Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 11/02/2026 - Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion (eitem 5)

5 POLISI TÂL GWEITHLU'R CYNGOR pdf eicon PDF 123 KB

I ystyried yr adroddiad a chynnig y Datganiad o Bolisi Tâl drafft i’r Cyngor fel un i’w fabwysiadu ar gyfer 2026/27.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

PENDERFYNIAD:

 

  • Bod y Pwyllgor Penodi yn cynnig y Datganiad o Bolisi Tal (drafft) i’r Cyngor Llawn ar Fawrth y 5ed 2026, fel un i’w fabwysiadau ar gyfer 2026/27
  • Galw ar y Prif Weithredwr i gynnal adolygiad mewnol i gyflogau Uwch Swyddogion fel modd o sicrhau cynaladwyedd, ac adrodd yn ôl i’r Pwyllgor pan fydd y gwaith wedi ei gwblhau.
  • Cais am adolygiad i dreuliau cynhaliaeth – i’w ystyried fel ychwanegiad i bolisi tâl 2027.

 

Nodyn:

  • Pwynt 4 o’r Polisi Tâl: Swyddi o dan lefel Prif Swyddog - angen ymestyn eglurhad y frawddeg ar gymarebau, a chynnwys mwy o wybodaeth rhwng cymarebau'r cyflog uchel a’r cyflog isaf (llawn amser). Cais i addasu’r adroddiad cyn ei gyflwyno i’r Cyngor Llawn

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Prif Weithredwr yn nodi, ers 2012 bod dyletswydd statudol ar bob Cyngor i baratoi Datganiad Polisi Tâl blynyddol gyda disgwyliad i’r Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion gynnal adolygiad blynyddol o gynaliadwyedd y polisi, a chyflwyno unrhyw argymhellion yn dilyn adolygu’r Polisi Tâl i’r Cyngor Llawn yn flynyddol. 

 

Amlygodd y Prif Weithredwr mai ymarfer da yw cael trosolwg blynyddol o’r polisi a chyhoeddi amodau gwaith staff yn unol â gofynion y Ddeddf. Nodwyd bod trafodaethau a negodi ynglŷn â chodiadau cyflog blynyddol yn digwydd tu allan i’r Cyngor - Prif Swyddogion yn cael eu pennu gan y Cydgyngor Cenedlaethol ar gyfer Prif Swyddogion a’r Cydgyngor Cenedlaethol ar Gyfer Gweithlu Llywodraeth Leol yn pennu cyflogau o dan lefel prif swyddogion. 

 

Yng Ngorffennaf 2025 daeth yr undebau sy’n cynrychioli prif swyddogion, a’r cyflogwr i gytundeb  ar gynnydd o 3.2% ar gyflog blynyddol pob prif swyddog ac yn ddiweddarach yn ystod yr Haf, cynnydd o 3.2% ar gyflog blynyddol pob Aelod o staff. Cytunwyd hefyd i ddileu pwynt 2 o’r strwythur tâl, gyda hynny i ddod yn weithredol o fis Ebrill 2026 ymlaen.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth ddilynol:

·        pryder colli swyddogion i awdurdodau cyfagos

·        angen ymestyn eglurhad y frawddeg ar gymarebau, a chynnwys mwy o wybodaeth rhwng cymarebau'r cyflog uchel a’r cyflog isaf (llawn amser).

·        angen mwy o wybodaeth am dreuliau cynhaliaeth – angen bod yn dryloyw

 

Mewn ymateb i gwestiwn am gyflogau prif swyddogion a sut roedd y lefelau yn cael eu gosod o ystyried bod amrywiaeth eang yn y cyflogau, a phryd yr adolygwyd y cyflogau ddiwethaf, nododd y Prif Weithredwr mai Aseswyr Allanol o gwmni Korn Ferry sydd yn  gosod, asesu ac adolygu lefelau cyflog prif swyddogion ac y bydd asesiad yn cael ei weithredu pan fydd angen penodi uwch swyddog i swydd wag / newydd. Ategodd bod adolygiad mewnol o’r cyflogau, sy’n cymharu cyflogau prif swyddogion gyda chyflogau cyfatebol Awdurdodau cyfagos, wedi ei weithredu rhyw dair mlynedd yn ôl, ond amserol fyddai cynnal adolygiad mewnol. Nododd y byddai hyn yn fodd o sicrhau cynaladwyedd, ac y byddai’n adrodd yn ôl i’r Pwyllgor pan fydd y gwaith wedi ei gwblhau.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chyfnod disgwyliedig i brif swyddog gymryd cyfrifoldeb ychwanegol / ysgwyddo baich, nodwyd bod y Cyngor yn ceisio osgoi sefyllfa o roi cyfrifoldebau ychwanegol gan nad yw hynny yn gynaliadwy ar sail tymor canolig / hir. Bydd anogaeth i arfarnu swydd os yw’r swyddogaethau / cyfrifoldebau yn parhau i gynyddu neu yn cael ei ystyried fel trefniant parhaol. Bydd arfarniad yn cael ei wneud drwy ddefnyddio methodoleg allanol sydd yn edrych ar gyfrifoldebau’r swydd, swyddi cyfatebol yng Ngwynedd a ffactorau cyflawni swydd. Er hynny, er bod pob Cyngor yn defnyddio'r un fethodoleg, gall amrediad cyflogau fod yn wahanol gyda graddfeydd Gwynedd yn ymddangos yn is na Chynghorau cyfagos.

 

Mewn ymateb i  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5