:00 -
08:00.
·
Poteli gwag i’w storio mewn sgip / bin â
chaead o fewn cwrtil y safle cyn eu casglu.
Nodyn:
Bydd yr ymgeisydd
hefyd yn ymwybodol na all yr oriau trwyddedu fod ar waith hyd nes bod yr
amrywiad oriau a nodir ar oriau'r caniatâd cynllunio presennol wedi'i amrywio
a'i gymeradwyo. Mae'r caniatâd cynllunio presennol yn caniatáu masnachu tan
18:00 o'r gloch.
Cofnod:
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
a)
Adroddiad yr Adran
Trwyddedu
Cyflwynwyd adroddiad
Pennaeth yr Adran Amgylchedd yn
manylu ar gais am drwydded eiddo gan Tŷ
Coffi Reubens. Eglurwyd y byddai’r eiddo yn gweithredu yn
bennaf fel siop goffi gyda
darpariaeth ychwanegol i werthu alcohol i’w yfed ar
ac oddi ar yr eiddo.
Nodwyd bod gan
Swyddogion yr Awdurdod
Trwyddedu dystiolaeth ddigonol
bod y cais wedi ei gyflwyno yn
unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol. Cyfeiriwyd at y mesurau
yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell
i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ac amlygwyd y byddai’r mesurau hyn yn
cael eu cynnwys
ar y drwydded.
Adroddwyd bod Iechyd yr Amgylchedd
wedi cyflwyno gwrthwynebiad oherwydd pryderon ynglŷn â niwsans cyhoeddus. Rhoddwyd caniatâd yn wreiddiol i’r
eiddo agor fel tŷ coffi
ac nid bar gydag oriau agor hyd
18:00 ac nid 00:00. Petai’r
eiddo yn derbyn caniatâd i werthu alcohol, roedd Iechyd yr Amgylchedd yn pryderu, gyda
cherddoriaeth fyw ac wedi ei recordio
yn cael ei
chwarae ar yr eiddo, bydd potensial
o achosi aflonyddwch sŵn i eiddo
preswyl cyfagos. Roedd Iechyd yr Amgylchoedd hefyd yn amlygu
nad oedd asesiad effaith sŵn wedi ei
gwblhau.
Cyfeiriwyd at sylwadau a dderbyniwyd gan yr Adran Cynllunio oedd yn cadarnhau bod y cais yn groes
i ofynion caniatâd cynllunio presennol yr eiddo - y caniatâd presennol yn caniatáu gweithgareddau
hyd 18:00. Ategwyd nad oedd cais
wedi ei dderbyn
i amrywio’r oriau, ond bod cais i newid
defnydd o A1 i A3 yn aros penderfyniad.
Roedd y swyddogion, yn unol â Deddf
Drwyddedu 2003, yn argymell i’r Pwyllgor gymeradwyo’r cais yn amodol ar y
telerau canlynol:
·
Rhaid i’r ymgeisydd sicrhau cydymffurfiaeth lawn
â’r caniatâd cynllunio, ac ni ddylai’r drwydded ddod i rym nes bod materion
cynllunio wedi’u datrys
·
Rhaid i’r oriau gweithredu a’r gweithgareddau
trwyddedig fod yn unol â’r oriau a ganiateir o dan y caniatâd cynllunio.
·
Dylid darparu asesiad effaith sŵn i fynd i’r
afael â phryderon Iechyd yr Amgylchedd ac i sicrhau atal niwsans cyhoeddus.
b)
Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:
·
Cyfle i Aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i
gynrychiolydd y Cyngor.
·
Ar ddisgresiwn y Cadeirydd, yr ymgeisydd neu ei
gynrychiolydd i ofyn cwestiynau i gynrychiolydd y Cyngor.
·
Rhoi cyfle i’r ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd
ymhelaethu ar y cais a galw tystion
·
Rhoi cyfle i Aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau
i’r ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd
·
Ar ddisgresiwn y Cadeirydd gall cynrychiolydd y
Cyngor ofyn cwestiynau i’r ymgeisydd neu ei gynrychiolydd
·
Rhoi gwahoddiad i bob Ymgynghorai gefnogi unrhyw
sylwadau ysgrifenedig
·
Rhoi cyfle i gynrychiolydd y Cyngor a’r ymgeisydd
neu ei gynrychiolydd grynhoi eu hachos.
·
Swyddog cyfreithiol i grynhoi gofynion y cais
c) Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â hawliau chwarae cerddoriaeth, nodwyd pe byddai’r cais yn cael ei ganiatáu bydd hawl gan yr ymgeisydd chwarae cerddoriaeth fyw ac wedi ei recordio a’i chwyddo hyd 23:00 - wedi hyn byddai angen rhybudd digwyddiad dros dro. Ategwyd bod Iechyd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4